Sector News

Star InactiveStar InactiveStar InactiveStar InactiveStar Inactive

Mae Bagloriaeth Cymru yn gymhwyster effeithiol a gwerthfawr lle caiff ei gyflwyno'n dda, yn ôl Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad Cenedlaethol.

Gall y cymhwyster gynnig sgiliau ar gyfer dysgu a chyflogadwyedd yn y dyfodol na fyddent, fel arall, yn cael eu datblygu dan gymwysterau mwy traddodiadol, ond mae negyddoldeb yn gysylltiedig â Bagloriaeth Cymru ymhlith dysgwyr a gweithwyr addysg proffesiynol.

Canfu'r Pwyllgor nad yw rhai ysgolion yng Nghymru yn ei werthfawrogi a'u bod o'r farn ei fod yn cymryd llawer o amser. Cafodd canfyddiadau negyddol eraill a nodwyd eu priodoli i ddiffyg dealltwriaeth o ddiben a chynnwys cymhwyster Bagloriaeth Cymru. Hefyd, clywodd y Pwyllgor dystiolaeth bod anghysondeb wrth gyflwyno Bagloriaeth Cymru ar draws Cymru.

Yn y cyfamser, mae dryswch o hyd ynghylch y ffordd y mae prifysgolion ar draws y DU yn asesu/canfod Bagloriaeth Cymru fel cymhwyster, gan gynnwys a dderbynnir ei bod yn cyfateb i Safon Uwch. Hefyd, mae diffyg dealltwriaeth ymhlith cyflogwyr o ran diben y cymhwyster, er gwaethaf ffocws ar roi'r sgiliau trosglwyddadwy i bobl ifanc sydd eu hangen i'w gwneud yn barod ar gyfer y byd gwaith.

Mae'r Pwyllgor am weld datganiad cliriach gan Lywodraeth Cymru am ei gweledigaeth ar gyfer Bagloriaeth Cymru ac ar y disgwyliadau a'r adnoddau sydd eu hangen i'w chyflawni. Mae hefyd yn argymell ymgyrch eang i godi ymwybyddiaeth o fanteision y cymhwyster ymysg busnesau a sefydliadau addysg uwch.

Cynhwysodd y Pwyllgor bobl ifanc yn ei ymchwiliad, drwy gynnal arolwg a grwpiau ffocws, a chasglodd amrywiaeth eang o safbwyntiau gwahanol, rhai cadarnhaol a negyddol. Un pryder a godwyd gan bobl ifanc yw bod pwysau ymgymryd â Bagloriaeth Cymru yn ychwanegu straen ar adeg pan oeddent eisoes yn wynebu pwysau cyrsiau neu arholiadau eraill.

Roedd natur orfodol y cymhwyster yn ychwanegu at straen disgyblion – gyda llawer yn dadlau na ddylai'r cymhwyster fod yn orfodol. Canfu'r Pwyllgor fod polisi Llywodraeth Cymru ynghylch mabwysiadu'r cymhwyster yn gyffredinol yn aneglur ac y dylai gryfhau ei chanllawiau ar hyn.

Dywedodd Lynne Neagle AC, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, y canlynol:

“Roeddem am glywed yn uniongyrchol gan y rhai ar y rheng flaen – disgyblion, rhieni, athrawon, cyflogwyr a phrifysgolion – ynghylch eu profiadau o Fagloriaeth Cymru i ganfod pa mor eang oedd yr heriau a fynegwyd inni.

“Gwelsom y gellir priodoli canfyddiadau negyddol o Fagloriaeth Cymru i ddiffyg dealltwriaeth o ddiben a chynnwys y cymhwyster, a’r anghysondeb wrth ei darparu ledled Cymru.

“Serch hynny, canfuwyd hefyd fod dealltwriaeth o Fagloriaeth Cymru yn tyfu a chyda hynny, mwy o ymdeimlad o’r gwerth y gall ei hychwanegu at sgiliau a phrofiadau dysgwyr.”

Mae'r Pwyllgor yn credu bod angen i Lywodraeth Cymru ddysgu gwersi o Gymhwyster Bagloriaeth Cymru cyn i'r cwricwlwm newydd yng Nghymru gael ei gyflwyno, gan fod cyfathrebu gwael, diffyg dealltwriaeth a diffyg adnoddau i gyd wedi cyfrannu at brofiadau dysgu is-safonol i rai disgyblion.

Dywedodd Lynne Neagle AC y canlynol:

“Er gwaethaf ein hamheuon cychwynnol, dangosodd y dystiolaeth a gasglwyd gennym rinwedd amlwg o astudio Bagloriaeth Cymru, yn enwedig o ran ehangder y sgiliau a ddatblygir gan ddysgwyr ar gyfer dysgu yn y dyfodol, cyflogaeth a bywyd.

“Fodd bynnag, daethom i’r casgliad bod y ffordd y mae’r cymhwyster yn cael ei ddarparu ar hyn o bryd a’r cyhoeddusrwydd o’i amgylch yn cael effaith niweidiol ar ei werth gwirioneddol a thybiedig.

