Neges wedi’i ddiweddaru gan y Pennaeth, Mark Jones: Gorffennaf
Mae’n dair wythnos bellach ers i mi ddiweddaru myfyrwyr, rhieni a gwarcheidwaid ynglŷn â sut y mae’r Coleg yn paratoi – ar gyfer dychwelyd ar ôl cyfyngiadau’r coronafeirws ac ar gyfer mis Medi – ac mae llawer wedi digwydd yn y cyfamser.
Yn gyntaf, mae’n braf gen i ddweud bod y Coleg bellach wedi ailagor i ryw 300 o fyfyrwyr galwedigaethol. Mae hyn er mwyn caniatáu iddynt gwblhau unrhyw asesiadau galwedigaethol sydd ganddynt yn weddill, fel y gallant gwblhau eu cwrs a chefnogi eu dilyniant.
Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn ailagor ein canolfan yn Ffordd y Brenin sy’n cynnig cymorth cyflogadwyedd, sy’n faes blaenoriaeth i’r Coleg. Mae’r tîm cyflogadwyedd yn gweithio gyda chyflogwyr a phartneriaid allweddol eraill a byddant yn parhau i fynd i’r afael â’r cynnydd a ragwelir ar gyfer y niferoedd diweithdra.
Trwy gydol mis Awst, byddwn yn parhau i gefnogi mwy o’n myfyrwyr sy’n agored i niwed trwy eu gwahodd i’r Coleg er mwyn cael sgwrs gyda nhw ac i gefnogi eu dilyniant. Byddwn hefyd yn gwahodd yr holl staff i mewn i’r Coleg, gan gydymffurfio â’r mesurau cadw pellter cymdeithasol, ac yn eu cyflwyno i’r cynlluniau a’r arwyddion newydd, gan roi cyfle iddynt i baratoi’n llawn ar gyfer derbyn myfyrwyr ym mis Medi.
Diolch i’r partneriaethau cryf rydym wedi’u datblygu dros y blynyddoedd diwethaf, mae gennym gefnogaeth lawn ein hundebau llafur cydnabyddedig, sy’n golygu ni fydd y coleg yn wynebu’r un heriau y mae rhannau eraill o’r sector addysg eraill yn eu profi.
I mi, dyma pam mae gan astudio yng Ngholeg Gŵyr Abertawe nifer o fanteision go iawn. Yn gyntaf, mae eisoes gennym fodel ar waith ar gyfer mis Medi sy’n seiliedig ar gyfuniad o sesiynau ymarferol, sesiynau a addysgir, cymorth bugeiliol a chymorth pellach. Bydd rhywfaint o’r sesiynau’n cael eu cynnal ar y campws, gyda rhai yn cael eu darparu ar-lein, a bydd y cyfan yn glynu at ganllawiau diweddaraf y llywodraeth.
Dros y misoedd diwethaf, ac yn wahanol i nifer o’n hysgolion bartneriaid, rydym wedi gallu rhoi’r model newydd hwn ar waith – gan ddysgu ac addasu er mwyn paratoi ar gyfer Medi. Mae myfyrwyr a rhieni yn hoff iawn o’r dull sydd ar waith, ac maent wedi gwneud sylwadau cadarnhaol iawn yn ei gylch, sydd, wrth gwrs wedi ein helpu i wneud gwelliannau pellach.
Am gyfnod o bythefnos dros yr Haf, bydd staff addysgu a staff cymorth yn gorfod ymgymryd â rhaglen hyfforddiant dysgu a chymorth digidol. Golyga hyn y byddant yn barod i ddechrau ar eu gwaith ym Medi. Mi fydd hyn hefyd yn ategu’r buddsoddiad cyfalaf o £1m y byddwn yn gwneud unwaith eto’r haf hwn.
Hefyd, oherwydd y partneriaethau gwych sydd wedi bodoli erioed rhwng yr holl golegau addysg bellach, byddwn hefyd yn gallu gwneud defnydd o adnoddau ar-lein gwych, ac, mewn rhai achosion, addysgu – a ddarperir gan bartneriaid yng Nghymru a Lloegr, er mwyn sicrhau bod gan ein myfyrwyr fynediad at addysgu a chymorth o’r radd flaenaf.
Efallai nad ydym yn gweithredu fel yr oeddem cyn y cyfyngiadau, ond mewn llawer o ffyrdd mae’r heriau cyfredol hyn rydym yn eu hwynebu wedi ein cyflwyno digonedd o gyfleoedd newydd.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu ym mis Medi.
Mark Jones
Pennaeth
Responses