From education to employment

Coleg yn cefnogi’r GIG a chymunedau lleol yn ystod argyfwng Coronafeirws

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi bod yn gweithio’n agos gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (BIPBA) yn ogystal â defnyddio mentrau eraill i gefnogi’r frwydr yn erbyn Covid-19.

Dros y mis diwethaf, mae staff yng Ngholeg Gŵyr Abertawe wedi bod yn darparu Hyfforddiant Pasbort Codi a Chario Cymru Gyfan i staff ysbyty rheng flaen sy’n dychwelyd, myfyrwyr meddygol, gweithwyr gofal a chynorthwywyr gofal iechyd. I sicrhau diogelwch pawb, mae sesiynau hyfforddi’n cael eu darparu i garfannau bach o fyfyrwyr, gan sicrhau bod canllawiau pellhau cymdeithasol yn cael eu dilyn bob amser.

Hyd yn hyn, mae dros 100 o unigolion eisoes wedi cael yr hyfforddiant i’w paratoi i weithio ar y rheng flaen. Mae hyfforddiant wedi digwydd yn Phillips Parade, Abertawe, sydd â wardiau ffug lle mae teclynnau codi ac offer hyfforddi buddiol eraill. Mae’r holl hyfforddiant wedi’i ariannu’n llawn trwy Gronfa Datblygu Sgiliau Llywodraeth Cymru.

Yn ogystal â sesiynau hyfforddiant corfforol, mae’r Coleg wedi rhoi menig latecs i’r GIG, hylif diheintio dwylo a dalennau OHP y gellir eu defnyddio fel feisorau wrth greu cyfarpar diogelu personol. Gan fod campysau’r Coleg yn parhau i fod ar gau, mae’r Coleg hefyd wedi rhoi’r holl fwyd a diod sydd heb gael eu defnyddio o’r ffreuturau, y peiriannu gwerthu a chyfleusterau eraill i ddau fanc bwyd lleol.

Mae tîm cyflogadwyedd Coleg Gŵyr Abertawe, trwy raglen Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, wedi bod yn cynnig eu cefnogaeth i helpu gyda’r nifer fawr o geisiadau swyddi y mae ysbytai lleol yn eu cael. Mae’r tîm hefyd yn aros am y golau gwyrdd i gynnal cyfweliadau dros y ffôn tra bod BIPBA yn ystyried recriwtio nifer fawr o staff ar gyfer ei ysbyty dros dro yn Ffordd Fabian, Abertawe.  

“Rydyn ni’n gwerthfawrogi’n fawr iawn y cymorth parhaus gan Goleg Gŵyr Abertawe trwy’r cyfnod ansicr hwn” ychwanegodd Ruth Gates, Rheolwr Prosiect Dysgu a Datblygu yn BIPBA.

“Mae’r ymateb cyflym gan staff y Coleg wedi rhoi modd i ni gynyddu darpariaeth y rhaglenni sydd eu hangen ar gyfer staff newydd a’r staff sydd eisoes gyda ni i gyflawni rolau newydd.

“Rydyn ni hefyd yn gweithio gyda’r Coleg i ddatblygu dulliau darparu newydd fel y gall staff gwblhau gwaith a bod y gwaith yn gallu cael ei asesu’n rhithwir. Mae’r cymorth recriwtio gan dîm Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol y Coleg wedi bod yn hanfodol o ran sicrhau staff newydd, ac mae llawer o’u cleientiaid a atgyfeiriwyd wedi llwyddo i gael swyddi gyda ni.”

Dywedodd Paul Kift, Cyfarwyddwr Sgiliau a Datblygu Busnes yn y Coleg “Mae’r Coleg yn falch o fod wrth galon ein cymunedau. Gan fod y GIG yn amlwg ar flaen y gad o ran brwydro’r her hon, rydyn ni eisiau darparu unrhyw gymorth y gallwn ni. Mae’r ymateb gan fy nghydweithwyr, sydd wedi gwirfoddoli i helpu’r rheini ar y rheng flaen, wedi bod yn wych, yn agoriad llygad, yn union fel ymdrechion y rhai rydyn ni’n eu helpu.”

Ymysg hyn oll, mae staff y Coleg wedi parhau i weithio o bell ac maen nhw wedi bod yn dangos eu cefnogaeth barhaus i’r GIG a’r holl weithwyr allweddol eraill gyda fideo ‘Cymeradwyo Gweithwyr Allweddol’ a gafodd ei rannu ar draws holl gyfryngau cymdeithasol y Coleg.

***

Nodiadau i’r golygydd: Mae Cronfa Datblygu Sgiliau Llywodraeth Cymru yn weithrediad a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru. Mae’n rhan o weithrediad ledled Cymru sydd wedi’i gynllunio i wella sgiliau a chynyddu cynhyrchiant yn y gweithle, gan ddarparu cyfleoedd i gyflogwyr ennill cymwysterau achrededig ar gyfer eu gweithlu.

Mae rhaglen Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol Coleg Gŵyr Abertawe yn cwmpasu cyfres o brosiectau a gefnogir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop gyda’r nod o gynorthwyo pobl i ennill, cadw a symud ymlaen mewn cyflogaeth a lleihau’r risg y bydd unigolion yn dod neu’n aros yn NEET (nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant).


Related Articles

Responses