From education to employment

Gallai Bagloriaeth Cymru fod yn gymhwyster gwobrwyol os caiff ei gyflwyno’n effeithiol

Mae Bagloriaeth Cymru yn gymhwyster effeithiol a gwerthfawr lle caiff ei gyflwyno’n dda, yn ôl Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad Cenedlaethol.

Gall y cymhwyster gynnig sgiliau ar gyfer dysgu a chyflogadwyedd yn y dyfodol na fyddent, fel arall, yn cael eu datblygu dan gymwysterau mwy traddodiadol, ond mae negyddoldeb yn gysylltiedig â Bagloriaeth Cymru ymhlith dysgwyr a gweithwyr addysg proffesiynol.

Canfu’r Pwyllgor nad yw rhai ysgolion yng Nghymru yn ei werthfawrogi a’u bod o’r farn ei fod yn cymryd llawer o amser. Cafodd canfyddiadau negyddol eraill a nodwyd eu priodoli i ddiffyg dealltwriaeth o ddiben a chynnwys cymhwyster Bagloriaeth Cymru. Hefyd, clywodd y Pwyllgor dystiolaeth bod anghysondeb wrth gyflwyno Bagloriaeth Cymru ar draws Cymru.

Yn y cyfamser, mae dryswch o hyd ynghylch y ffordd y mae prifysgolion ar draws y DU yn asesu/canfod Bagloriaeth Cymru fel cymhwyster, gan gynnwys a dderbynnir ei bod yn cyfateb i Safon Uwch. Hefyd, mae diffyg dealltwriaeth ymhlith cyflogwyr o ran diben y cymhwyster, er gwaethaf ffocws ar roi’r sgiliau trosglwyddadwy i bobl ifanc sydd eu hangen i’w gwneud yn barod ar gyfer y byd gwaith.

Mae’r Pwyllgor am weld datganiad cliriach gan Lywodraeth Cymru am ei gweledigaeth ar gyfer Bagloriaeth Cymru ac ar y disgwyliadau a’r adnoddau sydd eu hangen i’w chyflawni. Mae hefyd yn argymell ymgyrch eang i godi ymwybyddiaeth o fanteision y cymhwyster ymysg busnesau a sefydliadau addysg uwch.

Cynhwysodd y Pwyllgor bobl ifanc yn ei ymchwiliad, drwy gynnal arolwg a grwpiau ffocws, a chasglodd amrywiaeth eang o safbwyntiau gwahanol, rhai cadarnhaol a negyddol. Un pryder a godwyd gan bobl ifanc yw bod pwysau ymgymryd â Bagloriaeth Cymru yn ychwanegu straen ar adeg pan oeddent eisoes yn wynebu pwysau cyrsiau neu arholiadau eraill.

Roedd natur orfodol y cymhwyster yn ychwanegu at straen disgyblion – gyda llawer yn dadlau na ddylai’r cymhwyster fod yn orfodol. Canfu’r Pwyllgor fod polisi Llywodraeth Cymru ynghylch mabwysiadu’r cymhwyster yn gyffredinol yn aneglur ac y dylai gryfhau ei chanllawiau ar hyn.

Dywedodd Lynne Neagle AC, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, y canlynol:

“Roeddem am glywed yn uniongyrchol gan y rhai ar y rheng flaen – disgyblion, rhieni, athrawon, cyflogwyr a phrifysgolion – ynghylch eu profiadau o Fagloriaeth Cymru i ganfod pa mor eang oedd yr heriau a fynegwyd inni.

“Gwelsom y gellir priodoli canfyddiadau negyddol o Fagloriaeth Cymru i ddiffyg dealltwriaeth o ddiben a chynnwys y cymhwyster, a’r anghysondeb wrth ei darparu ledled Cymru.

“Serch hynny, canfuwyd hefyd fod dealltwriaeth o Fagloriaeth Cymru yn tyfu a chyda hynny, mwy o ymdeimlad o’r gwerth y gall ei hychwanegu at sgiliau a phrofiadau dysgwyr.”

Mae’r Pwyllgor yn credu bod angen i Lywodraeth Cymru ddysgu gwersi o Gymhwyster Bagloriaeth Cymru cyn i’r cwricwlwm newydd yng Nghymru gael ei gyflwyno, gan fod cyfathrebu gwael, diffyg dealltwriaeth a diffyg adnoddau i gyd wedi cyfrannu at brofiadau dysgu is-safonol i rai disgyblion.

