From education to employment

Preswylwyr cartref gofal yn mwynhau gweithdai canu

Mae preswylwyr cartref gofal yn Abertawe wedi mwynhau cyfres o weithdai canu dwyieithog o ganlyniad i gydweithrediad rhwng Ffa-la-la a Choleg Gŵyr Abertawe.

Diolch i gymorth ariannol gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, roedd y Coleg wedi trefnu tair sesiwn yng Nghartref Gofal Hengoed Park yn Winsh-wen lle anogwyd preswylwyr a staff i neilltuo amser o’u diwrnod prysur i ganu gyda’i gilydd yn Gymraeg.

“Mae iechyd a gofal cymdeithasol yn cael ei ystyried yn sector â blaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru o ran darpariaeth iaith Gymraeg oherwydd mae llawer o bobl hŷn yn siarad yr iaith ac weithiau maen nhw’n teimlo yn fwy cyfforddus yn cyfathrebu yn Gymraeg,” dywedodd Hyrwyddwr Dwyieithrwydd y Coleg Einir Wyn Hawkins. “Mae’n hanfodol bod darparwyr hyfforddiant fel Coleg Gŵyr Abertawe yn parhau i hybu a hyrwyddo’r iaith ar bob cyfle ar y campws ac allan yn y gymuned.”

Mae gan y Coleg berthynas waith agos gyda Hengoed Park ac mae wedi lleoli nifer o ddysgwyr a phrentisiaid yno dros y blynyddoedd, ar amrywiaeth o gyrsiau o Lefel 2 hyd at Lefel 6.

Mae’r aseswyr Alex Manley a Emma Howells, a gymerodd ran yn y prosiect hwn, hefyd yn treulio llawer o amser yno ac maen nhw wedi datblygu perthynas go iawn gyda’r rheolwyr a’r staff.

“Roedden nhw’n gallu gweld staff y cartref gofal yn rhyngweithio’n ddwyieithog gyda’r preswylwyr ac yn mwynhau’r profiad yn fawr iawn,” ychwanegodd Einir Wyn. “Roedd y rhai di-Gymraeg hyd yn oed yn gallu cymryd rhan oherwydd mae’r sesiynau wedi’u gosod ar y lefel iawn i weddu i bawb.”

Mae Ffa-la-la, a sefydlwyd yn 2014, yn ceisio datblygu sgiliau iaith Gymraeg mewn amrywiaeth o leoliadau megis ysgolion, meithrinfeydd a chartrefi preswyl.

“Roedd y profiad o rhedeg gweithdai i bresylwyr Hengoed yn un arbennig,” dywedodd y sylfaenydd Carys Gwent. “Roedd eu brwdfrydedd a’u hegni yn wych ac roeddent yn awyddus iawn i ddysgu geiriau Cymraeg trwy ganu. Daliwch ati!” 

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gweithio i sicrhau rhagor o gyfleoedd ar gyfer myfyrwyr cyfrwng Cymraeg, cefnogi myfyrwyr sy’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg, a datblygu modiwlau, cyrsiau ac adnoddau o safon i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg.       

“Mae’n wych i allu cefnogi gweithgaredd o’r math yma sydd yn dangos i’r dysgwyr pwysigrwydd y Gymraeg yn y gweithle,” ychwanegodd Rheolwr Cyfathrebu Elin Williams. “Mae’r Coleg yn cefnogi nifer o brosiectau ar hyd a lled Cymru er mwyn annog mwy o ddefnydd o’r Gymraeg mewn sefyllfaoedd y tu allan i’r ystafell ddysgu.”


Related Articles

Responses