From education to employment

Chwe gyrfa y gallech eu dechrau yn Abertawe nad oeddent yn bodoli 20 mlynedd yn ôl

Gyda thymor yr arholiadau ar y gweill, bydd myfyrwyr ar draws Abertawe siŵr o fod yn meddwl am yr hyn sy’n dod nesaf, a beth yw eu hopsiynau ar ôl yr arholiadau. Yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf, mae’r sefyllfa o ran swyddi wedi newid yn sylweddol – yma i sôn am sut mae rhai o’r cyfleoedd newydd hyn yn edrych yw Mark Jones, Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe.   

Yn sicr, nid yw penderfynu ar eich llwybr gyrfa y dyfodol yn benderfyniad y mae angen i chi ei wneud dros nos ac, yn ystod tymor yr arholiadau, efallai nad yw’n brif flaenoriaeth i chi hyd yn oed. Ond gyda’r haf yn prysur agosáu a therfynau amser yn nesáu ar gyfer cadarnhau’ch cam addysgol nesaf, yn bendant mae’n rhywbeth na ddylech chi feddwl amdano’n rhy hir. Mae’n werth ystyried y pynciau rydych chi’n eu mwynhau, y meysydd pwnc rydych chi’n rhagori arnynt ac unrhyw sgiliau penodol sydd gennych a allai fod yn addas ar gyfer gyrfa benodol.

Mae hefyd yn bwysig edrych ar y farchnad gyflogaeth ac asesu ymhle fydd y cyfleoedd yn y dyfodol. Ac mae edrych ar y swyddi sydd ar gael yn y byd heddiw, o’u cymharu ag 20 mlynedd yn ôl, yn lle diddorol i ddechrau.

Dadansoddwr Gwe
Mae dadansoddwyr gwe yn bennaf gyfrifol am ddadansoddi data a defnyddio’r wybodaeth hon i wneud gwelliannau i wefannau. Gall rhai o’u dyletswyddau gynnwys dadansoddi tueddiadau a data ar y we, fel ymddygiadau a phrofiadau cynulleidfaoedd gwefannau. Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn cynnig ystod o gyrsiau TG o gyrsiau Safon Uwch Cyfrifiadureg a TGCh i ddiplomas galwedigaethol mewn Technoleg Gwybodaeth lle gallwch ddatblygu’ch sgiliau rhwydweithio, cynhyrchu gwefan a dadansoddi systemau.

Rheolwr Cynaliadwyedd
Mae rheolwyr cynaliadwyedd yn gyfrifol am sicrhau bod busnesau yn gweithredu mor foesegol â phosibl i leihau effeithiau amgylcheddol negyddol. Byddant yn cyflwyno ac yn cynnal arferion cynaliadwy o fewn cwmni, boed hynny’n creu mannau swyddfa ‘gwyrdd’ neu’n gweithredu cynlluniau arbed ynni. Yn yr hinsawdd sydd ohoni, mae bod yn wyrdd yn gynyddol bwysig i fusnesau oherwydd gwell dealltwriaeth o effaith amgylcheddol ein gweithredoedd dyddiol. Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, gallwch astudio ar gyfer BTEC Diploma mewn Rheolaeth Amgylcheddol a Chynaliadwyedd, a fydd yn rhoi’r offer sydd eu hangen arnoch i helpu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i’r amgylchedd. Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar bynciau fel cadwraeth, trafnidiaeth gynaliadwy a chymunedau.

Dylanwadwr Cymdeithasol
Er nad yw hwn y llwybr gyrfa mwyaf traddodiadol, gall blogwyr a dylanwadwyr ar-lein ennill arian mawr o’u negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol. Yn ogystal, mae cwmnïau dylanwadol yn aml yn cael dillad, cynnyrch neu hyd yn oed wyliau am ddim gan gwmnïau er mwyn sicrhau neges hyrwyddo ar eu tudalennau’r cyfryngau cymdeithasol – llwyfannau nad oeddent hyd yn oed yn bodoli 20 mlynedd yn ôl. Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau Safon Uwch a galwedigaethol ym maes celf a dylunio, sy’n cynnwys ffasiwn, cyfathrebu graffig neu ffotograffiaeth, fel y gallwch roi’r olwynion ar waith ar gyfer eich ymerodraeth y cyfryngau cymdeithasol eich hunan. Yn wir, mae yna awydd ar gyfer pob math o ddylanwadwyr o ddylunwyr mewnol ac arweinwyr ffitrwydd i flogwyr teithio a selogion bwyd. Felly – beth bynnag fo’ch angerdd – gallech ei wneud yn fanteisiol i chi ar-lein!

