From education to employment

Plans for safe return of students to Welsh universities in new year

The @WelshGovernment has announced plans for the safe return of students to Welsh universities after the Christmas break.  

  • Managed return of students over four week period, beginning 11 January
  • Lateral-flow testing programme to resume, to enable safe return to term-time accommodation and in-person learning
  • Students will be asked to take two tests over three days, or lay low and not mix for 14 days, when they return.

Students will be invited to return to campus over a four week period, starting from 11 January, with a phased return to in-person teaching. Universities will prioritise students who most need to return early, such as those studying in healthcare professions, those on placements or who need access to campus facilities.  

The safe return of students will be supported through the continuation of the lateral-flow testing pilots, for asymptomatic students, which began at Welsh universities in late November.

Students will be asked to take a lateral-flow test when they return to their university accommodation, before being asked to avoid meeting socially for three days. Those students will then take a second test. Students not taking a test will be advised to lay low and not mix for 14 days.

The Education Minister, Kirsty Williams, said:

“I know students will be eager to return to their university campus after the Christmas break, but will want to do that in a safe way.

“Students will also want to return to learning in person, where it’s safe to do so. We’re putting these measures in place to ensure confidence in a return to learning in-person and minimise the risk of large numbers of students needing to self-isolate during the term.

“The lateral-flow testing programme will also play a role in the safe resumption of learning on campus. A managed, phased return will help meet demand, so that all students can access two tests. This will help break chains of transmission, as anyone unknowingly infectious can self-isolate and reduce the risk of passing the virus to others.

“Ensuring learners of all ages can continue to study has been a priority for the Welsh Government, despite the continuing challenges we still face.

“It’s important that, in addition to accessing the testing programmes in place at our universities, students continue to act responsibly to keep themselves, and others, safe.”

Becky Ricketts, NUS Wales President, said:

“Students now have the certainty they need to plan their return to campus in the new year. The continued use of lateral-flow asymptomatic tests will help safeguard students and university staff, and give local communities confidence that the return of students will be managed safely.”

Cynllunio ar gyfer dychweliad diogel myfyrwyr i brifysgolion Cymru yn y flwyddyn newydd

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer dychweliad diogel myfyrwyr i brifysgolion Cymru ar ôl gwyliau’r Nadolig. 

Gwahoddir myfyrwyr i ddychwelyd i’r campws dros gyfnod o bedair wythnos, gan ddechrau o 11 Ionawr, gyda dychweliad graddol i addysgu wyneb yn wyneb. Bydd prifysgolion yn blaenoriaethu myfyrwyr y mae angen iddynt ddychwelyd yn gynnar, fel y rhai sy’n astudio mewn proffesiynau gofal iechyd, a’r rhai sydd ar leoliadau neu sydd angen mynediad i gyfleusterau campws.  

Cefnogir y broses ddychwelyd drwy barhau â’r cynlluniau peilot profion llif unffordd, ar gyfer myfyrwyr asymptomatig, a ddechreuodd ym mhrifysgolion Cymru ddiwedd mis Tachwedd.

Gofynnir i fyfyrwyr gymryd prawf llif unffordd pan fyddant yn dychwelyd i’w llety prifysgol, cyn gofyn iddynt osgoi cyfarfod i gymdeithasu am dri diwrnod. Bydd y myfyrwyr hynny wedyn yn cymryd ail brawf. Bydd myfyrwyr nad ydynt yn cymryd prawf yn cael eu cynghori i leihau eu cysylltiadau a pheidio cymysgu am 14 diwrnod.  

Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg

“Rwy’n gwybod y bydd myfyrwyr yn awyddus i ddychwelyd i gampws eu prifysgol ar ôl gwyliau’r Nadolig, ond byddant am wneud hynny mewn ffordd ddiogel.

“Bydd myfyrwyr hefyd eisiau dychwelyd i ddysgu wyneb yn wyneb, lle mae’n ddiogel gwneud hynny. Rydym yn rhoi’r mesurau hyn ar waith i sicrhau hyder wrth ddychwelyd i ddysgu wyneb yn wyneb ac i leihau’r risg y bydd angen i nifer fawr o fyfyrwyr hunanynysu yn ystod y tymor.

“Bydd y rhaglen profion unffordd hefyd yn allweddol er mwyn ailddechrau dysgu’n ddiogel ar y campws. Bydd dychwelyd fesul cam, mewn ffordd sy’n cael ei rheoli, yn helpu i ateb y galw fel y gall pob myfyriwr gael dau brawf. Bydd hyn yn helpu i dorri’r gadwyn drosglwyddo gan y bydd modd i unrhyw un sy’n heintus heb wybod hynny hunanynysu a lleihau’r risg o drosglwyddo’r feirws i eraill.

“Mae sicrhau bod dysgwyr o bob oed yn gallu parhau i astudio wedi bod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, er gwaethaf yr heriau parhaus sy’n ein hwynebu o hyd.

“Mae’n bwysig, yn ogystal â chael mynediad i’r rhaglenni profi sydd ar waith yn ein prifysgolion, fod myfyrwyr yn parhau i ymddwyn yn gyfrifol i ddiogelu eu hunain ac eraill.”

Dywedodd Becky Ricketts, Llywydd UCM Cymru:

“Nawr mae gan fyfyrwyr y sicrwydd sydd ei angen arnynt i gynllunio i ddychwelyd i’r campws yn y flwyddyn newydd. Bydd parhau i ddefnyddio profion llif unffordd ar gyfer unigolion asymptomatig yn helpu i ddiogelu myfyrwyr a staff prifysgolion, ac yn rhoi hyder i gymunedau lleol y bydd y broses o ddychwelyd myfyrwyr yn cael ei rheoli’n ddiogel.”


Related Articles

Responses