From education to employment

Myfyriwr Safon Uwch yn mynd i Brifysgol yn America

Ymhlith y 1000+ o fyfyrwyr sydd ar fin symud ymlaen i addysg uwch o Goleg Gŵyr Abertawe mae Elli Rees, sydd wedi cael lle mewn prifysgol nodedig yn America.

Aeth Elli i Ysgol Gyfun y Strade cyn astudio cyrsiau Safon Uwch mewn Mathemateg, Saesneg Llenyddiaeth, Llywodraeth a Gwleidyddiaeth ar Gampws Gorseinon, a bydd hi nawr yn astudio ar gyfer gradd y Celfyddydau Breiniol yn St John’s College yn Annapolis, Maryland.

“Rydyn ni’n falch bod holl waith caled Elli wedi talu ar ei ganfed” dywedodd Tiwtor Arweiniol Rhydgrawnt/HE+ y Coleg Felicity Padley. “Roedd Elli yn ddigon ffodus i gael cynigion gan St John’s College a Clare College, Caergrawnt, lle byddai hi wedi astudio Eingl-Sacsoneg, Norseg a Chelteg. Mae hi’n fodel rôl i unrhyw fyfyrwyr eraill sy’n ystyried mynd i brifysgol yn America wrth wneud cais am gyrsiau addysg uwch.”

Yn ystod ei chyfnod yng Ngholeg Gŵyr Abertawe cafodd Elli gymorth mawr gan Ymddiriedolaeth Sutton, sefydliad sy’n hyrwyddo symudedd cymdeithasol i bobl ifanc. Enillodd ysgoloriaeth i fynychu un o’u Hysgolion Haf yr UDA a chafodd gymorth i wneud ei chais coleg. Roedd hi hefyd wedi mynychu Ysgol Haf yr UDA Rhwydwaith Seren ym Mhrifysgol Iâl.

Roedd myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe wedi dathlu cyfradd pasio Safon Uwch gyffredinol o 99% eleni. Roedd 35% yn raddau A*-A, 61% yn A*-B ac 82% yn A*-C.

“Roedden ni wrth ein bodd gyda’r canlyniadau Safon Uwch a galwedigaethol eto eleni,” ychwanegodd y Pennaeth Mark Jones. “Ar Safon Uwch, roedden ni’n hynod falch o weld y graddau uwch A*- A yn cynyddu ar y blynyddoedd blaenorol. Er enghraifft, roedd 27 o fyfyrwyr wedi cael graddau A* ac roedd 121 wedi cael graddau A* ac A – mae hyn yn gyflawniad gwych.”


Related Articles

Responses