From education to employment

Staff a myfyrwyr y Coleg yn cefnogi Pride Abertawe

Roedd staff a myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe wrth eu bodd yn cefnogi amrywiaeth o ddigwyddiadau Pride Abertawe 2019.

Ar gyfer y sioe Up Next with Pride yn Theatr y Dywysoges Frenhinol – a drefnwyd gan Jermin Productions – roedd myfyrwyr cerddoriaeth o Gampws Llwyn y Bryn wedi cymryd eu lle ymhlith cantorion, dawnswyr, corau a pherfformwyr ifanc i lwyfannu sioe sydd wedi’i disgrifio fel ‘ffrwydrad o ddewrder, hyder ac wrth gwrs talent!’

Ar y llwyfan roedd myfyrwyr Lefel 3 Perfformio a Chynhyrchu Cerddoriaeth Phoebe Morris a Dylan Hodgon, a berfformiodd gyda’i gilydd, ac Olivia Kerr.

Dilynwyd y digwyddiad hwn ychydig ddyddiau’n ddiweddarach gan Pride Abertawe a gynhaliwyd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe. Dychwelodd Phoebe i ganu a chwarae’r iwcalili. Yn cymryd rhan hefyd roedd y myfyriwr Lefel 3 Celf a Dylunio, Ellie Jordan Probert, a fydd yn dechrau cwrs cerddoriaeth yn ddiweddarach eleni.

Yn ogystal â’r perfformiadau, trefnodd y Coleg stondinau lle y gallai ymwelwyr fwynhau cystadlaethau a chwisiau â themâu mor amrywiol â hawliau LGBT a phobl ddylanwadol, gweld gwaith celf myfyrwyr, dysgu mwy am gyrsiau coleg a hyd yn oed fwynhau ychydig o faldod, gyda staff o Ganolfan Broadway yn darparu triniaethau tylino.

Roedd myfyrwyr ESOL wedi arddangos mosaig rhyngweithiol yn cynnwys colomennod, i symboleiddio heddwch, a lliwiau’r enfys i bwysleisio’r thema balchder. Gwahoddwyd ymwelwyr â’r digwyddiad i gyfrannu at y gwaith celf hwn a bydd y darn gorffenedig yn cael ei arddangos yn falch ar Gampws Llwyn y Bryn.

Arweiniwyd y prosiect mosaig gan fyfyrwyr ESOL Nese a Kadir a fu’n gweithio fel artistiaid yn eu mamwlad Twrci ac sydd bellach yn gwirfoddoli ar gyfer prosiectau celf lleol, gan gynnwys gweithio yn y Glynn Vivian.

“Roedd y myfyrwyr wrth eu bodd yn cymryd rhan yn y digwyddiadau Pride hyn,” dywedodd  Jane John, Swyddog Cydraddoldeb ac Amrywiaeth y Coleg. “Roedd cael cyfle i berfformio ar lwyfan mawr o flaen cynulleidfa fawr yn hwb gwirioneddol i hyder y myfyrwyr cerddoriaeth, ac roedd ein myfyrwyr ESOL wrth eu bodd yn cyfathrebu a rhyngweithio â llawer o wahanol bobl yn y digwyddiad cymunedol.”


Related Articles

Responses