From education to employment

Dyfodol disglair i fyfyrwyr Mynediad

Mae dros 220 o fyfyrwyr Mynediad yng Ngholeg Gŵyr Abertawe wedi cael eu Diplomâu yr haf hwn.

Mae 92% o’r rheini wedi sicrhau’r lle prifysgol o’u dewis ar raglenni sy’n cynnwys nyrsio, bydwreigiaeth, y gyfraith a gwaith cymdeithasol.

Mae hyn yn newyddion gwych ar ôl yr hyn sydd wedi bod yn flwyddyn academaidd heriol iawn.

Un o’r myfyrwyr sy’n mynd i’r brifysgol yw Melenie Jane Box, a ddechreuodd yn y Coleg ar gwrs Sgiliau Hanfodol Lefel 2 cyn symud ymlaen i gwrs Mynediad i’r Gyfraith Lefel 3.

Ym mis Medi, mae disgwyl i Melenie Jane ddechrau gradd mewn troseddeg ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Roedd diddordeb brwd yn ei phwnc wedi rhoi ffocws go iawn i Meleni Jane wrth iddi wneud ei ffordd trwy’r lefelau.

“Roedd Melenie Jane yn mwynhau dysgu ar bob cyfle,” dywedodd ei darlithydd Mandy Wyn Davies. “Yn ogystal â’i hastudiaethau, roedd hi wedi cymryd rôl cynrychiolydd myfyrwyr ac roedd hi’n llysgennad ardderchog i’r grŵp. Ac fel myfyriwr Lefel 2 roedd hi’n teimlo’n ddigon hyderus i ymuno â chynhadledd Safon Uwch ym Mhrifysgol Abertawe. Fel myfyriwr hŷn, roedd hi wir yn gwerthfawrogi pob agwedd ar ei haddysg ac yn bachu ar bob cyfle a roddwyd iddi yn y Coleg.”

“Roeddwn i wedi bod allan o’r system addysg ers ymhell dros 20 mlynedd ac roeddwn i dipyn bach yn ofnus ynghylch mynd yn ôl,” dywedodd Melenie Jane. “Ond roedd fy narlithwyr mor barod i helpu – yn enwedig Mandy – ar hyd fy nhaith ddysgu.

“Roedd cwblhau’r cwrs Lefel 2 wedi rhoi plwc i mi barhau, roedd yn wefr i mi. Felly, os oes unrhyw fyfyrwyr hŷn allan yna sy’n dymuno mynd yn ôl i addysg, byddwn i’n eu hannog i fynd amdani! Yng ngeiriau’r ddiweddar Ella Fitzgerald – peidiwch â rhoi’r gorau i geisio gwneud yr hyn rydych chi wir eisiau ei wneud, lle mae cariad ac ysbrydoliaeth, dwi’n credu y gallwch chi lwyddo!”


Related Articles

Responses