Coleg yn gwella ffocws datblygu cyflogwyr trwy benodi cyn Brif Swyddog Gweithredol Rygbi’r Dreigiau, Stuart Davies
Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi penodi Stuart Davies fel ei Ymgynghorydd Datblygu Busnes newydd.
Cafodd Stuart ei fagu o fewn tafliad carreg i ystad Hill House y Coleg yn Nhycoch a threuliodd 14 o flynyddoedd yn chwarae rygbi ar y safon uchaf, gan gynrychioli Abertawe a Chymru yn rheolaidd. Ar ôl ei ddyddiau’n chwarae rygbi, casglodd Stuart ddyfnder helaeth o wybodaeth ar draws ystod eang o sectorau ac arbenigeddau busnes.
Mae Stuart wedi bod yn gyfrifol yn y gorffennol am gyllidebau gwerth miliynau o bunnoedd, prosesau tendro sylweddol yn ogystal ag arbenigo mewn cynllunio strategol/busnes a rheoli risg.
Daw Stuart â chyfoeth o brofiad gydag ef i Goleg Gŵyr Abertawe, wrth iddo weithio’n flaenorol fel Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu a Gwasanaethau Eiddo Gwalia, Prif Weithredwr tîm rygbi’r Dreigiau a Chyfarwyddwr Datblygu Busnes Morganstone.
Mae ganddo rwydweithiau eithriadol o dda ledled Cymru, ac fe’i hadnabyddir hefyd am ei waith fel pyndit, sylwebydd a gohebydd rygbi i ddarlledwyr teledu a radio cenedlaethol.
Mae’r Coleg wedi penodi Stuart er mwyn cryfhau ei berthnasau presennol â cheleintiaid ac er mwyn creu partneriaethau arfaethedig gyda sefydliadau blaengar eraill.
“Rwyf wrth fy modd o fod yn gweithio gyda Choleg Gŵyr Abertawe,” meddai Stuart.
“Fel unigolyn a gafodd ei fagu yn Abertawe, rwyf yn ymwybodol iawn o enw da’r Coleg a’r rôl y mae’n ei chwarae o ran cefnogi cymaint o unigolion a chwmnïau gyda’u hanghenion hyfforddi a datblygu.
“Yn wir, rwyf wedi profi hyn drosof fy hun a gobeithiaf y bydd fy nghefndir proffesiynol a phersonol yn helpu’r Coleg i gyflawni ymhellach ei amcanion busnes.”
“Mae’n bleser croesawi Stuart i Goleg Gŵyr Abertawe” meddai Paul Kift, Cyfarwyddwr Sgiliau a Datblygu Busnes.
“Mae gan Stuart broffil ardderchog a haeddiannol o ganlyniad i’w gyflawniadau gwych ar y cae rygbi. Mae ganddo hefyd enw da ymhlith cymuned fusnes Cymru oherwydd yr arbenigedd y mae ef wedi’i greu o fewn y diwydiant. Rydym yn iawn o allu sicrhau ei wasanaethau – mi fydd ein cleientiaid a’n partneriaid yn sicr o elwa ar ôl iddo ddechrau gweithio i’r Coleg.”
Responses