From education to employment

Hyb Cyflogaeth yn ailagor – gan gadarnhau ymrwymiad i fynd i’r afael â diweithdra

Mark Jones, Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe sy’n esbonio sut mae’r Coleg yn bwriadu helpu pobl i gael y cymorth sydd ei angen arnynt i sicrhau a chadw cyflogaeth.

O’r holl heriau rydym wedi’u hwynebu yn ystod y misoedd diwethaf o ganlyniad i bandemig Covid-19, ac o bosibl yr un fwyaf sy’n dal o’n blaenau, yw’r rhagamcanion y gallai tua 7.6 miliwn o swyddi neu tua 24% o weithlu’r DU fod mewn perygl oherwydd y cyfnod clo.

Yn wir, hyd yn oed wrth i’r cyfnod clo gael ei lacio, rydym yn clywed cyhoeddiadau am ddiswyddiadau ar draws ystod amrywiol o gyflogwyr o Airbus a Rolls Royce i’r Daily Mirror a The Restaurant Group – gyda digon mwy yn amlwg yn cael eu hystyried.

Mewn ymateb, yr wythnos diwethaf amlinellodd Llywodraeth y DU ei chynllun adfer ôl-goronafeirws gan gynnwys buddsoddiad pellach mewn prentisiaethau a hyfforddeiaethau a chyflwyno cynllun kickstart newydd ar gyfer pobl ifanc. Er nad yw Cymru wedi gwneud ymrwymiadau tebyg eto, rydym yn gwybod bod trafodaethau yn parhau ac y bydd cynllun adfer tebyg – ond ar gyfer Cymru yn benodol – yn cael ei ryddhau yn fuan.

Er mwyn helpu gyda hyn, ac i ddangos ein cefnogaeth yn y maes allweddol hwn, rwy’n falch iawn ein bod bellach wedi ailagor Canolfan Ffordd y Brenin y Coleg, sy’n gartref i’n darpariaeth cyflogadwyedd.

Bydd ein tîm Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol ar gael i weithredu fel canolfan galw heibio i bobl o bob oed sy’n chwilio am gymorth a chefnogaeth i sicrhau a chadw cyflogaeth. Maen nhw’n gwneud hyn trwy baru sgiliau a phrofiad unigol â gofynion yr ystod fawr o gyflogwyr lleol a chenedlaethol rydym yn gweithio gyda nhw.

Yn wir, mae’r gwaith hwn wedi parhau trwy gydol y cyfnod clo – er mae wedi cael ei wneud yn rhithwir fwy neu lai – ond rydym yn gwerthfawrogi bod nifer fawr o unigolion yn chwilio am gymorth wyneb yn wyneb a dyna pam rydym wedi blaenoriaethu ailagor y maes hwn.

Ond dim ond rhan o’n strategaeth yw hon. Fel Coleg sy’n gweithio gyda nifer fawr o bobl ifanc 16-18 oed, rydym yn arbennig o ymwybodol bod effaith y cyfnod clo yn debygol o fod yn arbennig o galed i bobl ifanc. Rydym yn gwybod bod swyddi mewn diwydiannau sy’n cyflogi nifer fawr o bobl ifanc yn draddodiadol, fel lletygarwch ac adwerthu, yn debygol o fod y rhai sydd fwyaf mewn perygl.

Felly dyna pam, ym mis Medi eleni, y byddwn yn integreiddio rhaglen o gymorth ac arweiniad cyflogadwyedd yn ein holl gyrsiau amser llawn. Bydd hyn yn golygu bod pob un o’n myfyrwyr, p’un a ydynt am symud ymlaen i brifysgol flaenllaw yn y DU, prentisiaeth neu’n ansicr o’r hyn maen nhw am ei wneud, yn gallu dechrau deall y farchnad swyddi yn well o ran pa yrfaoedd y mae galw amdanynt, sut mae recriwtio cwmnïau yn gweithredu a sut orau i leoli’ch hun i sicrhau’r swydd honno o’ch dewis – p’un a oes angen y sgiliau hyn arnoch chi nawr, neu yn y dyfodol.

Mae hyn oll yn rhan o’n Gwarant Coleg Gŵyr Abertawe, sy’n cynnig cyswllt di-dor i bob un o’n myfyrwyr amser llawn rhwng ein holl wahanol lwybrau ac a all helpu i’w rhoi ar yr ysgol gyrfa.

Felly p’un a yw hynny’n gynnig lle yn y brifysgol, cynnig swydd/prentisiaeth, dilyniant i gwrs addysg bellach arall neu gymorth cyflogadwyedd wedi’i deilwra gyda’r nod o gael y myfyriwr i fynd i mewn i fyd gwaith, gallwn ni eich helpu.

I gael rhagor o wybodaeth am y Coleg, ewch i www.gcs.ac.uk/cy


Related Articles

Responses