From education to employment

Coleg ar restr fer ar gyfer pedair gwobr AB TES

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer mewn pedwar categori yng Ngwobrau clodfawr AB TES 2020.

Mae’r gwobrau yn gyfle i ddathlu ymroddiad ac arbenigedd pobl a thimau sydd wedi gwneud cyfraniadau sylweddol i wella sgiliau pobl ifanc ac oedolion sy’n ddysgwyr.

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categorïau canlynol:

1. Coleg Addysg Bellach y flwyddyn
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r Coleg wedi gweld twf sylweddol sydd wedi arwain at lefelau uchel o fuddsoddiadau mewn pobl, offer ac ystadau. Cafodd y buddsoddiadau yma eu cyflawni wrth sicrhau lefel uchel o ansawdd.

Er enghraifft, mae cofrestriadau amser llawn wedi cynyddu yn sylweddol ac yn 2019, (er bod saith ysgol i ddisgyblion chweched dosbarth yn lleol i’r ardal) gwelwyd 2/3 o ddisgyblion ôl-16 hyd a lled y ddinas yn cofrestru yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. Hefyd, yn dilyn cytundeb y Coleg yn 2016 i redeg darpariaeth prentisiaeth y Cyngor, mae’r Coleg wedi gweithio gyda chyflogwyr a Llywodraeth Cymru er mwyn cynyddu’r gyllideb ar gyfer y ddarpariaeth o £1.7m (250 o brentisiaid) yn 2016 i £7.1m (2,500 o brentisiaid) heddiw.

Gwelwyd cynydd o 50% mewn cofrestriadau Addysg Uwch (Lefel 4 ac uwch), gyda chofrestriadau rhyngwladol hefyd yn cynyddu. Mae bron i 50 o grwpiau o ddisgyblion ysgol yn mynychu’r Coleg yn wythnosol i dderbyn hyfforddiant mewn pynciau megis trin gwallt a thirlunio, ac mae £6m o gyllid Ewropeaidd eisoes wedi ei sicrhau (dros y tair blynedd nesaf) i redeg darpariaeth cyflogadwyedd yng nghanol y ddinas fydd yn cynnig cymorth a chyngor i oedolion di-waith sy’n ceisio cyflogaeth.

Mae’r cyfraddau llwyddo ar gyfer cyrsiau Safon Uwch, rhaglenni galwedigaethol a fframweithiau prentisiaeth yn parhau i ragori ar y cyfraddau cyfartalog cenedlaethol, gyda chanlyniadau llawer o’r cyrsiau yn y chwartel uchaf o ran perfformiad.

2. Arwr Tawel WorldSkills (arweinydd y cwricwlwm ar gyfer Peirianneg Electronig,
Steve Williams)

Trwy wreiddio dulliau o wella sgiliau ym mhob agwedd ar gwricwlwm ei adran, mae Steve Williams yn ymgorffori ac yn enghreifftio rhesymeg cystadlaethau WorldSkills.

Fel Rheolwr Hyfforddiant Sgiliau DU, mae Steve yn hyfforddi ac yn datblygu cystadleuwyr o sefydliadau ledled y DU, ac mae rhai o’i lwyddiannau hyd yma yn cynnwys: ennill medalau Aur ac Arian yng nghystadlaethau Sgiliau Cymru dros y pedair blynedd olynol ddiwethaf; medal Aur yng nghystadleuaeth Sgiliau DU 2018 yn ogystal â medal Efydd yng nghystadleuaeth Sgiliau DU 2017.

Mae pedwar o fyfyrwyr Steve hefyd ar fin cynrychioli Cymru a’r DU fel rhan o garfan WorldSkills Shanghai 2021.

Yn ogystal â gweithio’n helaeth i rannu ei arbenigedd gyda cholegau a phrifysgolion eraill, mae Steve yn rhedeg rhaglenni hyfforddiant a noddir gan SEMTA, ac mae’n llais blaenllaw o fewn y sector peirianneg electronig, gydag arbenigwyr o’r diwydiant yn rhoi ystyriaeth i’w arweinyddiaeth a’i arbenigedd wrth gynllunio a threfnu cystadlaethau.

3. Defnydd rhagorol o dechnoleg er mwyn gwella addysgu, dysgu ac asesu
Yn 2017, achubodd Coleg Gŵyr Abertawe’r blaen ar ddatblygu diagnostig asesu ar-lein cyntaf y DU ar gyfer asesu llythrennedd, rhifedd a sgiliau meddal. Cynlluniwyd y diagnostig yn benodol ar gyfer asesu myfyrwyr ag anghenion dysgu dwys ac ychwanegol.

Sbardun y prosiect oedd gweithwyr proffesiynol o fewn y maes Sgiliau Byw’n Annibynnol, Llywodraeth Cymru ac Estyn, a oedd yn cydnabod yr angen am asesiad dibynadwy a thrwyadl a fyddai’n mesur gallu myfyrwyr ar draws amrywiaeth o sgiliau gwybyddol a bywyd. Mae’r offeryn asesu hwn yn cynhyrchu targedau ystyrlon sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn diwallu ei anghenion, gan ei herio i gyflawni ei botensial llawn. Mae’r offeryn hefyd yn ffordd dda o fesur cyrhaeddiad yr unigolyn.

4. Rhaglen Brentisiaeth y Flwyddyn
Yn 2015, mewn ymateb i gais gan gyflogwyr rhyngwladol megis Tata Steel a Vale Europe, datblygodd Coleg Gwyr Abertawe lwybr prentisiaeth arloesol ar gyfer Technegwyr Labordai a Gwyddoniaeth Lefel 3-5.

Yna, oherwydd galw parhaus y diwydiant i ddatblygu sgiliau’r prentisiaid hyd at lefel gradd, negododd y Coleg gytundeb â Phrifysgol Abertawe a fyddai’n caniatau i Brentisiaid Uwch llwyddiannus symud ymlaen i ail flwyddyn Rhaglen Cemeg i israddedigion.

Mewn ymgais i ddatblygu prentisiaid ‘y tu hwnt i’r maes llafur’, mae’r Coleg hefyd wedi gweithio mewn partneriaeth â chyflogwyr er mwyn datblygu meddalwedd sy’n gwella galluoedd prentisiaid i geisio datrys cyfrifiadau mewn labordai. Fel unig Goleg cysylltiol y Gymdeithas Frenhinol yng Nghymru, mae Coleg Gŵyr Abertawe ar hyn o bryd yn cydweithio â’r Gymdeithas Ystadegau Frenhinol a’r Sefydliad Dur a Metel (SaMI) ar astudiaeth beilot a fydd yn galluogi prentisiaid i ymweld â SaMI i ddadansoddi data amrwd.

“Rwy’n falch iawn bod y gwobrau hyn yn cydnabod y lefel uchel a chyson o addysgu a chymorth y mae’r Coleg yn ei ddarparu ar draws ystod eang o raglenni,” meddai’r Pennaeth, Mark Jones. “Mae’r rhaglenni hyn yn cael eu datblygu’n gyson i ddiwallu anghenion amrywiol ein dysgwyr. Hoffwn ddiolch i staff addysgu a staff cymorth y Coleg am eu hymroddiad a’u dawn.”

Bydd ennillwyr Gwobrau AB TES yn cael eu cyhoeddi ar ddydd Gwener 20 Mawrth 2020.


Related Articles

Responses