From education to employment

Dyluniad patrwm arwyneb myfyriwr yn cyrraedd y rhestr fer

Yn ddiweddar roedd myfyriwr Gradd Sylfaen Ffasiwn a Thecstilau Coleg Gŵyr Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer yn y gystadleuaeth idott nodedig.

Roedd gwaith Sheeza Ayub yn un o dros 1,000 o ddarnau unigol a gyflwynwyd i’r gystadleuaeth gan fyfyrwyr celf a dylunio yn y DU ac ar draws Ewrop.

“Mae cyrraedd y rhestr fer yn gyflawniad personol gwych i Sheeza ac rydyn ni mor falch ohoni,” dywedodd yr arweinydd cwrs Susanne David. “Mae’r Radd Sylfaen mewn Celf a Dylunio ar Gampws Llwyn y Bryn wedi bod yn rhedeg am dim ond blwyddyn a chafodd gwaith Sheeza – a’r gwaith a gyflwynwyd gan fyfyrwyr eraill – ei gynhyrchu fel rhan o’u modiwl ar ddylunio tecstilau.

“Mae hyn yn dangos beth yw safon y dysgu a’r addysgu ar y cwrs cymharol newydd hwn a pam mae gwaith Sheeza wedi cael ei ddewis ar gyfer y rhestr fer a nawr bydd yn cael ei gynnwys yn y blwyddlyfr idott swyddogol.”

Mae idott yn sefydliad sy’n anelu at feithrin cysylltiadau rhyngwladol â phrifysgolion a cholegau, myfyrwyr dylunio, tiwtoriaid a gweithwyr proffesiynol diwydiant. Mae hefyd yn ceisio annog, datblygu a gwobrwyo myfyrwyr i fod yn arweinwyr ysbrydoledig ym myd cyffrous a chreadigol dylunio patrymau arwyneb.


Related Articles

Responses