From education to employment

Moving the Welsh Economy Forward: Better jobs, narrowing the skills divide and tackling poverty

Economy Minister, Vaughan Gething

The Welsh Government will pursue a progressive economic policy that focusses on better jobs, narrowing the skills divide and tackling poverty, Economy Minister, Vaughan Gething, will say today.

At a hybrid Economic Summit, the Minister has invited businesses, trades unions and local government leaders to discuss how Wales can create a stronger, fairer, greener economic future.

In setting out his vision to move the Welsh economy forward, the Minister will commit to extending a Team Wales model to offer ‘as much certainty as possible’ for businesses facing a volatile recovery.  

He will promise a new era of partnership to strengthen regional economic development, a delivery plan to back the everyday economy and wide ranging support for workers in a fast changing economy.

The Welsh Government will work with unions and business to develop it’s ‘something for something’ approach so that Welsh public money is wedded to action on fair work, decarbonisation and skills.

The Minister will also start a conversation about the long term demographic challenge facing the Welsh economy. The proportion of the population aged 16 to 64 years old in Wales has been decreasing year-on-year since mid-2008 – and could be just 58% of the population by 2043.

In response, Welsh Ministers’ approach will be geared towards creating an economy where more young people feel confident about planning their future in Wales thus supporting job creation and more dynamic local economies.

The Welsh Government will set out a vision of what makes Wales an attractive place to live, study, work and invest – including the quality of life in an inclusive, open and green nation.

The Welsh Government will also call on the Chancellor to demonstrate the UK Government’s ambition for Wales by honouring promises made on EU successor funds, backing major renewables such as tidal energy and investing in Welsh research and development.

Later, the Minister will visit a family-run business that’s received Welsh Government support to grow, before delivering a speech to a predominantly virtual audience of business, trades unions and local government leaders and other partners at Transport for Wales’ new HQ in Pontypridd.

Speaking ahead of the summit, Economy Minister, Vaughan Gething said:

“The Welsh Government is taking bold action to build a stronger, fairer, greener Welsh economy. It has taken a Team Wales effort to keep Wales safe and we will deliver a Team Wales Recovery, built by all of us. 

“A strong Welsh recovery will be based on the principles of fair work and sustainability as we invest in the industries and services of the future.

“As we face the headwinds of Brexit, I am determined that our credible plans will offer as much certainty as possible to help businesses plan ahead. 

“A new era of partnership for stronger regions, a young person’s guarantee, a plan to back our everyday economy and collaboration with world leading, advanced manufacturing. This is the cause for optimism for the future we are building in Wales.

“My ambition is to make Wales a place where more young people feel confident in planning their future here. You don’t have to get out to get on, make your future here in Wales.”

The Welsh Government’s approach includes:

  • Investing in our people – through the Young Person’s Guarantee and a strong employability and skills offer, including Apprenticeships;
  • Supporting those furthest away from the Labour market to find work. The upcoming Employability Strategy will highlight the support available for individuals, particularly those most impacted by the pandemic and furthest away from the labour market;
  • Accelerating the adaptation to new skills which are required for skilled, secure jobs, not least in the area of low carbon. The current recruitment challenge has also shown there is a need for some quick action on skills in certain sectors;
  • Exploring how we retain our graduates and talent in Wales by building strong linkages with universities, and between universities and businesses;
  • Support start-ups, including graduate start-ups, with possible incentives in some areas;
  • Ensure we have firms grounded in Wales who can provide future opportunities;
  • Wales can also benefit from the opportunities for far greater remote working and flexible commuting options.

Symud Economi Cymru Ymlaen: “Adferiad Tîm Cymru, a adeiladwyd gan bob un ohonom” – Gweinidog yr Economi

Bydd Llywodraeth Cymru yn dilyn polisi economaidd blaengar sy’n canolbwyntio ar well swyddi, gan leihau’r rhaniad sgiliau a mynd i’r afael â thlodi, meddai Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething heddiw.

Mewn Uwchgynhadledd Economaidd hybrid, mae’r Gweinidog wedi gwahodd busnesau, undebau llafur ac arweinwyr llywodraeth leol i drafod sut y gall Cymru greu dyfodol economaidd cryfach, tecach a gwyrddach.

Wrth nodi ei weledigaeth i symud economi Cymru yn ei blaen, bydd y Gweinidog yn ymrwymo i ymestyn model Tîm Cymru i gynnig ‘cymaint o sicrwydd â phosibl’ i fusnesau sy’n wynebu adferiad cyfnewidiol. 

Bydd yn addo cyfnod newydd o bartneriaeth i gryfhau datblygu economaidd rhanbarthol, cynllun cyflawni i gefnogi’r economi bob dydd a chefnogaeth eang i weithwyr mewn economi sy’n newid yn gyflym.

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag undebau a busnesau i ddatblygu ei dull ‘rhywbeth am rywbeth’ fel bod arian cyhoeddus Cymru ynghlwm â gweithredu ar waith teg, datgarboneiddio a sgiliau.

