From education to employment

Arweinydd lleol ar restr fer gwobrau arweinyddiaeth cenedlaethol

Mae Sarah King, Cyfarwyddwr AD yng Ngholeg Gower Abertawe, wedi cyrraedd y rownd derfynol yng Ngwobrau Arwain Cymru eleni.

Mae Sarah wedi cael ei henwebu yn y categori Arweinyddiaeth yn y Sector Cyhoeddus am ei rôl fel Cyfarwyddwr AD lle mae hi wedi trawsnewid y swyddogaeth adnoddau dynol o adran sy’n cael ei gyrru gan bolisi i adran sy’n rhoi lles ac ymgysylltiad staff wrth wraidd popeth y mae’n ei wneud.
Mae hi’n un o ddim ond pedwar sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn y categori. Yn ogystal â llwyddiant rownd derfynol Sarah, roedd Collette Gorvett, cyn-fyfyriwr Coleg Gŵyr Abertawe a chystadleuydd WorldSkills y DU 2019, wedi cyrraedd y rhestr Canmoliaeth Uchel i Arweinydd Ifanc.
Mae gan y gwobrau, sydd wedi bod yn rhedeg am 15 mlynedd, wyth categori unigol gan gynnwys Menywod mewn Arweinyddiaeth ac Arweinyddiaeth Sefydliadol, a enillwyd y llynedd gan Academi Cyllid GIG Cymru.

Dywedodd Barbara Chidgey, Cadeirydd consortiwm Gwobrau Arwain Cymru: “Eleni ein thema yw Mentro i Arwain. Cawsom lawer o enwebiadau trawiadol a rhagorol ar gyfer unigolion yng Nghymru (ym mhob sector ac ar bob lefel o gyfrifoldeb) y mae eu harweinyddiaeth yn ddewr, yn ysbrydoledig ac yn drawsnewidiol. Roedd yn fraint i’w darllen ac yn her i greu rhestr fer.”

Wrth siarad am enwebiad Sarah, dywedodd Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe, Mark Jones: “Mae Sarah yn rhagweithiol ac yn hoelio ei sylw ar atebion. Mae gyda hi bresenoldeb gweladwy iawn o amgylch y Coleg. Mae hi’n cynnal cydbwysedd ardderchog rhwng rôl draddodiadol, gorfforaethol AD a ffocws ar les staff – un o brif flaenoriaethau’r Coleg. Mae hi’n arwain llawer o’r mentrau newydd hyn yn ogystal â chael y tîm AD i ganolbwyntio ar ddarparu lefel uchel o wasanaeth cwsmeriaid i staff ac adrannau ar draws y Coleg.”

Roedd Sarah wrth ei bodd gyda’r newyddion, a dywedodd: “Mae llawer o arweinwyr gwych yng Nghymru dwi’n eu hedmygu, ac felly dwi wrth fy modd fy mod i wedi cael fy enwebu yn y categori Arweinyddiaeth yn y Sector Cyhoeddus. Mae’r ansefydlogrwydd gwleidyddol cyfredol yn ogystal â materion lleol a rhyngwladol yn creu heriau sylweddol i arweinwyr heddiw, a dwi wedi darganfod ei bod hi’n hynod bwysig tynnu timau at ei gilydd a chreu nodau cyffredin seiliedig ar werthoedd, gonestrwydd a thegwch.”

Dyma’r 15fed flwyddyn a’r olaf o Wobrau Arwain Cymru. Byddant yn gorffen gyda’r seremoni wobrwyo fel rhan o ginio etifeddiaeth yn Hilton Caerdydd ar 26 Medi 2019. Mae tocynnau ar gael am £67.50 a thrwy e-bostio [email protected].

Mae cyn-enillwyr yn cynnwys Laura Tenison MBE, Jo Jo Maman Bébé, Mario Kreft MBE, Prif Swyddog Gweithredol Cartrefi Gofal Parc Pendine, Kelly Davies, Rheolwr-gyfarwyddwr Vi-Ability, a Dr Sabine Maguire o Sparkle, Sefydliad Plant De Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.gwobrauarwain.cymru.


Related Articles

Responses