From education to employment

Sesiynau blasu am ddim ar gael ar gyfer Gŵyl Ddysgu Abertawe

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o gymryd rhan yng Ngŵyl Ddysgu Abertawe 2019 sy’n cael ei chynnal 1-6 Ebrill.

Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o sesiynau blasu am ddim i gyd-fynd â’r ŵyl – mae’r rhain yn cynnwys:

  • Gwneud printiau (2 Ebrill) a gofaint arian (3 Ebrill) ar Gampws Llwyn y Bryn –
    e-bostiwch [email protected] i gael rhagor o wybodaeth
  • Gwaith cynnal a chadw cerbydau modur sylfaenol ar Gampws Tycoch (2 Ebrill) –
    e-bostiwch [email protected] i gadw lle
  • Amrywiaeth o sesiynau blasu iechyd a gofal (3 Ebrill) gan gynnwys iaith arwyddion, cyflwyniad i gymorth cyntaf, diogelwch bwyd ac ymwybyddiaeth diabetes –
    e-bostiwch [email protected] i wybod rhagor

Yn ogystal, bydd stondin gan y Coleg yng Nghanolfan Siopa’r Cwadrant ar ddydd Llun 1 Ebrill a dydd Mawrth 2 Ebrill – dewch i’n gweld i wybod rhagor am ein hamrywiaeth o gyrsiau rhan-amser.


Related Articles

Responses