From education to employment

Taylor yn mynd i’r Gelli

Mae’r myfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe Taylor Williams wedi cael lle ar Brosiect y Bannau Gŵyl y Gelli, preswyliad gweithdy am ddim i bobl 16-18 sydd â diddordeb mewn ysgrifennu.

Ar hyn o bryd mae Taylor yn astudio cyrsiau Safon Uwch mewn Saesneg Iaith, Saesneg Llenyddiaeth ac Astudiaethau’r Cyfryngau ar Gampws Gorseinon.

Nod Prosiect y Bannau Gŵyl y Gelli yw annog creadigrwydd a sefydlu ymdeimlad o greadigrwydd ymhlith pobl ifanc yng Nghymru. Mae’n cynnig cyfle unigryw i fyfyrwyr o Gymru weithio gydag ysgrifenwyr a newyddiadurwyr arbennig mewn amgylchedd hynod greadigol ac ysgogol yn ystod Gŵyl y Gelli.

Yn ystod y preswyliadau, bydd myfyrwyr yn cwrdd a  gweithio gydag ysgrifenwyr, darlledwyr a newyddiadurwyr proffesiynol mewn sgyrsiau a gweithdai a fydd yn archwilio’r cysylltiadau rhwng yr amgylchedd a’r dirwedd, celf a llenyddiaeth.

Mae cyn-gyfranogwyr Prosiect y Bannau Gŵyl y Gelli wedi symud ymlaen i yrfaoedd mewn ysgrifennu creadigol, cyhoeddi a’r cyfryngau, gan gynnwys y bardd a’r dramodydd arobryn Owen Sheers.

Dywedodd Sheers: “Roedd Prosiect y Bannau Gŵyl y Gelli yn hollbwysig i mi. Nid yn unig roedd e wedi codi awydd arna i i fod yn ysgrifennwr ond roedd hefyd wedi fy rhoi mewn cyswllt ag amrywiaeth o awduron a llenyddiaeth y byddwn wedi ei chael yn anodd dod o hyd iddyn nhw yn unman arall. Mae Prosiect y Bannau yn bwysig iawn os yw Cymru wir yn awyddus i feithrin doniau ifanc yn y celfyddydau.”

Dywedodd Aine Venables, Rheolwr Addysg yng Ngŵyl y Gelli: “Mae Prosiect y Bannau Gŵyl y Gelli yn cynnig cyfle unigryw am ddim i bobl ifanc yng Nghymru – cyfle i gwrdd a dysgu gyda chymysgedd byd-eang o feddylwyr, ysgrifenwyr ac arloeswyr. Ar ôl derbyn y nifer fwyaf erioed o ymgeiswyr ar draws Cymru, dylai’r rhai dethol eleni fod yn falch o’r hyn maen nhw wedi’i gyflawni. Rydyn ni’n edrych ymlaen at eu croesawu i bentref yr ŵyl a chael syniadau newydd a phersbectifau newydd gyda’n gilydd.”


Related Articles

Responses