From education to employment

Extra £30 million for Welsh medium education

Kirsty Williams

The Welsh Government has today (11 Mar) announced an additional £30 million to develop new Welsh-medium education.

The capital investment is part of the Welsh Government’s commitment to reach 1 million Welsh speakers by 2050, by supporting all learners to become Welsh speakers by the time they leave school.  

The Welsh Government aims to increase capacity in Welsh-medium schools, support the early immersion of Welsh language skills by improving transition from childcare to primary, as well as helping learners in English-medium and bilingual schools improve their skills and confidence in Welsh.

The new curriculum for Wales will introduce a continuum of progression and expectations of Welsh Language acquisition for the first time. Bilingual schools will also teach a greater proportion of the curriculum through Welsh.

The funding is a second tranche of investment from the Welsh Medium Capital Grant, established in 2018. The Welsh Government has already provided £46 million to local authorities through the scheme, supporting 46 projects across Wales so far and creating nearly 3,000 school and childcare places.

Kirsty Williams, the Education Minister, said:

“Providing first class schools for children in Welsh-medium education is a key driver for Cymraeg 2050. Attending a Welsh-medium school ensures children become at least bilingual.  

“We also need to increase the number of learners in English-medium and bilingual schools who are learning Welsh successfully. I want to ensure more bilingual schools introduce a greater proportion of the new curriculum in Welsh, to give learners a strong linguistic foundation.

“The funding complements our fantastic 21st century Schools and Colleges programme, which has completed 170 new schools or college projects in its first phase, with 43 new projects in the pipeline.

“We are driving forward the delivery of capital projects to increase the percentage of learners in Welsh-medium education, helping achieve our long-term goal of a million Welsh-speakers by 2050.”  

£30 miliwn ychwanegol ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg

Heddiw mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £30m ychwanegol i ddatblygu addysg Gymraeg.

Mae’r buddsoddiad cyfalaf yn rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, drwy gefnogi pob dysgwr i ddod yn siaradwyr Cymraeg erbyn iddynt adael yr ysgol. 

Nod y buddsoddiad yw cynyddu capasiti mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, cefnogi trochi yn y Gymraeg yn gynnar drwy wella’r trosglwyddo o ofal plant i ysgolion cynradd, a helpu dysgwyr mewn ysgolion cyfrwng Saesneg a dwyieithog i wella eu sgiliau a’u hyder yn y Gymraeg.

Am y tro cyntaf, bydd y cwricwlwm newydd i Gymru yn cyflwyno continwwm o ddilyniant a disgwyliadau o ran caffael y Gymraeg. Bydd ysgolion dwyieithog hefyd yn addysgu cyfran fwy o’r cwricwlwm drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r cyllid yn ail ran o fuddsoddiad o’r Grant Cyfalaf Cyfrwng Cymraeg, a sefydlwyd yn 2018. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi darparu £46 miliwn i awdurdodau lleol drwy’r cynllun, gan gefnogi 46 o brosiectau ledled Cymru hyd yma a chreu bron i 3,000 o leoedd mewn ysgolion a gofal plant.

Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg:

“Mae darparu ysgolion o’r radd flaenaf i blant mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn allweddol i Brosiect 2050. Mae mynychu ysgol cyfrwng Cymraeg yn sicrhau bod plant yn dod yn ddwyieithog o leiaf. 

“Mae angen i ni hefyd gynyddu nifer y dysgwyr mewn ysgolion cyfrwng Saesneg a dwyieithog sy’n dysgu Cymraeg yn llwyddiannus. Rwyf am sicrhau bod mwy o ysgolion dwyieithog yn cyflwyno cyfran fwy o’r cwricwlwm newydd yn y Gymraeg, er mwyn rhoi sylfaen ieithyddol gref i ddysgwyr.

“Mae’r cyllid yn ategu ein rhaglen wych Ysgolion a Cholegau’r 21ain Ganrif, sydd wedi cwblhau 170 o brosiectau ysgolion neu golegau newydd yn ei cham cyntaf, gyda 43 o brosiectau newydd ar y gweill.

“Rydym yn bwrw ymlaen â chyflawni prosiectau cyfalaf i gynyddu canran y dysgwyr mewn addysg cyfrwng Cymraeg, gan helpu i gyflawni ein nod hirdymor o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.” 


Related Articles

Responses