From education to employment

Myfyrwyr Llwyn y Bryn yn mynd i’r colegau celf/dylunio gorau

Mae pedwar myfyriwr o Lwyn y Bryn wedi cael eu derbyn i astudio yn UAL (Prifysgol y Celfyddydau Llundain), y sefydliad ail orau yn y byd ar gyfer celf a dylunio. Y myfyrwyr yw:

  • James Makin – sy’n mynd i Central Saint Martins i ymuno â’r cwrs Ffasiwn Dillad Merched (Rhif 1 yn y byd, lle roedd pobl fel Stella McCartney ac Alexander McQueen wedi hyfforddi)
  • Lucy De La Haye  – sydd hefyd yn mynd i Central Saint Martins i astudio Dylunio Graffig
  • Chloe Hill – sydd wedi cael ei derbyn i astudio BA (Anrh) Effeithiau 3D ar gyfer Perfformio a Ffasiwn yng Ngholeg Ffasiwn Llundain
  • James Thompson – sy’n mynd i Goleg Cyfathrebu Llundain i astudio Darlunio

“Mae UAL yn sefydliad y celfyddydau o safon Rhydychen ac felly rydyn ni wrth ein bodd bod pedwar o’n dysgwyr wedi cael eu derbyn eleni gan fod cystadleuaeth am y lleoedd hyn yn hynod ffyrnig,” dywedodd yr Arweinydd Cwricwlwm Elinor Franklin.

“Mae gyda ni 32 o ddysgwyr yn dilyn y cwrs Sylfaen Celf a Dylunio ac o’r holl bobl a wnaeth gais i fynd i’r brifysgol, roedd pawb wedi cael eu sefydliad dewis cyntaf gan gynnwys UAL, Prifysgol Falmouth, Sba Caerfaddon, Prifysgol Gorllewin Lloegr Bryste a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae hyn yn gyflawniad gwych ac rydyn ni’n wirioneddol falch ohonyn nhw i gyd.”


Related Articles

Responses