From education to employment

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer saith categori mewn gwobrau AD o’r radd flaenaf

Datgelwyd bod Coleg Gŵyr Abertawewedi cyrraedd y rownd derfynol mewn saith categori yng ngwobrau Adnoddau Dynol Cymru 2019, sy’n cydnabod ac yn dathlu cyflawniadau gweithwyr proffesiynol AD ledled Cymru.

Ar ôl lansio’r digwyddiad yn 2017, mae wedi profi i fod yn un o ddigwyddiadau mwyaf cyffrous rhwydwaith AD Cymru, sef grŵp proffesiynol blaenllaw yn y maes rhannu barn a rhwydweithio. Cafodd ei sefydlu (a’i rhedeg) gan gwmni cyfreithiol masnachol Darwin Gray ac Acorn, arbenigwyr recriwtio sydd wedi’u lleoli yng Nghaerdydd

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer yng nghategori Cyflogwr y Flwyddyn a Thîm AD y flwyddyn, gyda Chyfarwyddwr AD Sarah King yn cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y Fenter AD Gorau, Cyfarwyddwr AD y Flwyddyn a’r Gweithiwr Adnoddau Dynol Gorau yn y sector Cyhoeddus/Trydydd.

Yn ogystal, mae Rachael Leahy wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Prentis/Hyfforddai/Cynorthwyydd y Flwyddyn, gyda Sally Davies, Rheolwr AD, wedi’i rhestri ar gyfer Defnydd Gorau o’r Gymraeg.

Gyda Sian Lloyd (BBC) yn cyflwyno’r noson, mae’r Gwobrau yn gyfle i gydnabod  gweithwyr proffesiynol AD gorau ar draws amrywiaeth o ddiwydiannau – gan arddangos a chymeradwyo unigolion a thimoedd gorau AD, addysgu a rheoli pobl ledled Cymru, dros y 12 mis diwethaf.

Mae Sarah King, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol y Coleg wrth ei bodd gyda’r newyddion: “Rydym wrth ein boddau o fod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer saith gwobr AD Cymru blwyddyn yma. Mae’n adlewyrchiad o holl waith caled mae’r adran wedi’i gyflawni dros y 12 mis diwethaf.

“Credwn fel sefydliad taw’r allwedd i’n llwyddiant yw’n pobl, a chredwn fod adran yr AD yn allweddol wrth gyflawni hyn. Rydym yn hynod o falch ein bod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Cyflogwr y Flwyddyn gan fod hyn yn dangos ein bod yn ymrwymedig i’n staff.”

Roedd Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe, Mark Jones, yn hynod o falch yn ogystal, dywedodd: “Rwy’n falch iawn bod arferion arloesol a gwaith arbennig ein timoedd AD ar draws y Coleg wedi cael eu cydnabod eleni yng ngwobrau’r AD – hoffwn longyfarch a diolch y staff am eu gwaith a arweinodd at y gydnabyddiaeth haeddiannol yma.”

Dywedodd Fflur Jones, Pennaeth Cyfraith Gyflogaeth Darwin Gray: “Mae’r nifer o geisiadau yr ydym wedi eu derbyn eleni ledled Cymru mewn amrywiaeth o ddiwydiannau wedi bod yn anhygoel. Mae’n braf gweld ceisiadau yn llifo mewn o Ogledd a Gorllewin Cymru, sy’n adlewyrchu’n dda ar ddylanwad cynyddol Gwobrau blynyddol blaenllaw Rhwydwaith AD Cymru. Dylai bawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer fod yn falch iawn o’r ffaith eu bod wedi mynd mor bell yn y broses.”

Dywedodd Maria Laracombe, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Recriwtio Acorn De Cymru: “Mae Gwobrau AD Cymru yn blatfform perffaith i gydnabod angerdd a phroffesiynoldeb dawn AD Cymru. Rydym wedi bod wrth ein boddau gyda niferoedd y ceisiadau, ac mae ansawdd rhagorol y gwaith a ddangoswyd wedi gwneud y broses feirniadu yn anodd iawn. Hoffwn ddymuno pob lwc i bawb sydd ar y rhestr fer ac edrychwn ymlaen at ddathlu llwyddiant pawb ar Mawrth 22.”

Bydd yr enillwyr yn cael eu datgan yn y digwyddiad tei du ar ddydd Gwener 22 Mawrth yng Ngwesty’r ‘Exchange’, yng Nghaerdydd.


Related Articles

Responses