“Mae'r canolfannau dysgu yn parhau i fod yn bryderus o anghyson, ac mae dyblygu ymdrech a gofynion asesu na ellir eu rheoli yn arwain at athrawon a dysgwyr sydd wedi cael digon. Er mwyn gwireddu potensial Bagloriaeth Cymru yn llawn, mae angen mynd i’r afael â’r materion hyn fel mater o flaenoriaeth.”

Gwnaeth y Pwyllgor 10 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys:

  • Bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi datganiad cliriach am ei gweledigaeth ar gyfer Bagloriaeth Cymru, wedi'i ategu gan ganllawiau sy'n rhoi manylion am ei disgwyliadau o ran cysondeb darpariaeth y cymhwyster yng Nghymru a'r adnoddau y dylai ysgolion a cholegau eu darparu i addysgu'r cymhwyster yn effeithiol;
  • Bod Llywodraeth Cymru a Cymwysterau Cymru yn cydweithio i ddarparu ymgyrch codi ymwybyddiaeth â ffocws ar gyfer busnesau a sefydliadau addysg uwch. Dylai'r ymgyrch hon geisio cynyddu dealltwriaeth o'r sgiliau a ddatblygir o dan Fagloriaeth Cymru ac annog mwy o gydweithio gyda'r sectorau hynny wrth ddylunio a darparu, er mwyn sicrhau eu hymgysylltiad a'u cyfranogiad,
  • Bod Llywodraeth Cymru yn gwneud gwaith i ddarparu rhestr gynhwysfawr o'r prifysgolion hynny sy'n derbyn Bagloriaeth Cymru yn eu cynigion. Dylai'r rhestr hon gynnwys manylion am sut yn union y mae pob prifysgol yn trin Bagloriaeth Cymru.

Bellach, bydd yr adroddiad yn cael ei drafod gan Lywodraeth Cymru.

Fel rhan o'n harolwg ar Fagloriaeth Cymru gofynnwyd i ddysgwyr a rhieni…

…..pa mor ddefnyddiol yw Bagloriaeth Cymru wrth baratoi ar gyfer gwaith a bywyd

Teimlai dros 50 y cant o'r ymatebwyr fod Bagloriaeth Cymru yn llai defnyddiol na chymwysterau eraill wrth baratoi ar gyfer gwaith a bywyd.

Nid oedd 66 y cant o'r ymatebwyr yn teimlo y byddai Bagloriaeth Cymru yn werthfawr i yrfaoedd yn y dyfodol

…. faint o amser mae'n ei gymryd i astudio Bagloriaeth Cymru

Teimlai bron i 70 y cant o'r ymatebwyr fod Bagloriaeth Cymru yn cymryd mwy o amser na chymwysterau 'cyfwerth' eraill.

… yr effaith a gafodd astudio Bagloriaeth Cymru ar astudio cymwysterau eraill

Teimlai hanner yr ymatebwyr ei fod wedi cael effaith negyddol, gyda 57 y cant yn dweud ei fod yn cymryd gormod o amser

Roedd rhai ohonynt o'r farn bod Bagloriaeth Cymru yn gymhwyster da ond roeddent eisiau dewis ynghylch a ddylid ei astudio ai peidio

“NI ddylai Cymhwyster Bagloriaeth Cymru, yn enwedig ar Safon Uwch, fod yn orfodol. Dylid caniatáu i ddysgwyr ei astudio os ydynt yn dewis gwneud, ond ni ddylid gorfodi'r rhai nad ydynt am ei astudio/nad oes angen iddynt ei astudio i wneud hynny.”

Hyrwyddo a dadansoddi'r arolwg

Hysbysebwyd yr arolwg drwy rwydweithiau pwyllgorau, Twitter, ymweliadau ag ysgolion gan dîm Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc y Cynulliad a gweithdai Allgymorth. Casglwyd 1,203 o ymatebion, lle'r oedd 777 ohonynt gan bobl ifanc a 426 gan rieni/gwarcheidwaid. Nid yw'n darparu sampl gynrychioliadol o'r boblogaeth.

Advertisers

Newsroom Activity

Matthew Foster has published a new article: Working from home is impacting our mental health less than a minute ago
Stefan Drew had a status update on Twitter 22 minutes ago

@ipryce I’ve not known them for 30 years .... but I now a lot more about classical music and most of those composers are dead!
View Original Tweet

EKC Group has published a new article: EKC Group Scoops Prestigious National Beacon Award 2 hours 26 minutes ago

The FE News Channel gives you the latest breaking news and updates on emerging education strategies and the #FutureofEducation.

Providing trustworthy and positive news and views since 2003, we publish exclusive peer to peer articles from our feature writers, as well as user content across our network of over 3000 Newsrooms, offering multiple sources of news across the Education and Employability sectors.

FE News also broadcast live events, webinars, video interviews and news bulletins so you receive the latest developments in Skills News and across the Apprenticeship, Further Education and Employability sectors.

 RSS IconRSS Feed Selection Page