From education to employment

Coleg yn lansio HE+ ac Academi Seren ar gyfer 2019

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi croesawu dros 400 o ddysgwyr i Gampws Gorseinon ar gyfer lansio rhaglen HE+ ac Academi Seren 2019/20.

Coleg Gŵyr Abertawe, ar wahoddiad, ac ar y cyd â Phrifysgol Caergrawnt, yw’r prif sefydliad o fewn Consortiwm HE+ Abertawe, sy’n gweithio gyda’r saith ysgol wladol chweched dosbarth yn Ninas a Sir Abertawe.

Yn ystod y lansiad eleni, roedd myfyrwyr o’r Coleg a’r ysgolion wedi gwrando ar anerchiad croeso gan Fiona Beresford, Cydlynydd HE+ a Seren Abertawe, a Dr Jonathan Padley, Cymrawd a Thiwtor Derbyn yng Ngholeg Churchill, Caergrawnt.

Wedyn roedd y myfyrwyr wedi cymryd rhan mewn dosbarth meistr academaidd yn un o’r 13 maes pwnc gwahanol, dan arweinyddiaeth academyddion Coleg Gŵyr Abertawe, Prifysgol Abertawe, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Bryste.

“Mae HE+ bellach yn ei wythfed flwyddyn yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, a’i nod yw datblygu gwybodaeth uwch-gwricwlaidd myfyrwyr a’u hysbrydloi i anelu mor uchel ag sy’n bosibl wrth ddewis prifysgol,” dywedodd Fiona. “Mae myfyrwyr ar y rhaglen HE+ yn mynychu dosbarthiadau ymestyn misol ar gynnwys academaidd ôl-faes llafur, ac maen nhw’n cael cyfle i wneud cais i ymweld â Phrifysgol Caergrawnt a’i cholegau cyfansoddol.”

“Mae Academi Seren Abertawe hefyd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau academaidd ac mae’n rhoi cymorth iddyn nhw gyda’u ceisiadau i brifysgolion blaenllaw yn y DU a phrifysgolion rhyngwladol. Rydyn ni’n falch o weithio mewn partneriaeth â phrifysgolion lleol i ddatblygu’r rhaglen hon o gymorth academaidd.”

Ar ôl set anhygoel o ganlyniadau arholiadau eleni, mae dros 1,000 o fyfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe bellach wedi symud ymlaen i’r brifysgol. Mae nifer o’r myfyrwyr hyn yn mynd i’r prifysgolion mwyaf blaenllaw yn y DU, gan gynnwys sefydliadau nodedig Russell Group. Yn 2019, roedd o leiaf dri myfyriwr wedi symud ymlaen i Rydychen a chafodd wyth eu derbyn i Gaergrawnt.

 

Nodiadau:

Sefydlwyd yn 2010, mae rhaglen HE+ Prifysgol Caergrawnt yn annog ac yn paratoi myfyrwyr sy’n gwneud yn eithriadol o dda’n academaidd o ysgolion gwladol i wneud ceisiadau cystadleuol i’r prifysgolion gorau. Mae’r rhaglen yn gweld y Brifysgol a’i Cholegau yn gweithio gyda grwpiau o ysgolion gwladol a cholegau mewn pymtheg rhanbarth i ennyn diddordeb eu myfyrwyr gorau mewn rhaglen gynaledig dros flwyddyn. Mae hyn yn cynnwys dosbarthiadau ymestyn academaidd, dosbarthiadau meistr pynciol, sesiynau gwybodaeth ac arweiniad, ac ymweliadau â’r Brifysgol.

Mae Academi Seren Abertawe yn gyfres o 11 o hybiau ar draws Cymru sy’n ceisio helpu myfyrwyr mwyaf galluog Blwyddyn 12 a 13 i gyflawni eu potensial academaidd. Mae’r hybiau’n bartneriaethau rhwng ysgolion uwchradd a cholegau a chânt eu cefnogi gan lywodraeth leol, Llywodraeth Cymru a phrifysgolion blaenllaw.

Mae gan Dr Jonathan Padley gysylltiadau cryf â De Cymru. Yn y 1990au, astudiodd yn Ysgol Esgob Gôr yn Abertawe. Yn gynharach yn ei yrfa, darlithiodd yng Ngholeg Gorseinon, ac mae hefyd wedi gweithio yng Ngholeg Sir Gâr. Yn ogystal â’i rôl yng Nghaergrawnt, mae Dr Padley yn Gydymaith Ymchwil Anrhydeddus ym Mhrifysgol Abertawe a rhwng 2013 a 2015, cafodd ei secondio’n rhan-amser i’r Adran Addysg a Sgiliau yn Llywodraeth Cymru, gan weithio ar brosiect Llysgennad Rhydgrawnt Cymru a gweithredu wedyn ar argymhelliad ei bolisi allweddol, Rhwydwaith Seren. Yn rhinwedd ei swydd fel Tiwtor Derbyn yng Ngholeg Churchill, Caergrawnt, mae Dr Padley yn ymweld ag ysgolion yn Ne Cymru yn rheolaidd ac yn croesawu myfyrwyr i Gaergrawnt.


Related Articles

Responses