From education to employment

Coleg Gŵyr Abertawe yn derbyn canmoliaeth gan AoC

 

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cael ei ganmol am ei arferion gorau a’i harloesed mewn tri chategori gwahanol yng Ngwobrau Beacon Cymdeithas y Colegau (AoC) 2019.

Mae Gwobrau Beacon Cymdeithas y Colegau yn gyfle i ddathlu arferion mwyaf arloesol Colegau’r DU. Cyflwynir y gwobrau yn flynyddol gan AoC er mwyn cymeradwyo ardderchowgrwydd a chydnabod doniau staff ar bob lefel. Mae’r gwobrau yn amlinellu ehangder ac ansawdd addysg yn y sector Colegau.

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cael ei gymeradwyo gan y gwobrau isod:

  • Gwobr Ryngwladol y Cyngor Prydeinig, a noddir gan y Cyngor Prydeinig, sy’n cydnabod enghraifft o waith rhyngwladol rhagorol Coleg

  • Gwobr Iechyd Meddwl a Lles Rhwydwaith y Coleg Agored Cenedlaethol (NOCN), sy’n cydnabod y gwaith pwysig y mae Colegau yn gwneud i gefnogi iechyd meddwl a lles myfyrwyr a staff

  • Gwobr Ymgysylltu â Chyflogwyr City & Guilds, sy’n cydnabod arferion rhagorol o ran diwallu / ymateb i anghenion cyflogwyr.

“Mae Gwobrau Beacon AoC yn arddangos yn union pam mae Colegau mor bwysig i bob cymuned a pham mae pobl yn eu gwerthfawrogi,” meddai David Hughes, Prif Weithredwr AoC. “Mae’r gwobrau yn cydnabod yr ymroddiad anferthol a’r cymorth y mae Colegau yn eu cynnig i bobl ifanc a dysgwyr sy’n oedolion. Bob blwyddyn mae Colegau yn arddangos y lefelau uchaf o ran arloesed ac arferion gorau – nid yw eleni’n wahanol i’r drefn. Llongyfarchiadau i bob Coleg sydd wedi bodloni Safonau Beacon AoC a phob lwc i bawb sy’n symud ymlaen i Gam 2.”

DIWEDD

Cymdeithas y Colegau (AoC) – www.aoc.co.uk 


Related Articles

Responses