From education to employment

Coleg Gŵyr Abertawe yn arwyddo partneriaeth ag ysgol Tsieineaidd

Cynhaliwyd seremoni arwyddo unigryw ac arbennig iawn ddydd Mercher 1 Gorffennaf rhwng Coleg Gŵyr Abertawe ac Ysgol Arbrofol Ieithoedd Tramor Huashang, Talaith Guangdong, Tsieina.

Mae Ysgol Arbrofol Ieithoedd Tramor Huashang yn ysgol ryngwladol gydag addysg gynradd, iau ac uwchradd, ar gampws sydd tua 60,000 metr sgwâr.

Mae rhyngwladoli yn flaenoriaeth i Goleg Gŵyr Abertawe, ac mae’n croesawu myfyrwyr o Tsieina bob blwyddyn i astudio amrywiaeth o raglenni, gan gynnwys ein cyrsiau Safon Uwch.

Yn siarad yn y seremoni, trwy fideo-gynhadledd, dywedodd Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe, Mark Jones “Dros y blynyddoedd, rydyn ni wedi cael cannoedd o fyfyrwyr o Tsieina yn astudio cyrsiau Safon Uwch gyda ni.

“Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, gall myfyrwyr brofi diwylliannau Prydain a Chymru mewn amgylchedd cyfeillgar, diogel a hardd. Mae ein myfyrwyr rhyngwladol yn cael cymorth ardderchog gan ein swyddfa ryngwladol ymroddedig, ac mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn ffynnu ac yn datblygu’n aruthrol yn ystod eu cyfnod gyda ni.

“Mae Grŵp Addysg Huashang wedi creu argraff fawr arna i, a dwi’n gyffrous clywed am y datblygiadau gydag Ysgol Ieithoedd Tramor Huashang.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at gydweithrediad hirdymor sy’n rhoi cyfleoedd i ddatblygu ein myfyrwyr, gan greu dinasyddion byd-eang gyda gwerthfawrogiad o’r byd yn gyffredinol, a gwerthfawrogiad arbennig o’r diwylliannau Tsieineaidd a Phrydeinig.”

Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn galluogi’r ddau sefydliad i fod yn chwaer-ysgolion, i ddatblygu cyfeillgarwch a chydweithrediad a hyrwyddo cyd-ddealltwriaeth ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol rhwng y ddwy wlad.

Y gobaith yw y bydd y ddwy ysgol yn cyfnewid myfyrwyr, staff ac yn rhannu arferion gorau mewn gweithgareddau addysgu.

Dywedodd Pennaeth Ysgol Arbrofol Ieithoedd Tramor Huashang, Wanxiang Xun “Rydyn ni’n credu y bydd ein cydweithrediad yn hyrwyddo cyfnewidiadau manwl rhwng y ddau sefydliad, gan gefnogi datblygiad addysg ysgol ac addysgu. Byddwn ni’n gweithio gyda’n gilydd i gefnogi ein gilydd a chyfrannu mwy tuag at feithrin doniau yn ein priod feysydd. “

Ychwanegodd Pennaeth Adran Ryngwladol Coleg Gŵyr Abertawe, Ruth Owen Lewis “Mae hon yn bartneriaeth wych i’r Coleg yn ne Tsieina. Yn ogystal â darparu cyfleoedd rhyngwladol i’n myfyrwyr a’n staff, bydd yn gwella ein henw da gwych yn Tsieina.

“Ein bwriad yw cael cydweithrediad dwfn ac ystyrlon ag Ysgol Arbrofol Ieithoedd Tramor Huashang, a fydd yn cynnig buddion i’r ddau sefydliad. Mae partneriaethau yn agwedd bwysig ar ein strategaeth ryngwladol, ac rydyn ni wrth ein boddau gyda’r datblygiad hwn.”


Related Articles

Responses