From education to employment

Students selected for Team UK Abu Dhabi

Alfie Hopkin
Two students from Coleg Sir Gâr are representing the UK at WordSkills, Abu Dhabi this October following a rigorous selection process.
Elizabeth Forkuoh, 20 and Alfie Hopkin, 19 both from Llanelli, are two out of four competitors from Wales who have been selected to compete as part of Team UK at the largest skills competition in the world.
Alfie Hopkin is competing in the web design competition and Elizabeth Forkuoh will compete in the restaurant services category.
Coleg Sir Gâr has an established reputation for students competing at national and international level.  Three have returned from EuroSkills with a gold and two silver medals and many others have competed as far as Sao Paulo and Calgary. 
As Skills Champion for Wales, college principal Barry Liles is at the helm of Wales’ involvement in skills competitions and is passionate about promoting the nation at international level. Coleg Sir Gâr also leads the Welsh Government funded project, Inspiring Skills Excellence in Wales, which supports Welsh competitors training to compete nationally and internationally.
Eliabeth BAE Awards 2017Elizabeth Forkuoh is no stranger to skills competitions having this year being awarded a British Education Award, which recognises her competition success including winning a UK-wide gold award for restaurant services at the Skills Show at Birmingham NEC in 2015. Receiving nationwide recognition for her skills, Elizabeth has been offered employment by a London-based Michelin star restaurant and has experienced a placement at The Ritz London.  As well as working at the Stradey Park Hotel in Llanelli, she is currently studying an NVQ level three diploma in hospitality supervision and leadership at Coleg Sir Gâr’s Pibwrlwyd campus following successful completion of qualifications in professional cookery, professional food and beverage and barista skills.
Alfie Hopkin, who is studying a level three extended diploma in IT in Llanelli, began his competition journey in 2015 when he won the Welsh heat of a web design competition run by Skills Competitions Wales, the launch pad into the international skills arena. He then won a bronze award in the national final and was selected for Squad UK with four other competitors.  He has gained the only place available in the UK team to compete in web design at Abu Dhabi following a recent team selection event in Manchester.  He will begin intense training in the UK and overseas including competing in the Canadian web design final in Winnipeg in May.
Barry Liles, Coleg Sir Gâr principal and Welsh Government Skills Champion for Wales has been driving the skills agenda in Wales for a number of years. He said: “The competitions aim to inspire young people to be ambitious and exceptional within their area of expertise.
 
“Driving excellence in skills helps businesses to compete and in turn helps Wales and the UK proudly compete in a global market. I am thrilled with Wales’ performance and very proud of our Coleg Sir Gâr students.”
 
Myfyrwyr i gystadlu yn Abu Dhabi yn Nhîm y DU
Mae dau fyfyriwr o Goleg Sir Gâr yn cynrychioli’r DU yn WorldSkills, Abu Dhabi y mis Hydref hwn yn dilyn proses ddewis drwyadl.
Mae Elizabeth Forkuoh ac Alfie Hopkin yn ddau allan o bedwar cystadleuydd o Gymru sydd wedi eu dewis i gystadlu fel rhan o Dîm y DU yng nghystadleuaeth sgiliau fwya’r byd.
Mae Alfie Hopkin yn cystadlu yn y gystadleuaeth dylunio gwefannau a bydd Elizabeth Forkuoh yn cystadlu yn y categori gwasanaethau bwyty.
Mae Coleg Sir Gâr wedi ennill enw da iddo’i hun am fyfyrwyr sydd yn cystadlu ar lefel genedlaethol a rhyngwladol.   Dychwelodd dri ohonynt o EuroSkills gyda medal aur a dwy fedal arian ac mae nifer o rai eraill wedi cystadlu mor bell i ffwrdd â Sao Paulo a Calgary. 
Fel Hybwr Sgiliau Cymru, mae Barry Liles, prifathro’r coleg wrth y llyw o ran Cymru’n cymryd rhan mewn cystadlaethau sgiliau ac mae’n frwdfrydig iawn ynghylch hybu’r genedl ar lefel ryngwladol.  Mae Coleg Sir Gâr hefyd yn arwain ar y prosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru, Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru, sy’n cefnogi cystadleuwyr o Gymru i gystadlu yn genedlaethol a rhyngwladol.
Nid yw cystadlaethau sgiliau yn ddieithr i Elizabeth Forkuoh gan iddi eleni ennill Gwobr Addysg Prydain, sy’n cydnabod ei llwyddiant wrth gystadlu gan gynnwys ennill gwobr aur dros y DU am wasanaethau bwyty yn y Sioe Sgiliau yn yr NEC yn Birmingham yn 2015. Mae sgiliau Elizabeth yn cael eu cydnabod ledled y wlad, ac mae wedi cael cynnig gwaith mewn bwyty seren Michelin yn Llundain ac wedi cael profiad o leoliad gwaith yn y Ritz yn Llundain.  Yn ogystal â gweithio yng Ngwesty Parc y Strade yn Llanelli, mae hi ar hyn o bryd wrthi’n astudio ar gwrs diploma NVQ lefel tri mewn goruchwylio ac arwain lletygarwch ar gampws Pibwrlwyd Coleg Sir Gâr, ar ôl llwyddo i gwblhau cymwysterau mewn coginio proffesiynol, a sgiliau bwyd a diod a barista proffesiynol. 
Dechreuodd Alfie Hopkin, sy’n astudio diploma estynedig lefel 3 mewn TG yn Llanelli, ar ei siwrnai gystadlu yn 2015 pan enillodd rownd Cymru o gystadleuaeth dylunio gwefannau a gynhaliwyd gan Cystadleuaeth Sgiliau Cymru, y man lansio i’r arena sgiliau ryngwladol. Wedyn enillodd wobr efydd yn y rownd derfynol genedlaethol a chafodd ei ddewis i Garfan y DU gyda phedwar cystadleuydd arall.  Yn dilyn digwyddiad dewis tîm diweddar ym Manceinion, mae wedi ennill yr unig le sydd ar gael yn nhîm y DU i gystadlu mewn dylunio gwefannau yn Abu Dhabi.  Bydd yn cychwyn ar hyfforddiant dwys yn y DU a thramor gan gynnwys cystadlu yn rownd derfynol Canada ar gyfer dylunio gwefannau yn Winnipeg ym mis Mai.
Mae Barry Liles, prifathro Coleg Sir Gâr a Hybwr Sgiliau Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyrru’r agenda sgiliau yng Nghymru ers sawl blwyddyn. Meddai: “Nod y cystadlaethau yw ysbrydoli pobl ifanc i fod yn uchelgeisiol ac yn eithriadol ym maes eu harbenigedd.
 
“Mae gyrru rhagoriaeth mewn sgiliau yn helpu busnesau i gystadlu ac yn ei dro mae hyn yn helpu Cymru a’r DU i gystadlu gyda balchder mewn marchnad fyd-eang. Rwyf wrth fy modd gyda pherfformiad Cymru ac yn hynod falch o fyfyrwyr Coleg Sir Gâr.”

Related Articles

Responses