From education to employment

Rhagor o fedalau sgiliau i fyfyrwyr SBA

Mae tîm o fyfyrwyr ILS Coleg Gŵyr Abertawe wedi ennill medal Efydd yn y gystadleuaeth Sgiliau Cynhwysol (Y Cyfryngau) a gynhaliwyd yn ddiweddar yng Ngholeg y Cymoedd, Nantgarw.

Roedd Connor Maddick, Megan Bevan a Courtney Collins wedi ffilmio, cynhyrchu a golygu ffilm ddwy funud yn seiliedig ar thema ramantus Santes Dwynwen.

Nid yn unig roedd y broses o wneud y ffilm wedi rhoi eu doniau creadigol, technegol a galwedigaethol ar brawf ond roedd hefyd wedi rhoi cyfle gwych iddynt gynrychioli Coleg Gŵyr Abertawe mewn cystadleuaeth genedlaethol.

Cyflwynwyd eu darn o waith gorffenedig i banel o feirniaid, gan gynnwys cynrychiolwyr o’r BBC a Big Ideas Wales, a gymeradwyodd y tri myfyriwr ar eu sgiliau cynhyrchu a golygu.

“Roedd y myfyrwyr yn genhadon ardderchog dros y Coleg ac yn glod go iawn i’r adran ILS,” dywedodd yr Arweinydd Cwricwlwm Liam Millinship.


Related Articles

Responses