From education to employment

Annog disgyblion i ‘anelu’n uchel’ mewn digwyddiad Coleg

Yn ddiweddar, trefnodd Coleg Gŵyr Abertawe ddigwyddiad arbennig i ddisgyblion Blwyddyn 10 o ysgolion uwchradd ar draws Abertawe.

Roedd lansiad rhaglen Sylfaen Seren yn Stadiwm Liberty wedi rhoi cyfle i bron 400 o bobl ifanc ddysgu rhagor am yr amrywiaeth o ddewisiadau addysg uwch y gallent eu harchwilio ar ôl cwblhau eu cyrsiau Safon Uwch.

“Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, rydyn ni’n teimlo ei bod hi’n bwysig iawn plannu’r hedyn ym meddyliau’r disgyblion hyn – bod symud ymlaen i un o’r prifysgolion gorau yn wirioneddol bosibl os ydyn nhw’n eu hysgogi eu hunain,” dywedodd Deon y Gyfadran Ruth Prosser.

Ymhlith y siaradwyr gwadd roedd cyn-fyfyriwr Coleg Gŵyr Abertawe Daniel Powell, sydd bellach yn Bennaeth Allgymorth yn y Coleg Newydd, Rhydychen. Roedd Daniel wedi sôn am ei daith ddysgu ei hunan, ei lwyddiannau a’i aflwyddiannau personol, a’r athrawon ysbrydoledig a helpodd i’w siapio ar hyd y ffordd. Ei neges allweddol i’r disgyblion oedd, yn syml, ‘byddwch yn chi’ch hunan a chredwch ynddoch chi’ch hun.’

“Mae’n wirioneddol bwysig bod y disgyblion hyn yn dechrau archwilio eu holl ddewisiadau mor gynnar ag sy’n bosibl,” ychwanegodd tiwtor arweiniol Rhydgrawnt y Coleg Felicity Padley. “Roedd cael myfyrwyr presennol a chyn-fyfyrwyr o Goleg Gŵyr Abertawe yn y digwyddiad i rannu eu profiadau ac ateb cwestiynau yn ffordd wych iddyn nhw ddysgu rhagor. Roedd hefyd yn gyfle bendigedig iddyn nhw gwrdd â chynrychiolwyr o brifysgolion gan gynnwys Rhydychen, Caergrawnt, Caerdydd a Chaerfaddon.”

Mae unarddeg o fyfyrwyr o Goleg Gŵyr Abertawe wedi cael cynnig lle i astudio ym Mhrifysgol Rhydychen neu Brifysgol Caergrawnt yn 2019, ac roedd chwech ohonynt yn bresennol yn y digwyddiad yn Stadiwm Liberty.


Related Articles

Responses