From education to employment

Gwobrau Chwaraeon Coleg Gŵyr Abertawe 2019

Mae myfyrwyr o Goleg Gŵyr Abertawe wedi dathlu blwyddyn chwaraeon lwyddiannus arall gyda seremoni wobrwyo arbennig ar Gampws Tycoch.

“Yn 2018/19 rydyn ni wedi gweld llwyddiannau anhygoel gan ein myfyrwyr ar draws pob lefel o chwaraeon,” meddai’r Cydlynydd Chwaraeon Marc O’Kelly. “Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys ein prif garfan pêl-droed yn cadw teitl Cwpan Colegau Cymru, ein Hacademi Pêl-rwyd yn ennill Cynghrair Cymru AoC, ein myfyrwyr yn dod â thair medal Arian adref o Bencampwriaethau Cenedlaethol AoC – mewn tennis bwrdd, hoci a rhedeg traws gwlad i fenywod – a’r cyn-fyfyriwr Lefel 3 a chwaraewr yr Academi Bêl-droed, Danny Williams, yn arwyddo i Ddinas Caerdydd.

“Mae’n bwysig iawn casglu’r myfyrwyr hyn at ei gilydd a dathlu’r flwyddyn anhygoel hon. Rydyn ni’n falch iawn o’u cyflawniadau – maen nhw wedi bod yn llysgenhadon gwych i’r Coleg a byddwn ni’n gwylio’n ddisgwylgar ac â balchder mawr wrth iddyn nhw ddatblygu eu gyrfaoedd chwaraeon gartref a thramor. ”

Ymhlith yr enillwyr unigol roedd:

Y myfyriwr Rhyngwladol Jarrett Zhang, a enillodd deitl Perfformiwr y Flwyddyn – Rhaglen Athletwyr Elît am ei lwyddiannau tennis bwrdd ac a gyflwynwyd gan Gydlynydd Chwaraeon y Coleg Marc O’Kelly

Saadia Abubaker, a dderbyniodd Wobr Gareth Jenkins – Gwirfoddolwr Chwaraeon y Flwyddyn gan y cyn-fyfyriwr a seren y Gweilch a’r Gamp Lawn Nicky Smith. Roedd Saadia wedi derbyn y wobr arbennig hon am ei gwaith diflino yn hyrwyddo chwaraeon o fewn grwpiau BME yn ardal Abertawe.

Tomos Slade, a gafodd Wobr Chwaraewr y Flwyddyn gan Jeremy Cooper. Roedd Tomos yn gapten ar garfan y Coleg yn nhwrnamaint Athletau’r Sir a hefyd yn gapten ar ei wlad mewn gêm ryngwladol yn erbyn Lloegr. Mae hefyd yn Bencampwr Dan 20 Cymru yn y clwydi 60m a 110m.

Lauren Francis, a gafodd Wobr Chwaraewraig y Flwyddyn am ei pherfformiad yn nhîm Academi Pêl-rwyd CGA a enillodd Gynghrair Cymru yn ddiweddar, yn ogystal â’i record wych yng Ngholegau Cymru a Chymru Dan 17 yng nghystadleuaeth Pêl-rwyd Ewrop. Cyflwynwyd y wobr i Lauren gan y cyn-fyfyriwr Alex Callender sydd, ers gadael y Coleg, wedi chwarae rygbi rhyngwladol i Fenywod Cymru yn nhwrnamaint y Chwe Gwlad.

Derbyniodd Harri Lawson a Taylor Evans, eu Capiau Pêl-droed Colegau Cymru gan Hyfforddwr yr Academi, Andrew Stokes.

Mae academïau chwaraeon Coleg Gŵyr Abertawe yn galluogi myfyrwyr i ennill y cymwysterau academaidd gorau wrth berffeithio eu sgiliau chwaraeon trwy ganiatáu iddynt ymgorffori hyfforddiant chwaraeon a ffitrwydd elît yn eu profiad dysgu.

Mae’r coleg hefyd yn cynnig rhaglen ysgoloriaeth chwaraeon sy’n darparu cymorth ariannol a chyfannol i fyfyrwyr sy’n dangos gallu eithriadol o fewn un o chwaraeon yr academi

DIWEDD

Lluniau: Peter Price Media


Related Articles

Responses