From education to employment

Prentis y Flwyddyn yn trafod ei llwyddiant gyda disgyblion ysgol uwchradd

Mae merch 19 oed o Bort Talbot yn annog disgyblion o’i chyn-ysgol uwchradd i ystyried prentisiaethau fel llwybr i yrfa lwyddiannus.

Roedd Sally Hughes yn ddisgybl yn Ysgol Cwm Brombil, Port Talbot, cyn mynychu Coleg Castell-nedd i wneud bioleg, cemeg a seicoleg Safon UG. Ar ôl cwblhau’i blwyddyn, aeth ymlaen i Goleg Gŵyr Abertawe i astudio BTEC Lefel 3 mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol. 

Cyn Wythnos Prentisiaethau Cymru 2019, dychwelodd Sally i’w hen ysgol i siarad â myfyrwyr cyfredol am ei phrofiad llwyddiannus fel prentis.

Wedi dwy flynedd yn y coleg, roedd Sally yn dal heb ei hysbrydoli – felly dyma fynd i chwilio am gyfleoedd i ddilyn ei diddordeb mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM).

Meddai Sally: “Roedd y byd peirianneg wedi apelio erioed, ond roeddwn i wedi cymryd taw’r coleg oedd yr unig opsiwn ar ôl gadael ysgol. Ond ar ôl i ffrind sôn am brentisiaeth gyda Tata Steel, sylweddolais y gallwn ddechrau gweithio mewn maes o ddiddordeb angerddol i mi tra’n gweithio tuag at gymhwyster. Roedd yn ddelfrydol!”

Heddiw, mae’n brentis Labordy Technegol sy’n gweithio tuag at brentisiaeth HNC Lefel 4 mewn Gwyddorau Cemegol.

“Mae pob diwrnod yn wahanol, a dw i’n dysgu rhywbeth newydd bob tro. Mae gweithio mewn amgylchedd go iawn wedi rhoi cyfle i mi ddefnyddio’r hyn a ddysgais yn y coleg a’i roi ar waith – mae mor fanteisiol i fy natblygiad i”, meddai Sally a gipiodd deitl ‘Prentis y Flwyddyn’ Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2018.

“Yn ystod eich dwy flynedd gyntaf fel prentis, rydych chi’n gweithio ar batrwm cylch ledled y saith labordy ac felly’n cael cyfle i ddysgu sawl sgil wahanol ar draws timau gwahanol.

“Yn fy nhrydedd flwyddyn, cefais gyfle i ddewis fy nhri hoff faes o’r busnes a gweithio yn yr amrwiol adrannau, pob un am chwe mis, gan gwblhau prosiectau ym mhob maes.

“Yn ystod y drydedd flwyddyn, cefais gynnig secondiad i wneud shifftiau er mwyn cyflymu fy hyfforddiant – rhagflas a pharatoad da iawn cyn cychwyn ar rôl go iawn ym mis Medi 2019.

“Dw i’n astudio Prentisiaeth HNC Lefel 4 mewn Gwyddorau Cemegol, gan  weithio shifftiau pedwar diwrnod o waith a phedwar diwrnod i ffwrdd, ac yn treulio undydd o’r wythnos yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.

“Y llynedd, bues i’n ddigon ffodus i gael fy newis i gwblhau rhaglen Erasmus+ i ymweld â ffatri Tata Steel yn yr Iseldiroedd. Nod y daith oedd cymharu rhaglenni prentisiaeth yn y ddwy wlad, a gweld a allwn ni rannu’r hyn a ddysgwyd a chyflwyno technegau newydd i’r labordy.

“Dw i wrth fy modd gyda ’mhrentisiaeth, ac yn gobeithio camu ymlaen mor uchel â phosib o fewn y cwmni.”

Dywedodd Sally ei bod hi’n benderfynol o gyflawni o’i gorau trwy fanteisio ar bob cyfle sydd ar gael iddi, ac mae’n gobeithio y bydd ei hanes yn dangos i ddisgyblion Ysgol Cwm Brombil y gall prentisiaethau fod yn llwybr tuag at yrfa lwyddiannus a gwerth chweil.

Meddai Mathew Davies, Cynghorydd Hyfforddiant Technegol Tata Steel: “Rydyn ni’n recriwtio prentisiaid gan ei bod hi’n anodd dod o hyd i’r doniau sydd eu hangen ar gyfer y diwydiant cymhleth hwn. Mae ein rhaglenni prentisiaeth yn sicrhau bod gennym gronfa barod o dalentau y gallwn eu codi drwy’r rhengoedd i rolau uwch weithredwyr ac arweinwyr tîm.

“Mae Sally wedi bod yn rhan allweddol o’r tîm ers y diwrnod cyntaf. Llwyddodd i addasu i’r timau’n gyflym, ac mae ganddi amcanion a dyheadau clir o’i rôl o fewn y Labordai, a dyna pam wnaethon ni roi cyfle iddi gael secondiad i waith shifftiau wrth astudio ei chwrs HNC Lefel 4 mewn Gwyddorau Cemegol. Mae’n wych ei gweld yn cymryd camau breision prin ddwy flynedd ers ymuno â Tata.”

Meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: “Mae Sally yn enghraifft berffaith o rywun sydd wedi defnyddio prentisiaeth i gael y sgiliau angenrheidiol i gamu ymlaen mewn bywyd. Trwy ymweld â’i hen  ysgol, mae Sally yn rhoi’r wybodaeth a’r anogaeth i brentisiaid y dyfodol er mwyn sicrhau eu bod nhw’n gwneud penderfyniad hyddysg wrth feddwl am eu llwybrau gyrfaol.

 “Mae Wythnos Prentisiaethau Cymru’n gyfle delfrydol i ddathlu hyfforddiant galwedigaethol a’r holl bobl sydd eisoes yn elwa ar brentisiaethau. Er ein bod ni’n dathlu Wythnos Prentisiaethau Cymru bob gwanwyn, mae Rhaglen Prentisiaethau Llywodraeth Cymru’n para gydol y flwyddyn er mwyn tynnu sylw at y cyfleoedd a’r cymorth sydd ar gael i brentisiaid a’r cyflogwyr sy’n eu croesawu nhw.”

Ariennir Rhaglen Prentisiaethau Cymru gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

I gael rhagor o wybodaeth am fod yn brentis, ewch i www.gyrfacymru.com neu ffoniwch 0800 0284844, ewch i www.facebook.com/apprenticeshipscymru @apprenticewales ar Twitter a dilynwch yr hanes gyda’r hashnod #WPCymru.


Related Articles

Responses