From education to employment

Cyn-fyfyriwr yn ennill teitl Dysgwr VQ Lefel Ganolradd y Flwyddyn 2019

Mae cyn-fyfyriwr Coleg Gŵyr Abertawe Collette Gorvett wedi cael ei henwi yn Ddysgwr Lefel Ganolradd y Flwyddyn yng Ngowbrau VQ 2019.

Roedd Collette, sydd bellach yn gweithio yn The Ritz yn Llundain, wedi ymuno â Choleg Gŵyr Abertawe yn 2015 i astudio Diploma Lefel 1 mewn Coginio Proffesiynol cyn symud ymlaen i’r Diploma Lefel 3 mewn Coginio Proffesiynol Uwch, Cegin a Bwtri.

Yn ogystal â’i llwyddiannau academaidd, mae cyfranogiad Collette mewn cystadlaethau sgiliau  ar lefelau Cymreig, Prydeinig ac Ewropeaidd wedi ei gwneud yn hyrwyddwr rhagorol ar gyfer dysgu galwedigaethol. Yn ddiweddar mae wedi ennill lle ar Dîm y DU a bydd yn cynrychioli ei gwlad yn Rowndiau Terfynol WorldSkills yn Rwsia ym mis Awst.

“Mae Collette wedi bod yn fodel rôl a llysgennad anhygoel,” dywedodd Mark Clement, Rheolwr Maes Dysgu. “Mae hi wedi cefnogi’r prosiect Ysbrydoli Sgiliau trwy berfformio arddangosiadau i staff darlithio mewn nifer o golegau Cymru. Yn ogystal, mae hi wedi bod yn ysbrydoliaeth i’r holl gystadleuwyr newydd, gan eu hannog i ymrwymo i wella sgiliau a thrwy rannu ei phrofiad cystadlu’n agored.”

O’r chwe dysgwr oedd ar y rhestr fer am Wobr VQ nodedig eleni, roedd tri o Goleg Gŵyr Abertawe. Yn ogystal â Collette, roedd y myfyriwr HNC Reagan Locke, sy’n gweithio yn Tata Steel, a’r myfyriwr Iechyd a Gofal Cymdeithasol Alex Davies wedi cael eu henwebu hefyd.

Mae Diwrnod VQ yn dathlu llwyddiant galwedigaethol a manteision dysgu technegol, ymarferol a galwedigaethol i’r unigolyn ac economi’r DU.

Mae Gwobrau VQ yn cael eu trefnu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, ColegauCymru/CollegesWales, Cymwysterau Cymru a’r Cyngor Gweithlu Addysg. Mae cyllid Llywodraeth Cymru’n cael ei ategu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

DIWEDD


Related Articles

Responses