From education to employment

Coleg Rhydychen yn ehangu menter allgymorth i Abertawe

Mae myfyrwyr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe wedi cymryd rhan mewn menter newydd sbon sy’n ceisio denu mwy o bobl ifanc o ysgolion gwladol i Brifysgol Rhydychen.

Aeth tua 80 o fyfyrwyr Safon Uwch i’r gweithdy Step Up yn ddiweddar ar Gampws Gorseinon dan arweiniad Pennaeth Allgymorth y Coleg Newydd, Rhydychen – a chyn-fyfyriwr Coleg Gŵyr Abertawe – Daniel Powell.

Cynlluniwyd y rhaglen Step Up i ysbrydoli a chefnogi myfyrwyr ysgolion gwladol a cholegau trwy flynyddoedd 11-13. Ei nod yw sicrhau bod myfyrwyr â photensial academaidd uchel yn cydnabod Rhydychen fel dewis realistig a chyraeddadwy.

Mae’n nodi saith cam ymarferol a fydd yn helpu myfyrwyr i lunio cais cystadleuol i Rydychen, gyda Cham 1 yn sesiwn ragarweiniol sy’n herio canfyddiadau myfyrwyr am Brifysgol Rhydychen.

“Rydyn ni’n falch iawn o weithio mewn partneriaeth â Daniel a gyda’r Coleg Newydd i gynnig rhagor o gyfleoedd eto i’n myfyrwyr archwilio opsiynau ym mhrifysgolion gorau’r DU,” meddai Fiona Beresford, Cydlynydd Rhydgrawnt y Coleg. “Bydd yn gyfle gwych i’n myfyrwyr siarad â rhywun fel Daniel, sy’n gyn-fyfyriwr ac sydd wedi bod drwy’r broses ei hun.”

Mae Step Up yn gynllun cyswllt parhaus a fydd yn gweld myfyrwyr yn mynychu cyfres o sesiynau gyda thîm Allgymorth y Coleg Newydd ac yn cael cyfle i gwrdd â thiwtoriaid. Bydd y cyswllt rheolaidd, cyson hwn yn helpu myfyrwyr i lenwi camau niferus cais prifysgol, yn ogystal â normaleiddio Prifysgol Rhydychen – gan ei gwneud i edrych yn llai bygythiol ac yn fwy cyraeddadwy.

“Mae mwyafrif y rhaglenni allgymorth yn dylanwadu ar y rhan hanfodol o’r broses sy’n ymwneud â cheisiadau a derbyniadau,” meddai Warden y Coleg Newydd, Miles Young. “Ond rydyn ni’n credu’n gryf fod yna gam cynharach lle gallwn ni fynd i’r afael â’r broblem – yn bellach i lawr y grwpiau oedran – trwy feithrin perthnasau hirdymor. Mae hyn yn gwbl gyson â gwahaniaeth addysgol Rhydychen, sef ei bod yn ymarfer addysgu ar sail perthynas. Mae Step Up yn cefnogi myfyrwyr, athrawon a rhieni i godi dyheadau ac annog y myfyrwyr talentog hynny na fydden nhw fel arall wedi ystyried Rhydychen yn uchelgais realistig.”

DIWEDD

Mae’r Coleg Newydd yn un o golegau cyfansoddol Prifysgol Rhydychen. Wedi’i leoli yng nghanol y ddinas, mae’n un o’r colegau mwyaf trawiadol yn bensaernïol, mwyaf llwyddiannus yn academaidd a mwyaf o ran maint, gyda thros 700 o fyfyrwyr (israddedigion a graddedigion) yn astudio amrywiaeth o ddisgyblaethau.

Treialwyd Step Up yn 2017, a nawr mae’r Coleg Newydd yn gweithio gyda 30 o ysgolion a cholegau o ranbarthau ledled Cymru a Lloegr:

Mae Cam 1 yn digwydd mewn ysgolion. Mae’n sesiwn ragarweiniol am brifysgolion ac yn herio canfyddiadau myfyrwyr am Brifysgol Rhydychen.

Mae Cam 2 yn cael ei gynnal yn y Coleg Newydd. Mae myfyrwyr yn cael cyfle i weld tri choleg gwahanol, cwrdd â myfyrwyr presennol ac academyddion, a chael sesiwn ar eu dewisiadau presennol a’u dewisiadau yn y dyfodol.

Mae Cam 3 yn cael myfyrwyr i siarad ac ysgrifennu am eu hoff bwnc – mae’n gyflwyniad da i’r cyfweliadau a’r datganiadau personol a ddaw yn y dyfodol. Mae hefyd yn gwella sgiliau darllen dadansoddol a meddwl beirniadol.

Mae Cam 4 yn Ddiwrnod Agored amgen, sy’n cael ei gynnal a’i redeg gan fyfyrwyr presennol y Coleg Newydd, gan gynnwys sesiynau academaidd, gweithgareddau cymdeithasol a ffair y glas enghreifftiol.

Mae Cam 5 yn helpu myfyrwyr i ddechrau ar eu datganiadau personol, gan ddadansoddi datganiadau sy’n bodoli eisoes i weld beth sy’n gweithio’n dda, beth nad yw’n gweithio’n dda, a’r math o weithgareddau y gallen nhw fod yn eu gwneud i ddysgu rhagor am eu diddordebau pwnc eu hunain.

Mae Cam 6 wedi’i leoli o amgylch Diwrnod Agored Prifysgol Rhydychen. Bydd myfyrwyr yn cael cyfle i aros yn y Coleg am y tro cyntaf, cyn dysgu mwy am y pynciau o’u dewis ac amrywiaeth o wahanol golegau trwy ymweld â nhw!

Mae Cam 7 yn cyflwyno myfyrwyr i gyfweliadau Rhydychen, gan eu hysbysu am y broses a’u helpu i baratoi.


Related Articles

Responses