From education to employment

Negeseuon wedi’u diweddaru i’n myfyrwyr a rhieni/gwarcheidwaid

Neges i fyfyrwyr gan y Pennaeth, Mark Jones

Mae’n bythefnos ers i mi ysgrifennu atoch chi ddiwethaf ac roeddwn i’n meddwl y byddai’n ddefnyddiol rhoi’r diweddaraf i chi nid yn unig ar sut mae’r Coleg yn parhau i weithredu, ond hefyd i roi fy nghyngor gorau i chi yn ystod y cyfnod heriol hwn. Ond cyn i mi wneud hynny, hoffwn ddechrau trwy ddiolch i chi.

Bythefnos yn ôl fe wnaethon ni symud i ddull cyfunol o addysgu a dysgu gan ddefnyddio cyfuniad o sesiynau tiwtorial digidol gydag amrywiaeth o asesiadau, ynghyd â darparu cymorth bugeiliol ychwanegol. Ers hynny, mae’r nifer sydd wedi manteisio ar hyn wedi bod yn rhagorol.

Ar hyn o bryd gallwn weld bod 70% o gymuned gyfan ein Coleg yn defnyddio ein systemau digidol am o leiaf chwe awr yr wythnos. Pan ychwanegir hyn at yr amser a gymerir ar gyfer asesiadau ac adolygu, mae’n amlwg bod llawer ohonoch yn parhau i fynd i’r afael â’ch astudiaethau a gall hyn fod yn dda i chi yn y tymor hir.

Efallai eich bod wedi clywed bod Cymwysterau Cymru wedi gwneud rhai cyhoeddiadau yn ystod yr wythnos diwethaf o ran sut y maent yn bwriadu asesu a graddio TGAU, Safon Uwch a’r Dystysgrif Her Sgiliau. Bydd hyn nawr yn seiliedig ar waith a gwblhawyd hyd yma a bydd eich darlithwyr yn ymgymryd â’r gwaith hwn. Fodd bynnag, yn anffodus nid ydym yn gwybod ar hyn o bryd sut y dylid cyflawni hyn ac mae trafodaethau â Chymwysterau Cymru yn parhau. Byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi wrth gwrs.

Yn achos cyrsiau galwedigaethol mae’r darlun hyd yn oed yn llai eglur, ac rydym mewn trafodaethau rheolaidd â’r holl gyrff dyfarnu (Agored, City & Guilds, VTCT, OCT, Cache, EAL ac eraill) i gael yr eglurder hwnnw yn enwedig o ran asesiadau sy’n rhan hanfodol o’ch cwrs. Unwaith eto, pan fydd y manylion hyn gennym, byddwn yn eu rhoi i chi.

Yn olaf, ar ran y Coleg rydym wir yn deall eich rhwystredigaeth a’ch siom gyda’r effaith y mae’r heriau cyfredol o bosibl yn ei chael ar eich addysg. Ond peidiwch ag ystyried hyn fel cam yn ôl, ond yn lle hynny dylech ei ystyried yn gyfle. Cyfle i ehangu’ch gwybodaeth, i ddatblygu’ch sgiliau ymhellach ac i baratoi ar gyfer cam nesaf eich gyrfa neu’ch taith addysgol.

I ba le bynnag y bydd eich cam nesaf yn mynd â chi – prifysgol, swydd, cwrs Coleg arall, mae’n bwysig eich bod wedi defnyddio’r cyfnod hwn i ddysgu rhywbeth newydd neu i wneud rhywfaint o ymchwil sy’n eich gosod ar wahân i ymgeiswyr eraill.

O safbwynt y Coleg byddem yn sicr am ofyn i’n darpar fyfyrwyr sut rydych chi wedi treulio’r amser i ffwrdd o’r ysgol neu’r Coleg – ac os mai’r ateb yw dim byd a dweud y gwir – wel nid yw hwnnw’n ateb gwych ydy e?

Felly mae fy nghyngor heb newid. Parhewch i ymgysylltu â’ch tiwtoriaid, fel rydym yn gwybod bod llawer ohonoch yn ei wneud, ond ar yr un pryd, gwnewch ychydig o ymchwil anffurfiol neu ymchwilio i feysydd eraill sydd o ddiddordeb i chi.

