From education to employment

Myfyrwyr rhyngwladol yn dathlu’r cynigion prifysgol gorau

Mae ein myfyrwyr rhyngwladol ar hyn o bryd yn dal cynigion gan rai o’r prifysgolion gorau yn y DU, gan gynnwys 20 o’r 24 o Brifysgolion Russell Group.

“Mae hyn yn dystiolaeth bellach o’r safon dysgu ac addysgu rhagorol yng Ngholeg Gŵyr Abertawe,” dywedodd y Rheolwr Rhyngwladol Kieran Keogh.

“Dros y tair blynedd diwethaf, mae mwy na 90% o’n myfyrwyr Rhyngwladol wedi symud ymlaen i Brifysgolion Russell Group gan gynnwys Rhydgrawnt, ac – yn seiliedig ar y cynigion prifysgol eleni – mae’n ymddangos bod y tuedd hwnnw yn mynd i barhau.”

Mae’r prifysgolion canlynol yn y DU wedi cynnig lleoedd i fyfyrwyr Rhyngwladol Coleg Gŵyr Abertawe:

  • Prifysgol Caergrawnt
  • Coleg Imperial Llundain
  • St. Andrews
  • Durham
  • UCL
  • Caerhirfryn
  • Warwig
  • Caerfaddon
  • Caerwysg
  • Leeds
  • Bryste
  • Birmingham
  • Nottingham
  • Manceinion
  • Surrey
  • Southampton
  • Efrog
  • Newcastle
  • Caeredin
  • Coleg y Brenin Llundain
  • Sheffield
  • Abertawe
  • Caerdydd
  • Queen Mary
  • Lerpwl

Related Articles

Responses