From education to employment

Dyfais tracio anifeiliaid anwes direidus yn llwyddiant i fyfyrwyr TG

Mae myfyrwyr sy’n dilyn cwrs Diploma Lefel 3 90 Credyd mewn TG yng Ngholeg Gŵyr Abertawe wedi cyflwyno eu prosiect diweddaraf yn Ffair y Glec Fawr yn y Weinyddiaeth Amddiffyn, Sain Tathan.

Roedd y digwyddiad hwn, a drefnwyd gan EESW/Stem Cymru, wedi denu dros 80 o dimau o ysgolion a cholegau ar draws De Cymru.

Yn ogystal â dylunio a datblygu eu dyfais tracio anifeiliaid anwes Geo Paw, roedd Josh James, Josh Brudenell, Jack Croft a Lauren Jones wedi hyrwyddo’r ddyfais hefyd ar y cyd â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant gan ddefnyddio technoleg Arduino, synwyryddion diwifr GPS a GPRS ac argraffyddion 3D.

“Y syniad, yn syml, yw strapio’r ddyfais Geo Paw am goler eich anifail anwes a fydd e byth yn mynd am dro hebddoch chi eto,” dywedodd Josh James. “Mae’r defnyddiwr yn gallu anfon neges destun i’r ddyfais a bydd yn anfon neges yn ôl gyda lleoliad yr anifail anwes. Bydd y ddyfais hyd yn oed yn mynd i gysgu i arbed pŵer batri.”

“Dwi’n wirioneddol falch o’r myfyrwyr hyn, roedden nhw wir wedi cymryd meddiant o’r prosiect o’r dechrau ac wedi chwarae rhan fawr o ran gwneud penderfyniadau, o ddyluniad cychwynnol y cynnyrch i farchnata’r cynnyrch” dywedodd y darlithydd Leigh Rees. “Mae mynd i ddigwyddiad fel Ffair y Glec Fawr a chael cynifer o bobl yn gweld eu gwaith yn gyflawniad enfawr iddyn nhw.”


Related Articles

Responses