From education to employment

Llwyddiant ysgoloriaeth i fyfyriwr Rhyngwladol

Mae Jarrett Zhang yn dathlu ar ôl cael ysgoloriaeth £180,000 gan gwmni mwyngloddio Rio Tinto i astudio Daeareg yng Ngholeg Imperial Llundain.

Bydd Jarrett, a gafodd dwy radd A* ac un A yn ei arholiadau Safon Uwch yn ddiweddar, yn derbyn £45,000 y flwyddyn dros gyfnod o bedair blynedd, i dalu am ffioedd dysgu a chostau byw. Cafodd ysgoloriaeth Rio Tinto ei roi i ddau fyfyriwr yn unig yn 2019 ac felly mae hyn yn gyflawniad gwych.

Roedd Jarrett hefyd wedi dathlu llwyddiant chwaraeon eleni pan enillodd bencampwriaethau tennis bwrdd Colegau Cymru 2019.

Da iawn i ti Jarrett gan bawb yng Ngholeg Gŵyr Abertawe – rydym i gyd yn falch iawn o’ch llwyddiannau ac rydym yn dymuno pob lwc i ti ar gyfer eich ymdrechion yn y dyfodol!


Related Articles

Responses