From education to employment

Seremoni raddio rithwir i fyfyrwyr rhyngwladol

Diolch i ryfeddodau technoleg ddigidol, cafodd ein myfyrwyr rhyngwladol seremoni raddio wahanol iawn i flynyddoedd blaenorol.

Ar 29 Mehefin, roedd ein myfyrwyr Safon Uwch wedi mynd i ddigwyddiad ar-lein, a oedd â nifer o negeseuon gan staff ar draws y Coleg, gan gynnwys y Pennaeth, Mark Jones.

Roedd y myfyrwyr wedi mwynhau sioe sleidiau o’u rhaglen gymdeithasol cyn i Terry Summerfield, Tiwtor Rhyngwladol, gyflwyno’r tystysgrifau.

Ar ddiwedd y seremoni, cafodd myfyrwyr gyfle i siarad ac roedd llawer wedi mynegi eu diolch cywiraf am eu hamser yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.

Rydym yn hynod falch o’n myfyrwyr rhyngwladol, y mae gan lawer ohonynt gynigion gan rai o brifysgolion gorau’r wlad, gan gynnwys UCL, Warwig, Imperial, Manceinion, Caeredin, Southampton, Birmingham, Caerdydd, Lerpwl a Bryste.

Rydym yn dymuno’n dda iddynt i gyd yn eu hastudiaethau yn y dyfodol!


Related Articles

Responses