From education to employment

Digwyddiad Coleg ‘wedi’i gymeradwyo’n uchel’ mewn seremoni gwobrau cenedlaethol

Mae digwyddiad Gwobrau Blynyddol Myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe, a drefnir gan y tîm Marchnata mewnol, wedi cael ei gymeradwyo’n uchel yng Ngwobrau mawreddog Rhwydwaith Marchnata Colegau / FE First am Ragoriaeth Marchnata.

Roedd y Gwobrau Blynyddol, sy’n darparu ar gyfer dros 200 o bobl ac yn digwydd bob mis Mehefin yn Stadiwm Liberty, wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori Rheoli Digwyddiadau.

Mae Gwobrau Blynyddol Myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe yn gyfle i ddathlu llwyddiant yr holl ddysgwyr boed yn ymadawyr ysgol amser llawn, oedolion sy’n dysgu’n rhan-amser, prentisiaid, myfyrwyr addysg uwch, disgyblion darpariaeth 14-16 neu’r rheini ar gyrsiau hyfforddi cyflogwyr.

Mae’r noson yn tynnu sylw at lwyddiannau myfyrwyr unigol yn ogystal â chydnabod pawb sydd wedi chwarae rhan allweddol yn eu llwyddiant gan gynnwys eu teuluoedd, eu ffrindiau, eu darlithwyr a’u cyflogwyr.

Mae’r digwyddiad yn cael ei gynllunio, ei drefnu a’i ddarparu gan y tîm Marchnata sy’n goruchwylio pob elfen o’r noson gan gynnwys cysylltu â’r lleoliad a threfnu siaradwr gwadd (eleni y soprano o’r radd flaenaf a’r cyn-fyfyriwr Elin Manahan Thomas), cydlynu’r rhestr westeion, trefnu ffotograffiaeth a fideo a phob agwedd ar gysylltiadau cyhoeddus a chyfryngau cymdeithasol.

Mae’r Gwobrau Blynyddol wedi tyfu’n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, o ran maint ac uchelgais, ac maent wedi dod yn gyfrwng perffaith i gryfhau’r cysylltiadau presennol rhwng y Coleg, cyflogwyr lleol a phartneriaid cymunedol, y mae llawer ohonynt wedi ymuno â ni fel noddwyr y digwyddiad.

“Roedden ni’n falch iawn o gynrychioli Cymru yng Ngwobrau FE First ac rydyn ni’n falch ein bod ni wedi cael canmoliaeth uchel yn yr hyn a oedd yn gategori cystadleuol iawn,” meddai’r Rheolwr Marchnata a Derbyn, Marie Szymonski. “Mae ein digwyddiad Gwobrau Blynyddol yn gofyn am fisoedd o gynllunio, ac mae pob un yn cael ei wneud ochr yn ochr â llwythi gwaith prysur o ddydd i ddydd. Mae’n wych bod y gwaith caled hwn, y manylder a’r gwaith paratoi gofalus wedi cael eu cydnabod.”

Yn eu hadborth, roedd trefnwyr Gwobrau FE First wedi disgrifio gwobrau Coleg Gŵyr Abertawe fel “digwyddiad gwych sydd wir yn diwallu’r amcanion… ac yn dathlu llwyddiannau myfyrwyr, nid yn unig yn academaidd ond ar eu taith gyfan… mae’r digwyddiad yn cynnwys y Coleg cyfan ac mae’n meithrin cysylltiadau cryf â busnesau lleol, gan hyrwyddo gwaith y Coleg ar draws y sector busnes lleol.”

DIWEDD


Related Articles

Responses