From education to employment

Myfyrwyr yn annog pobl i ailystyried ‘ffasiwn cyflym’

Mae myfyrwyr o Gampws Llwyn y Bryn Coleg Gŵyr Abertawe wedi cymryd ffenestr siop elusen leol drosodd i helpu i godi ymwybyddiaeth o ffasiwn moesegol.

Mae’r myfyrwyr Gradd Sylfaen Ffasiwn a Thecstilau, ochr yn ochr â’u darlithydd Elinor Franklin, yn gweithio mewn partneriaeth â siop y Samariaid yn Uplands i steilio ac addasu detholiad o ddillad ail-law.

“Roedd arddangosfa’r ffenestr yn edrych yn wych – roedd y myfyrwyr wedi mwynhau’r profiad o fod allan yn y gymuned leol ac mae’r Samariaid yn elusen mor arbennig i’w chefnogi,” dywedodd Arweinydd y Rhaglen FdA Susanne David. “Roedd arddangosfa’r ffenestr wedi denu llawer o sylw gan siopwyr ac mae hyn yn dangos bod ffasiwn elusen yn ddewis cynaliadwy gwych yn lle prynu dillad newydd. Mae’n rhywbeth dwi wedi ceisio ei hyrwyddo ymhlith ein dysgwyr ers peth amser oherwydd dwi’n teimlo, fel addysgwr, bod gyda ni gyfrifoldeb i ystyried yr effaith mae ffasiwn yn ei chael.

“Mae’r myfyrwyr wir yn llawn brwdfrydedd nawr ac maen nhw hyd yn oed wedi trafod sefydlu eu label ffasiwn adferedig yn y dyfodol, a byddai hyn yn ymarfer bendigedig mewn entrepreneuriaeth iddyn nhw.”

Ym mis Mai, bydd y myfyrwyr yn mynd â’u doniau artistig i Gaerdydd, gydag arddangosfa ffenestr debyg yn Siop Oxfam, Heol y Santes Fair – gan gyflwyno eu sgiliau creadigol i gynulleidfa hollol newydd. Ar gyfer y prosiect hwn, mae’r myfyrwyr wedi casglu dillad a’u huwchgylchu, gan eu newid nhw i eitemau unigryw yn barod i gael eu prynu gan ffasiwnistas lleol.

“Mae modiwl ar ffasiwn cynaliadwy yn rhan o’r FdA ac mae’r prosiectau yn Abertawe a Chaerdydd yn ymateb ymarferol i’r modiwl hwn, gyda’r bwriad o annog newid mewn agweddau prynwyr at ‘ffasiwn cyflym’ sydd efallai yn ymddangos yn rhad ond mae ar gael ar gost amgylcheddol sylweddol,” ychwanegodd Susanne.

Os oes gennych ddiddordeb yn y pwnc hwn, mae Coleg Gŵr Abertawe yn cynnig Gweithdy Ffasiwn Cynaliadwy – Uwchgylchu Ffasiwn a Thecstilau am ddim ar 15 Ebrill.


Related Articles

Responses