Dywedodd Lynne Neagle AC y canlynol:

“Er gwaethaf ein hamheuon cychwynnol, dangosodd y dystiolaeth a gasglwyd gennym rinwedd amlwg o astudio Bagloriaeth Cymru, yn enwedig o ran ehangder y sgiliau a ddatblygir gan ddysgwyr ar gyfer dysgu yn y dyfodol, cyflogaeth a bywyd.

“Fodd bynnag, daethom i’r casgliad bod y ffordd y mae’r cymhwyster yn cael ei ddarparu ar hyn o bryd a’r cyhoeddusrwydd o’i amgylch yn cael effaith niweidiol ar ei werth gwirioneddol a thybiedig.

“Mae’r canolfannau dysgu yn parhau i fod yn bryderus o anghyson, ac mae dyblygu ymdrech a gofynion asesu na ellir eu rheoli yn arwain at athrawon a dysgwyr sydd wedi cael digon. Er mwyn gwireddu potensial Bagloriaeth Cymru yn llawn, mae angen mynd i’r afael â’r materion hyn fel mater o flaenoriaeth.”

Gwnaeth y Pwyllgor 10 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys:

  • Bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi datganiad cliriach am ei gweledigaeth ar gyfer Bagloriaeth Cymru, wedi’i ategu gan ganllawiau sy’n rhoi manylion am ei disgwyliadau o ran cysondeb darpariaeth y cymhwyster yng Nghymru a’r adnoddau y dylai ysgolion a cholegau eu darparu i addysgu’r cymhwyster yn effeithiol;
  • Bod Llywodraeth Cymru a Cymwysterau Cymru yn cydweithio i ddarparu ymgyrch codi ymwybyddiaeth â ffocws ar gyfer busnesau a sefydliadau addysg uwch. Dylai’r ymgyrch hon geisio cynyddu dealltwriaeth o’r sgiliau a ddatblygir o dan Fagloriaeth Cymru ac annog mwy o gydweithio gyda’r sectorau hynny wrth ddylunio a darparu, er mwyn sicrhau eu hymgysylltiad a’u cyfranogiad,
  • Bod Llywodraeth Cymru yn gwneud gwaith i ddarparu rhestr gynhwysfawr o’r prifysgolion hynny sy’n derbyn Bagloriaeth Cymru yn eu cynigion. Dylai’r rhestr hon gynnwys manylion am sut yn union y mae pob prifysgol yn trin Bagloriaeth Cymru.

Bellach, bydd yr adroddiad yn cael ei drafod gan Lywodraeth Cymru.

Fel rhan o’n harolwg ar Fagloriaeth Cymru gofynnwyd i ddysgwyr a rhieni…

…..pa mor ddefnyddiol yw Bagloriaeth Cymru wrth baratoi ar gyfer gwaith a bywyd

Teimlai dros 50 y cant o’r ymatebwyr fod Bagloriaeth Cymru yn llai defnyddiol na chymwysterau eraill wrth baratoi ar gyfer gwaith a bywyd.

Nid oedd 66 y cant o’r ymatebwyr yn teimlo y byddai Bagloriaeth Cymru yn werthfawr i yrfaoedd yn y dyfodol

…. faint o amser mae’n ei gymryd i astudio Bagloriaeth Cymru

Teimlai bron i 70 y cant o’r ymatebwyr fod Bagloriaeth Cymru yn cymryd mwy o amser na chymwysterau ‘cyfwerth’ eraill.

… yr effaith a gafodd astudio Bagloriaeth Cymru ar astudio cymwysterau eraill

Teimlai hanner yr ymatebwyr ei fod wedi cael effaith negyddol, gyda 57 y cant yn dweud ei fod yn cymryd gormod o amser

Roedd rhai ohonynt o’r farn bod Bagloriaeth Cymru yn gymhwyster da ond roeddent eisiau dewis ynghylch a ddylid ei astudio ai peidio

“NI ddylai Cymhwyster Bagloriaeth Cymru, yn enwedig ar Safon Uwch, fod yn orfodol. Dylid caniatáu i ddysgwyr ei astudio os ydynt yn dewis gwneud, ond ni ddylid gorfodi’r rhai nad ydynt am ei astudio/nad oes angen iddynt ei astudio i wneud hynny.”

Hyrwyddo a dadansoddi’r arolwg

Hysbysebwyd yr arolwg drwy rwydweithiau pwyllgorau, Twitter, ymweliadau ag ysgolion gan dîm Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc y Cynulliad a gweithdai Allgymorth. Casglwyd 1,203 o ymatebion, lle’r oedd 777 ohonynt gan bobl ifanc a 426 gan rieni/gwarcheidwaid. Nid yw’n darparu sampl gynrychioliadol o’r boblogaeth.


Related Articles

Responses