From education to employment

Pum llwybr gyrfa y gallech eu harchwilio yma yn Abertawe

 

I gannoedd o fyfyrwyr ar draws Abertawe, mae’r amser wedi dod i wneud penderfyniadau am yr hyn sy’n digwydd nesaf ar eu taith addysgol, p’un a yw’n goleg neu’n chweched dosbarth, yn brentisiaeth neu’n mynd yn syth i’r gweithle. Mae pob opsiwn addysg a hyfforddiant yn cynnig cyfle i bobl ifanc ennill sgiliau newydd a chreu llwybr gyrfa cyffrous a gwerth chweil. Yma i edrych ar rai o’r cyfleoedd gyrfa hynny sydd ar gael i fyfyrwyr ledled y ddinas maeMark Jones, Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe.

Mae’n hawdd teimlo eich bod wedi’ch llethu gan y syniad o orfod gwneud nifer fawr o benderfyniadau ar ôl cwblhau’r tymor arholiadau prysur a heriol. I rai ohonoch, rwy’n dychmygu eich bod eisoes wedi dewis llwybr gyrfa, wedi’ch ysbrydoli efallai gan rywun rydych chi’n ei adnabod mewn rôl debyg neu bwnc rydych chi’n rhagori ynddo. I eraill, gall hyn fod yn rhywbeth nad ydych erioed wedi meddwl amdano, ac mae hynny’n iawn hefyd.

Os yw’r ail opsiwn yn swnio’n fwy fel chi, mae nifer o ffactorau y dylech eu hystyried a allai eich helpu i ddod o hyd i opsiwn gyrfa hyfyw. I ddechrau, gallech edrych ar y farchnad swyddi, asesu lle mae’r cyfleoedd gwaith yn debygol o fod yn y dyfodol a lle gallai diwydiannau eraill ei chael hi’n anodd cadw eu gweithlu. Nyrsio, peirianneg ac addysgu yw rhai o’r proffesiynau sydd â phrinder gweithwyr medrus ar hyn o bryd, sy’n golygu bod nifer uchel o gyfleoedd gwaith ar gael yn y sectorau hyn. Isod, rwyf wedi amlinellu rhai diwydiannau heriol a buddiol y gallech chi weithio ynddynt yma yn Abertawe.

Peirianneg
Mae ymchwil ddiweddar gan yr Academi Beirianneg Frenhinol wedi dangos bod diffyg cyfredol o 1.8 miliwn o beirianwyr ledled y DU, sy’n rheswm gwych i ystyried dilyn gyrfa yn y maes hwn os oes gennych y sgiliau a’r diddordebau trosglwyddadwy cywir. Os ydych yn hoffi’r syniad o gyfuno enillion uchel posibl â llwyth gwaith diddorol ac amrywiol, gallai un o’n cyrsiau peirianneg fod yn ffordd wych o sefydlu’r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen i archwilio ystod o ddisgyblaethau peirianneg. Bydd angen i gyfranogwyr y cwrs fod yn ymrwymedig i gadw i fyny â’r technolegau sy’n datblygu’n gyflym ac sy’n cael eu defnyddio ar draws y sector.

Yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd
Yn yr hinsawdd heddiw, mae deall yr effaith barhaus y mae ein gweithredoedd yn ei chael ar y blaned yn hollbwysig. Mae busnesau ar draws pob sector, yn ogystal â chyrff cyhoeddus fel cynghorau a llywodraethau lleol, i gyd wedi gorfod dod yn fwy ymwybodol o’r amgylchedd. Bwriad y cwrs Rheolaeth Amgylcheddol a Chynaliadwyedd yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yw rhoi’r sgiliau i fyfyrwyr fonitro, ymchwilio a beirniadu materion amgylcheddol lleol a byd-eang yn ogystal â chreu syniadau cynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Mae nifer o lwybrau prifysgol a gyrfa ar gael ar draws y diwydiant gan gynnwys cadwraeth, rheoli peryglon a bioleg forol.

Nyrsio
Ar hyn o bryd mae prinder miloedd o swyddi nyrsio ledled y DU ac mae’r Llywodraeth wedi lansio amrywiol fentrau recriwtio i gau’r bwlch hwn. Gallai un o’n cyrsiau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sy’n ymdrin ag egwyddorion sgiliau a thechnegau gofalu ymarferol, fod yn gam da tuag at y diwydiant. Mae ochr ddamcaniaethol y cyrsiau yn edrych ar y gwahanol ffactorau sy’n effeithio ar iechyd a lles yn ogystal â mesurau ataliol i osgoi afiechyd. Mae opsiynau cyflogadwyedd yn y dyfodol hefyd yn cynnwys gwaith cymdeithasol, therapi galwedigaethol a bydwreigiaeth.

TGCh
Datblygwr meddalwedd, dadansoddwr data a rheolwr systemau gwybodaeth yw rhai o’r gyrfaoedd y gallech eu harchwilio ar draws y diwydiant TGCh. Mae myfyrwyr sy’n chwilio am lwybr mynediad i’r diwydiant dal yn gallu cofrestru ar ein cyrsiau Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu Lefel 2 a Lefel 3. Bydd y pynciau a astudir yn dod o dan dri chategori: datrys problemau yn ymarferol yn yr oes ddigidol; byw yn y byd digidol; a’r defnydd o TGCh yn y byd digidol. Ar gyfer eu hasesiadau ymarferol bydd myfyrwyr yn cwblhau prosiect sylweddol sy’n cynnwys cynhyrchu system gysylltiedig â TGCh.

Mecaneg
Dyma yrfa fydd yn addas i’r rhai sy’n mwynhau tasgau ymarferol, mae nifer o rolau cyffrous ar gael ar draws y diwydiant sy’n amrywio o dechnegydd ceir rasio i adferwr ceir clasurol. Mae diddordeb angerddol mewn ceir yn bendant yn hanfodol os ydych chi am ddilyn gyrfa yn y sector hwn, ynghyd â chymwysterau cerbydau modur galwedigaethol perthnasol neu brentisiaeth, ac mae’r ddau opsiwn ar gael yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. Er enghraifft, mae ein prentisiaethau Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Modur yn cynnwys diagnosteg a chywiro namau mewn injans cerbydau, yn ogystal â hyfforddiant iechyd a diogelwch.


Related Articles

Responses