From education to employment

Undeb Myfyrwyr newydd sbon i Goleg Gŵyr Abertawe

Mae gan Goleg Gŵyr Abertawe Undeb Myfyrwyr newydd sbon a Laimis Lisauskas, llywydd amser llawn (sabothol) newydd yr Undeb Myfyrwyr, fydd yn sicrhau bod y sefydliad yn rhedeg yn esmwyth.

Bydd Laimis, a oedd yn fyfyriwr peirianneg yn y Coleg cyn dechrau ei rôl newydd, yn gweithio ar draws yr holl gampysau a chynrychioli holl fyfyrwyr y Coleg. Bydd yn arwain digwyddiadau a mentrau ac yn sicrhau bod uwch reolwyr yn clywed barn myfyrwyr.

“Rhaid i fi ddechrau drwy longyfarch tîm rheoli’r Coleg ar wneud datganiad cadarnhaol ynghylch pwysigrwydd gwrando ar lais y myfyriwr drwy gyflwyno’r rôl hon,” dywedodd Laimis. “Dwi wir yn edrych ymlaen at gefnogi’r myfyrwyr, gwrando ar yr hyn sydd gyda nhw i’w ddweud a gweithio gyda Phennaeth y Coleg Mark Jones ac uwch reolwyr i ddatblygu eu syniadau.”

Mae Laimis yn gobeithio, trwy weithio’n agos gyda’r Grŵp Rheoli Myfyrwyr, y gall helpu i gyflymu’r broses gyfathrebu fewnol ar draws y campysau gwahanol, ac o ganlyniad, ddelio’n fwy effeithiol ag unrhyw gwestiynau neu bryderon a godir gan fyfyrwyr.

Y blaenoriaethau cyntaf i’r Undeb Myfyrwyr fydd cynnal digwyddiadau codi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl a chynaliadwyedd byd-eang, y mae Laimis yn eu hystyried yn ddau o’r problemau mwyaf a mwyaf brys sy’n wynebu pobl ifanc heddiw.

“Bydd Laimis yn chwarae rôl hollbwysig o ran sicrhau bod llais y myfyriwr yn cael ei glywed – mae e’n ‘eiriolwr’ go iawn dros fyfyrwyr,” dywedodd Rheolwr Profiad a Lles y Dysgwr Tom Snelgrove. “Er mai dim ond y dechrau yw hyn iddo fe, mae e’n cymryd ei rôl newydd o ddifri ac mae eisoes wedi dechrau gwneud newidiadau cadarnhaol iawn. Dwi’n ffyddiog y bydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i brofiad cyffredinol ein myfyrwyr yn y Coleg.”


Related Articles

Responses