From education to employment

Karly yn ennill dwy wobr

Mae cyn myfyriwr mynediad o Goleg Gŵyr Abertawe wedi dod yn ail yn seremoni flynyddol Coffa Keith Fletcher.

Bydd Karly Jenkins, astudiodd Mynediad i Les Cymdeithasol yn y Coleg, cyn mynd i astudio cwrs gradd mewn gwaith cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe, yn mynychu digwyddiad cyflwyno arbennig ym Mhalas San Steffan, ar 24 Chwefror.

Dyma fydd yr ail wobr i Karly dderbyn eleni, gan mai hi hefyd enillodd gwobr Dysgwr Mynediad y Flwyddyn (Agored Cymru) yng nghategori’r Ymrwymiad Eithriadol i Astudio.

Wedi diagnosis o Anhwylder Straen Wedi Trawma, awgrymodd therapydd Karly y dylai ddechrau rhaglen dysgu i oedolion er mwyn adennill rhywfaint o hunanhyder.

“Mae stori Karly yn hollol ryfeddol,” meddai Suzanne Arnold, Arweinydd Cwricwlwm rhaglenni Mynediad Coleg Gŵyr Abertawe. “Bu Karly golli ei rhieni’n ifanc. Mae wedi brwydro yn erbyn heriau corfforol a heriau iechyd meddwl, gan gynnwys strociau pan oedd hi’n feichiog yn ogystal â dioddef ‘breakdown’ ar ôl rhoi genedigaeth. Mae Karly wir wedi dangos hydwythedd anhygoel bob cam o’r ffordd.

“Yn llygaid Karly, roedd astudio yn y Coleg yn gyfle i ennill llechen lan yn ogystal â’n gyfle i wella’n llwyr o’i thostrwydd. Mae pawb yn nhîm addysgu Mynediad wedi eu syfrdanu gan ei dewrder a’i hymroddiad. Mae Karly bellach eisiau cefnogi’r rhai sydd yn y sefyllfa y bu hi ynddi ei hun, gan helpu i gadw teuluoedd gyda’i gilydd a gwella disgwyliadau bywyd ar gyfer pobl sy’n agored i niwed.”

“Mi fydd hi’n weithiwr cymdeithasol penigamp.”

Bu Keith Fletcher yn gweithio am gyfnod hir yn Ne Orllewin Lloegr gan ymgymryd â gwaith Dilysu Mynediad Asiantaethau (AVAs). Roedd Keith yn gefnogwr brwd o Fynediad i AB.

Photo and video: Agored Cymru


Related Articles

Responses