Bydd y Gweinidog hefyd yn dechrau sgwrs am yr her ddemograffig hirdymor sy’n wynebu economi Cymru. Mae cyfran y boblogaeth rhwng 16 a 64 oed yng Nghymru wedi bod yn gostwng o flwyddyn i flwyddyn ers canol 2008 – a gallai fod yn ddim ond 58% o’r boblogaeth erbyn 2043.

Mewn ymateb, bydd dull Gweinidogion Cymru yn anelu at greu economi lle mae mwy o bobl ifanc yn teimlo’n hyderus ynghylch cynllunio eu dyfodol yng Nghymru, gan gefnogi creu swyddi ac economïau lleol mwy deinamig.

Bydd Llywodraeth Cymru yn amlinellu gweledigaeth o’r hyn sy’n gwneud Cymru’n lle deniadol i fyw, astudio, gweithio a buddsoddi ynddo – gan gynnwys ansawdd bywyd mewn cenedl gynhwysol, agored a gwyrdd.

Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn galw ar y Canghellor i ddangos uchelgais Llywodraeth y DU i Gymru drwy anrhydeddu addewidion a wnaed ar gronfeydd olynol yr UE, cefnogi ynni adnewyddadwy mawr fel ynni’r llanw a buddsoddi mewn ymchwil a datblygu yng Nghymru.

Yn ddiweddarach, bydd y Gweinidog yn ymweld â busnes teuluol sydd wedi derbyn cymorth gan Lywodraeth Cymru i dyfu, cyn cyflwyno araith i gynulleidfa rithwir yn bennaf o fusnesau, undebau llafur ac arweinwyr llywodraeth leol a phartneriaid eraill ym mhhencadlys newydd Trafnidiaeth Cymru ym Mhontypridd.

Wrth siarad cyn yr uwchgynhadledd, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

“Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau beiddgar i adeiladu economi Gymreig gryfach, decach a gwyrddach. Mae wedi cymryd ymdrech Tîm Cymru i gadw Cymru’n ddiogel a byddwn yn cyflawni Adferiad Tîm Cymru, a adeiladwyd gan bob un ohonom. 

“Bydd adferiad Cymreig cryf yn seiliedig ar egwyddorion gwaith teg, cynaliadwyedd wrth i ni fuddsoddi yn niwydiant a gwasanaethau’r dyfodol.

“Wrth i ni wynebu rhwystrau Brexit, rwy’n benderfynol y bydd ein cynlluniau yn cynnig cymaint o sicrwydd â phosibl i helpu busnesau i gynllunio ymlaen llaw. 

“Cyfnod newydd o bartneriaeth ar gyfer rhanbarthau cryfach, Gwarant i Bobl Ifanc, cynllun i gefnogi ein heconomi bob dydd a chydweithio â gweithgynhyrchu blaengar sy’n arwain y byd. Dyma’r rheswm dros y gobaith at y dyfodol sy’n cael ei adeiladu gennym yng Nghymru.

“Fy uchelgais yw gwneud Cymru’n lle lle mae mwy o bobl ifanc yn teimlo’n hyderus wrth gynllunio eu dyfodol yma.  Does dim rhaid i chi fynd i ffwrdd i lwyddo, gwnewch eich dyfodol yma yng Nghymru.”

Mae dull Gweithredu Llywodraeth Cymru yn cynnwys:

  • Buddsoddi yn ein pobl – drwy’r Warant i Bobl Ifanc a chynnig cyflogadwyedd a sgiliau cryf, gan gynnwys Prentisiaethau;
  • Cefnogi’r rhai sydd bellaf i ffwrdd o’r farchnad Lafur i ddod o hyd i waith. Bydd y Strategaeth Cyflogadwyedd sydd ar y gweill yn tynnu sylw at y cymorth sydd ar gael i unigolion, yn enwedig y rhai y mae’r pandemig yn effeithio fwyaf arnynt a’r rhai sydd bellaf i ffwrdd o’r farchnad lafur;
  • Cyflymu’r broses o addasu i sgiliau newydd sy’n ofynnol ar gyfer swyddi medrus a diogel, yn enwedig ym maes carbon isel. Mae’r her recriwtio bresennol hefyd wedi dangos bod angen gweithredu’n gyflym ar sgiliau mewn rhai sectorau;
  • Archwilio sut rydym yn cadw ein graddedigion a’n doniau yng Nghymru drwy feithrin cysylltiadau cryf â phrifysgolion, a rhwng prifysgolion a busnesau;
  • Cefnogi busnesau newydd, gan gynnwys busnesau newydd i raddedigion, gyda chymhellion posibl mewn rhai ardaloedd;
  • Sicrhau bod gennym gwmnïau wedi’u gwreiddio yng Nghymru sy’n gallu darparu cyfleoedd yn y dyfodol;
  • Gall Cymru hefyd elwa ar y cyfleoedd ar gyfer llawer mwy o opsiynau gweithio o bell a chymudo hyblyg.

Related Articles

Responses