From education to employment

Cydnabyddiaeth i staff yn nigwyddiad Gwobrau Gwasanaethau Hirdymor

Yn ddiweddar, cynhaliodd Coleg Gŵyr Abertawe ddigwyddiad llewyrchus yn Stadiwm y Liberty er mwyn anrhydeddu aelodau o staff sydd â dros 20 mlynedd o wasanaeth.

“Dyma’r ail flwyddyn yn olynol i ni gynnal digwyddiad Gwobrau Gwasanaethau Hirdymor. Mae’n bwysig ein bod yn cydnabod ymrwymiad a theyrngarwch cynifer o aelodau’n staff,” meddai Cyfarwyddwr yr Adnoddau Dynol, Sarah King. “Roedd hefyd yn gyfle perffaith i arddangos côr newydd staff y Coleg am y tro cyntaf , a braf yw dweud eu bod wedi creu cryn argraff drwy berfformio mor arbennig.”

Ymhlith yr rhai oedd yn dathlu dros 30 o wasanaethu’r Coleg oedd  Barbara Beddows (swyddog cymorth addysg), Gilian Thomas (darlithydd), Clare Fisher (rheolwr arholiadau a MIS) a Fran Burkett (technegydd labordy).

Yn bresennol hefyd – ac yn cael eu cymeradwyo am fwy na 20 mlynedd o wasanaeth – oedd Kim Ford (cynorthwyydd arlwyo), Alsion Booth (prif diwtor), Leanne Dalling (swyddog y gyfadran), Tristram Arnold a Ian Parkhouse (technegwyr TG), Annie Bentley (technegydd trin gwallt) Jane John (arweinydd/darlithydd cydraddoldeb ac amrywiaeth), Lucy Hartnoll (rheolwr maes dysgu), Hywel Peckham, Lee Hayward, Paul John, Ruth Benson (arweinwyr y cwricwlwm), Melaine Cook (ymgynghorydd y llyfrgell) a Adele Bubear (cydlynydd).

Derbyniodd y staff wobrau personol cyn cael eu gwahodd i fwynhau ychydig o siampên Nadoligaidd a the prynhawn.

Lluniau: Peter Price Media


Related Articles

Responses