From education to employment

Neges wedi’i diweddaru i fyfyrwyr – Mai

Mae wedi bod yn dair wythnos ers i mi roi’r newyddion diweddaraf i chi am y cynnydd y mae’r Coleg yn ei wneud ar yr ystod o heriau rydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd.

Hoffwn ddiolch eto i bob un ohonoch am eich ymroddiad parhaus i’ch astudiaethau. Er bod staff yn parhau i addysgu a darparu cymorth tiwtorial a bugeiliol ar-lein, mae’ch ymateb wedi bod yn ardderchog ac yn amlwg bydd yn helpu i’ch paratoi ar gyfer eich cam nesaf, beth bynnag y bo.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf mae rhagor o wybodaeth wedi dod i’r fei gan y gwahanol gyrff arholi mewn perthynas ag asesu a graddio’ch perfformiad, ond rydym yn dal i aros am fwy o eglurder gan nifer o’r byrddau arholi galwedigaethol. O ran Safon Uwch, er enghraifft, bydd eich perfformiad yn cael ei asesu gan eich darlithwyr Coleg ac yn seiliedig ar eich holl waith a aseswyd hyd at ac yn cynnwys 20 Mawrth.

Yna bydd y byrddau arholi yn edrych ar ddosbarthiad arfaethedig pob sefydliad o gymharu â dosbarthiad gwirioneddol y graddau mewn blynyddoedd blaenorol.

Felly, er enghraifft, pe bai 40% o fyfyrwyr wedi cael A* yn ystod y blynyddoedd blaenorol, yna byddai disgwyl i ganran debyg gael A* eleni. Felly, credwn fod mantais wirioneddol gan ein myfyrwyr Coleg gan fod ein proffil graddau yn y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn ardderchog.

Ffocws allweddol arall i ni ar hyn o bryd yw paratoi ar gyfer llacio neu leddfu’r cyfyngiadau yn rhannol rywbryd yn y dyfodol agos gobeithio.

Yn amlwg mae ystod eang o heriau o’n blaenau. Mae’r rhain yn cynnwys yr angen i gynnal pellter cymdeithasol trwy drefnu dosbarthiadau llai o faint o bosibl ochr yn ochr ag ystafelloedd dosbarth, gweithdai a labordai a sicrhau bod gan bawb fynediad at gyfarpar diogelu personol – ac er nad oes gennym unrhyw ddyddiad gwirioneddol i weithio tuag ato, mae’r gwaith cynllunio’n mynd rhagddo’n dda.

Fodd bynnag, dim ond rhan o’r darlun yw hwn o hyd. Pan ddychwelwch, i rai bydd asesiadau ar ôl i’w cwblhau ac, i lawer o rai eraill, bydd angen dal i fyny a chwblhau rhannau o’ch cwrs.

Byddwn hefyd yn anelu at sicrhau eich bod yn cael cyfle i symud ymlaen i’ch cam nesaf fel rhan o’n Gwarant Coleg Gŵyr Abertawe a bydd angen cynnwys hyn mewn amserlenni unigol.

Yn ogystal, gan fod y farchnad gyflogaeth yn debygol o fod hyd yn oed yn fwy cystadleuol wrth symud ymlaen, rydym yn awyddus i roi cymorth sydd hyd yn oed yn fwy penodol i chi yn y maes hwn.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am sut rydym yn ymateb i Covid-19, ewch i’n tudalen we benodol.

Cadwch yn ddiogel a chadwch mewn cysylltiad.

Mark Jones, Pennaeth 


Related Articles

Responses