From education to employment

Cyngor ar Goronafeirws – 13 Mawrth

Rydym yn deall y gallai fod pryderon gan lawer o’n myfyrwyr, staff a rhieni am y sefyllfa bresennol ynghylch coronafeirws.

Mae iechyd, lles a diogelwch cymuned ein Coleg o’r pwys mwyaf a bydd yn cael ei roi uwchlaw pob ystyriaeth. Er mwyn sicrhau hyn, mae gennym weithgor sy’n cwrdd yn rheolaidd i sicrhau bod gennym yr wybodaeth fwyaf diweddar wrth law, a bydd yn cymryd camau priodol os a phan fydd angen.

Byddwn yn parhau i ddilyn canllawiau gan y Llywodraeth a seilio ein gwybodaeth ar eu cyngor. Gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth a’r cyngor ar goronafeirws a’r canllawiau diweddaraf i leoliadau addysgol ar wefan GOV.UK.

Hunan-ynysu ac absenoldeb
Os oes angen i chi hunan-ynysu, cysylltwch â’r Coleg i gofnodi’ch absenoldeb. Peidiwch â dod i mewn.

Os ydych yn aelod o staff, dilynwch y drefn absenoldeb arferol.
Os ydych yn fyfyriwr, cofnodwch eich absenoldeb drwy ddefnyddio’r ddolen ganlynol https://www.gcs.ac.uk/ReportAbsence
Ni fydd eich LCA yn cael ei effeithio cyhyd â’ch bod yn cofnodi’ch absenoldeb ar gyfer y cyfnod hwn.

Teithiau addysgol (dramor)
Mae cyngor allanol mewn perthynas â theithiau dramor i rannau o’r byd a ystyrir yn ‘ddim risg neu ddim llawer o risg’ yn parhau i fod yn anghyson, ac, rydym yn gwybod bod rhai ysgolion, colegau a phrifysgolion eisoes yn canslo teithiau i rai o’r gwledydd hyn.

Ar hyn o bryd yn y Coleg mae gennym bedair taith dramor ar y gweill sy’n gadael yn ystod yr wythnosau nesaf ac felly, oherwydd yr ansicrwydd presennol a’r twf yn y niferoedd sy’n profi’n bositif am y feirws mewn cyfnod cymharol fyr, credwn fod y camau mwyaf priodol i’r Coleg eu cymryd yw i bob taith dramor gael ei chanslo ar unwaith ac hyd y gellir rhagweld.

Bydd yr holl fyfyrwyr yn cael eu hysbysu a dylent siarad â threfnydd y daith ynglŷn â sut i hawlio ad-daliad.

Teithiau addysgol (y DU)
O ran teithiau o fewn y DU, ar hyn o bryd rydym yn barod i’r rhain barhau ond rydym yn ymgynghori â staff i ystyried a yw’r daith yn angenrheidiol ai peidio, a hefyd yn rhoi opsiwn i staff a myfyrwyr beidio â theithio.

Ymddiheurwn os yw hyn yn achosi unrhyw anghyfleustra ond byddwn bob amser yn parhau i roi iechyd a diogelwch ein myfyrwyr a’n staff uwchlaw pob ystyriaeth arall.

Cyngor teithio cyffredinol
Ewch i dudalennau cyngor teithio Llywodraeth y DU i gael yr wybodaeth deithio ddiweddaraf ac effaith coronafeirws ar deithio.

Gwybodaeth deithio gwlad-benodol
Ewch i dudalennau cyngor teithio Llywodraeth y DU ar gyfer yr holl wledydd rydych yn bwriadu ymweld â nhw.

Teithwyr sy’n dychwelyd
Ewch i dudalennau cyngor Llywodraeth y DU i gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar gyfer teithwyr sy’n dychwelyd ac a fydd rhaid i chi hunan-ynysu.


Related Articles

Responses