From education to employment

Diwrnod Iechyd a Lles 2020 – y flwyddyn yr aeth yn rhithwir!

Yn ddiweddar, cynhaliodd Coleg Gŵyr Abertawe ei drydydd Diwrnod Iechyd a Lles blynyddol – ei ddiwrnod rhithwir cyntaf erioed!

Roedd dros 400 aelod o staff wedi mwynhau’r sesiynau lles a oedd yn gyfuniad o sesiynau fideo byw a recordiwyd ymlaen llaw ar YouTube a gweminarau byw ar Zoom a Microsoft Teams.

Roedd y sesiynau’n cynnwys:

  • Pum gweithgaredd corfforol (troelli, dosbarth HIIT, myfyrio ymlaciol, her step ac ioga)
  • 16 gweminar (gan gynnwys sesiynau te a siarad, cydbwyso bywyd a gwaith, gweminarau rheoli straen a ddarperir gan Health Assured a sesiynau un i un gyda chyfreithwyr PGM)
  • Pedair sesiwn gymdeithasol (bingo, cwis teulu, clwb llyfrau a disgo teulu) a
  • 17 fideo wedi’u recordio ymlaen llaw (gan gynnwys gwneud mygydau ar gyfer y GIG, arddangosiadau coginio, iaith arwyddion Prydain a gwiriadau sylfaenol ar gerbydau ar gyfer y cyfnod clo).

“Mae ein Diwrnod Iechyd a Lles yn gyfle gwych i staff a’u teuluoedd fwynhau gweithgareddau lles ar ddiwedd blwyddyn academaidd anodd iawn,” meddai’r Cyfarwyddwr AD, Sarah King.

“Eleni, gyda’r pandemig Covid-19 a staff yn gweithio gartref, roedd yn bwysicach nag erioed. Fe wnaethon ni gynnwys sesiynau ar weithio gartref, sut i beidio â chynhyrfu, bod yn hapus a chanolbwyntio mewn cyfnod anodd, lles a gwydnwch a hyd yn oed sut i wneud masgiau wyneb.

“Hoffwn i ddweud diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi trefnu, darparu a chymryd rhan yn y sesiynau. Roedd yn wych gweld presenoldeb mor uchel mewn digwyddiad rhithwir fel hwn.”

Y llynedd, enillodd Coleg Gŵyr Abertawe Wobr Aur y Safon Iechyd Corfforaethol i gydnabod ei bolisi ar gyfer cynnal a hyrwyddo iechyd a lles o safon uchel yn y gweithle. Mae hyn ar ffurf ymgyrchoedd rheolaidd wedi’u targedu fel Amser i Siarad (ymwybyddiaeth iechyd meddwl), Wythnos Hydradu, Wythnos Gofal Cefn a Diwrnod Cenedlaethol Dim Ysmygu.

Gellir gweld y sesiynau ar sianel Sianel YouTube CGAEgnïol, ynghyd â fideos iechyd a lles eraill sy’n cael eu huwchlwytho a’u ffrydio’n fyw yn rheolaidd.


Related Articles

Responses