Datblygwr Apiau
Hyd at 2008, nid oedd apiau yn bodoli hyd yn oed. Yn awr, yn 2019, mae ap ar gyfer unrhyw beth. Mae’r nifer fawr o apiau sydd ar gael yn cynrychioli maint y diwydiant, sy’n golygu ei fod yn darparu nifer helaeth o swyddi a chyfleoedd. Os ydych chi’n datrys problemau’n naturiol ac mae gennych dalent i feddwl am gysyniadau newydd, gallai hyn fod yn yrfa i chi. I gael profiad addas i ragori yn y rôl hon gallech ddechrau trwy astudio busnes yn y Coleg lle byddech chi’n astudio strategaeth, cyfathrebu a themâu datblygol mewn marchnata – ac mae’r rhain i gyd yn cynnig gwybodaeth hanfodol ar gyfer datblygwr apiau yn y dyfodol.

Rheolwr y Cyfryngau Cymdeithasol
Mae’r safle cyfryngau cymdeithasol adnabyddadwy cyntaf yn dyddio’n ôl i 1997, ond daeth y llwyfannau mwyaf enwog ychydig yn ddiweddarach – Facebook yn 2004, Trydar yn 2006 ac Instagram yn 2010. Mae’r cyfryngau cymdeithasol bellach yn chwarae rhan enfawr yn ein bywydau bob dydd, felly mae’r rhan fwyaf o gwmnïau mawr yn hurio rheolwyr y cyfryngau cymdeithasol i reoli cyfathrebu a chynnwys eu brand ar draws llwyfannau cymdeithasol. Boed yn gwrs Safon Uwch Y Cyfryngau neu ein cyfres o brentisiaethau digidol newydd sbon, mae Coleg Gŵyr Abertawe yn cynnig cyrsiau sy’n helpu i ddatblygu dealltwriaeth o’r rôl y mae’r cyfryngau cymdeithasol yn ei chwarae mewn diwylliant a chymdeithas gyfoes.

Meddyg Telefeddygaeth
Mae meddyg telefeddygaeth yn gwneud gwaith tebyg i feddyg cyffredinol, fodd bynnag maent yn ymgynghori â chleifion yn rhithwir – naill ai drwy’r we neu alwadau ffôn. Mae sawl gwasanaeth telefeddygaeth bellach ar gael drwy’r GIG a gall y rhain amrywio o archwiliadau syml dros y ffôn i synwyryddion sy’n monitro faint o ocsigen sydd yng ngwaed unigolyn. Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau sy’n gysylltiedig ag iechyd ar gyfer y myfyrwyr a hoffai helpu pobl eraill. Mae’r rhain yn cynnwys Safon Uwch Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Bioleg ac amrywiaeth o gyrsiau galwedigaethol a llwybrau prentisiaeth ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r cymwysterau hyn yn gweithredu fel cam mawr ar gyfer y bobl sydd am ddilyn gyrfa mewn maes cysylltiedig ag iechyd/meddygaeth.

Mae’n bwysig iawn dewis lle ar gyfer eich cam addysgol nesaf sy’n eich galluogi i ddilyn yr yrfa o’ch dewis. Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, rydym yn ymfalchïo yn yr amrywiaeth o ddewis a gynigiwn i fyfyrwyr, yn enwedig o ran nifer y meysydd pwnc sydd ar gael fel cymhwyster Safon Uwch neu alwedigaethol. Rydym hefyd yn canolbwyntio’n gryf ar ddilyniant a sut y gall cyrsiau fod o fudd i fyfyrwyr wrth gael hyd i swydd yn y byd go iawn, ac mae gennym lwybrau cadarn a all helpu myfyrwyr i symud o’r coleg i’r brifysgol neu’r gweithle.
 


Related Articles

Responses