Saadia yn cyrraedd y rhestr fer chwaraeon
Mae un o fyfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe Saadia Abubaker wedi cyrraedd y rhestr fer yng Ngwobrau Chwaraeon AoC 2019.
Nid yn unig mae Saadia yn astudio pedair Safon Uwch ar Gampws Gorseinon, mae hi hefyd – ar ei liwt ei hun – yn gweithio’n ddygn i gael gwared ar rwystrau diwylliannol mewn chwaraeon ac i annog mwy o bobl o leiafrifoedd ethnig i gymryd rhan.
“Sylwodd Saadia mai ychydig iawn o’i chyd-gystadleuwyr sy’n dod o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig ac felly aeth ati i annog a chymell y bobl ifanc hyn i ddechrau cymryd rhan mewn chwaraeon,” dywedodd y darlithydd Marc O’Kelly. “Llwyddodd hi i wneud hyn trwy greu a phostio fideos o’i hun yn hyfforddi ac yn cystadlu ar y cyfryngau cymdeithasol, fel bod pobl eraill yn gallu eu gweld nhw a’u rhannu nhw, ac felly’n sicrhau bod ganddi bresenoldeb calonogol ac ysbrydoledig ar y llwyfan chwaraeon lleol.”
A hithau’n llysgennad Aur dros fenter Datblygu Chwaraeon Dinas a Sir Abertawe, mae Saadia yn treulio ei hamser yn gwirfoddoli a chefnogi gweithgareddau chwaraeon amrywiol yn y ddinas. Mae hi hefyd yn cystadlu mewn digwyddiadau nofio megis Pencampwriaethau Agored Nofio Cymru ac athletau, ac mae’n aelod o Harriers Abertawe).
Pan ymunodd â Choleg Gŵyr Abertawe, roedd Saadia wedi gwirfoddoli i ymuno â Chyngor y Myfyrwyr oherwydd roedd hi am gefnogi chwaraeon y coleg. O dan ei menter ei hun ac wedi’i chefnogi gan yr adran Chwaraeon, mae Saadia wedi trefnu clwb chwaraeon anghystadleuol yn annibynnol gyda’r nod o annog merched o leiafrifoedd ethnig a chefndiroedd eraill a allai fod â diddordeb mewn chwaraeon ond sydd â diffyg hyder.
“Mae Saadia wedi recriwtio, arwain a chyfathrebu’n wirioneddol bositif gyda’r cyfranogwyr,” ychwanegodd Marc. “Mae’n ardderchog gweld myfyriwr mor frwdfrydig yn cymryd rhan ac â diddordeb angerddol mewn cynyddu gweithgareddau yn y Coleg a’r gymuned leol. Rydyn ni wrth ein bodd i fod yr unig goleg yng Nghymru i gyrraedd y rhestr fer o enillwyr a goreuon y gweddill ac mae’r gydnabyddiaeth hon i Saadia yn haeddiannol iawn.”
Responses