Bydd neilltuo nifer benodol o oriau’r diwrnod neu, o leiaf, bob cwpl o ddiwrnodau i ganolbwyntio ar eich addysg a’ch dyfodol yn sicr o ddod â manteision pan fydd pethau’n dychwelyd i normal. Bydd y dull hwn yn rhoi modd i chi agor y drysau hynny fel y gallwch gyflawni popeth rydych am ei gyflawni.

Cadwch yn ddiogel

Mark Jones
Pennaeth

***

Neges wedi’i diweddaru i rieni/warcheidwaid gan y Pennaeth, Mark Jones

Yn y rhan gyntaf rwy’n estyn fy niolch diffuant i’n holl fyfyrwyr am eu hymgysylltiad parhaus â’u hastudiaethau sydd, yn seiliedig ar yr ystadegau digidol cyfredol, yn drawiadol iawn yn wir. Mae’n dangos bod y rhan fwyaf o’r myfyrwyr yn mewngofnodi i systemau’r Coleg i ryngweithio â’u tiwtoriaid, eu ffrindiau a’u cydweithwyr yn rheolaidd.

Mae’r ail ran yn rhoi’r diweddaraf am y cynnydd truenus o gyfyngedig sy’n cael ei wneud ar draws yr ystod eang o gyrff dyfarnu y mae’r Coleg yn gweithio gyda nhw i ddeall yn union sut y bydd gwaith eleni yn cael ei asesu a’i raddio.

Er enghraifft, er bod Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi’n ddiweddar y bydd canlyniadau a graddau (ar gyfer TGAU, Safon Uwch a’r Dystysgrif Her Sgiliau) yn seiliedig ar waith a gwblhawyd hyd yma ac a wnaed gan ddarlithwyr Coleg, rydym yn dal i aros am eglurder ar sut y bydd hyn yn cael ei gyflawni.

Ar hyn o bryd mae gennym hyd yn oed lai o eglurder ynghylch sut y bydd asesiadau ymarferol seiliedig ar waith yn cael eu cynnal ar gyfer ein myfyrwyr galwedigaethol oherwydd nid ydym yn gallu cyrchu cyfleusterau, offer ac adnoddau’r Coleg. Fodd bynnag, rwy’n siŵr y bydd hyn yn dod yn llawer cliriach yn fuan, a byddwn wrth gwrs yn rhoi’r diweddaraf i chi pan fydd gennym wybodaeth bellach.

Trydedd ran a rhan olaf y neges – a byddem yn gwerthfawrogi’ch cymorth parhaus yn hyn o beth – yw fy nghyngor i’n holl fyfyrwyr nid yn unig i barhau i ymgysylltu â’u hastudiaethau, ond i ddefnyddio’r amser a’r cyfle hwn yn gall. Fel y dywedais o’r blaen, mae addysg ein myfyrwyr yn hynod bwysig i ni yn ogystal â’u hiechyd, eu diogelwch a’u lles.

Mae’r cyfnod hwn i ffwrdd o’r Coleg yn gyfle iddynt ddysgu pethau newydd, neu wneud rhywfaint o ymchwil i faes diddordeb, neu ddechrau mapio gyrfa bosibl y mae ganddynt ddiddordeb ynddi.

Felly, rwyf wedi awgrymu i’n holl fyfyrwyr eu bod yn neilltuo nifer o oriau bob dydd neu, o leiaf, bob cwpl o ddiwrnodau i ganolbwyntio ar eu haddysg a’u dyfodol. Ac, wrth wneud hynny, sicrhau bod unrhyw geisiadau a wnânt yn y dyfodol (i brifysgolion, colegau neu gyflogwyr) yn eu gosod ar wahân i eraill nad ydynt efallai wedi defnyddio’r cyfnod hwn mor effeithiol.

Mae’n gyfle gwych iddynt sefyll allan o’r dorf. Byddem yn gwerthfawrogi’n fawr unrhyw gymorth neu gefnogaeth y gallwch ei roi.

Yn olaf, gobeithio y byddwch chi a’ch teuluoedd yn aros yn ddiogel yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Mark Jones
Pennaeth


Related Articles

Responses