From education to employment

Tiwtor/Aseswr Peirianneg a chyn-fyfyriwr yn ennill gwobr “Cydweithredu Diwydiannol Academaidd Gorau”

Mae Elizabeth (Lizzie) Roberts, Tiwtor/Aseswr Peirianneg yng Ngholeg Gŵyr Abertawe a chyn-fyfyriwr HNC, HND a NVQ Lefel 4 wedi cipio’r wobr Cydweithredu Diwydiannol Academaidd Gorau gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant o ganlyniad i’w phrosiect traethawd gradd Baglorion Peirianneg Dosbarth Cyntaf.

Roedd prosiect Lizzie, yn Eddyfi Technologies UK, Abertawe, yn cynnwys gwerthuso a chymharu dwy system sy’n canfod cyrydu gan ddefnyddio dulliau delweddu magnetig. Trwy wneud hyn, y nod oedd nid yn unig mesur y gwahaniaethau i hyrwyddo gwelliannau i’r system newydd, ond hefyd i feintioli gallu’r dechnoleg sylfaenol y mae’r ddwy system yn ei defnyddio.

Yn ystod y cyfnod hwn, roedd Lizzie yn gweithio’n amser llawn yn y Coleg, yn mynychu’r brifysgol bob dydd Gwener ac yn cwblhau’r prosiect yn Eddyfi yn ystod unrhyw amser rhydd a oedd ganddi.

Roedd ei gwaith hyd yn oed yn fwy trawiadol o ystyried y ffaith bod y prosiect yn cynnwys amrywiaeth eang o ddisgyblaethau gan gynnwys profion annistrywiol, peirianneg drydanol, mecanyddol a meddalwedd. Roedd Lizzie wedi dangos bod ganddi ddealltwriaeth lawn o’r disgyblaethau ychwanegol hyn gan ddysgu am y systemau cyrydu yn ogystal â’r egwyddorion sylfaenol y mae’r systemau hyn yn seiliedig arnynt. Mae hi’n diolch i’w goruchwyliwr yn y gwaith, yr Athro Neil Pearson am ddarparu’r cymorth diwydiannol angenrheidiol.

Doeddwn i byth yn disgwyl cael fy enwebu am unrhyw fath o wobr,” meddai Lizzie. “Roedd yn sioc llwyr fy mod i wedi cael fy enwebu, a sioc fwy fyth pan wnes i ddarganfod fy mod i wedi ennill.”

Dwi’n ddiolchgar ac yn wylaidd iawn bod fy ngoruchwylwyr yn credu bod y gwaith roeddwn i wedi’i wneud yn werth ei gydnabod. Pan fyddwch chi’n gweithio mor galed am rywbeth, weithiau mae’n teimlo mai chi yw’r unig un sy’n sylwi ar yr amser a’r gwaith caled rydych chi wedi’i neilltuo, ac roedd hi’n braf darganfod bod fy holl waith caled wedi cael sylw. “

Roedd dull a gwaith Lizzie o safon uchel iawn,” meddai ei phrif oruchwyliwr, yr Athro Peter Charlton.

Mae hi hefyd wedi ein helpu i gynnal a chryfhau ein perthynas ag un o’n partneriaid diwydiannol o bwys strategol. Mae’n hanfodol bod gan y brifysgol gysylltiadau da â diwydiannau lleol ac roedd gwaith Lizzie gyda’r cwmni yn ardderchog.”

Mae ei hail oruchwyliwr, Dr. Rachel Alexander, yn adleisio hyn: “Gweithiodd Elizabeth yn galed iawn, a chymerodd hi agwedd ragweithiol a threfnus iawn tuag at ei thraethawd gydag Eddyfi. Roedd ei gwobr yn haeddiannol iawn, mae hi wedi gwneud gwaith ymchwil gwerthfawr ac mae wedi meithrin cysylltiadau rhagorol. Mae ganddi sgiliau arwain cadarn.”

Cyn hyn, cafodd Lizzie ei henwebu fel Llysgenhades Peirianneg ac roedd yn wyneb Prentisiaethau Cymru am ddwy flynedd. Enillodd hefyd y Wobr Alwedigaethol yng Ngwobrau Addysg Prydain am ei chyflawniadau academaidd rhagorol a’i heffaith ar y diwydiant peirianneg, a ddathlwyd ym Manceinion ac a gydnabuwyd yn Nau Dŷ’r Senedd. Nawr ei bod wedi gorffen ei gradd, bydd yn astudio TAR yng Ngholeg Gŵyr Abertawe i fod yn ddarlithydd coleg cymwysedig.


Related Articles

Responses