From education to employment

Sector addysgu bellach yn ymateb i argyfwng Covid-19 gyda hyforddiant â chymhorthdal llawn i gyflogwyr

Mewn ymateb i effaith barhaus Covid-19 ar les economaidd Cymru, mae colegau ar draws y sector addysg bellach wedi tynnu ynghyd â WEFO (Swyddfa Ariannu Ewropeaidd Cymru) i ddatblygu pecyn cymorth er mwyn helpu a chynorthwyo bunsesau yn ystod y cyfnod hwn.

Gyda chefnogaeth cyllid Cronfa Gymdeithasol Ewrop, bydd colegau addysg belach yng Nghymru nawr cynnig hyfforddiant achrededig a chymwysterau hyfforddiant i’w staff. Bydd yr hyfforddiant yn amrywio o lefel 1 hyd at lefel 6, ac wedi ei hariannu gan dri phrosiect rhanbarthol.

  • Sgiliau ar gyfer Cyflogwyr a Gweithwyr (SEE) yng ngogledd Cymru
  • Sgiliau ar gyfer Diwydiant (SfI) yn ne orllewin a chanolbarth Cymru
  • Uwchsgilio@Waith yn ne-ddwyrain Cymru

Mae’r hyfforddiant ar gael nawr i gwmnïau cymwys a disgwylir iddo redeg tan Awst 2021. Ymhlith y cwmnïau allai fod yn gymwys mae sefydliadau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector o unrhyw faint sydd â chanolfan yng Nghymru ac nad ydynt eisoes wedi dwebyn mwy 200,000 ewro mewn cymorth gwladwriaethol de minimus dros y tair blynedd ariannol ddiwethaf.

Rhaid i’r hyfforddiant fod yn gymhwyster achrededig cymeradwy y gall y colegau addysg bellach ei ddarparu. Yn ogystal, bydd yn rhaid i’r hyfforddiant gynnwys ystod o gymwysterau cysylltiedig â gwaith ar gyfer pob sector busnes.

Os ydych chi am gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwn eich cefnogi cyn i’r cyfnod cyllido gau, cysylltwch â:

De ddwyrain Cymru
Amanda Harris [email protected]
Danial Ashman [email protected]

Gogledd Cymru
Vicky Barwis [email protected]

De orllewin a chanolbarth Cymru
Nigel Richards [email protected] / 01792 294209

Am ragor o wybodaeth ynghylch gofynion cymhwyso, ewch yma.

Ni fydd pob cyflogwr yn gymwys i dderbyn cymorthdal llawn, am fwy o wybodaeth cliciwch yma.


Related Articles

Responses