Coleg yn dathlu’r Gwobrau Prentisiaeth cyntaf
Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cynnal ei seremoni wobrwyo gyntaf erioed ar gyfer prentisiaid a chyflogwyr.
Roedd y digwyddiad arbennig, a gyflwynwyd gan Ross Harries o Scrum V Live BBC Wales, wedi cael ei gynnal i anrhydeddu ymrwymiad ac ymroddiad rhagorol y prentisiaid a’r cyflogwyr partner ‘gorau oll’.
“Dyw gwneud prentisiaeth ddim yn ddewis hawdd – mae’n gyflawniad i fod yn hynod falch ohono,” dywedodd Cyfarwyddwr Sgiliau a Datblygu Busnes y Coleg, Paul Kift. “Mae prentisiaid yn cael eu cyflogi, yn amser llawn yn aml, ac ar yr un pryd maen nhw’n cwblhau eu hyfforddiant a’u hasesiadau yn erbyn rhaglen wedi’i hachredu’n genedlaethol i ateb anghenion cyflogwyr. Mae eu prentisiaethau’n gallu para rhwng un a phedair blynedd ac yn aml yn ystod y cyfnod hwn bydd rhaid iddyn nhw jyglo gwaith, hyfforddiant, astudio a bywyd cartref er mwyn datblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth. Roedden ni’n teimlo ei bod hi’n bwysig iawn i ni gydnabod y lefel hon o ymrwymiad.”
Ymhlith enillwyr y gwobrau roedd dysgwyr sydd wedi cwblhau prentisiaethau mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau o Lefel 2 i Lefel 4/5, sy’n gyfwerth â dwy flynedd gyntaf cwrs gradd. Mae llawer wedi goresgyn rhwystrau sylweddol i lwyddo, datblygu eu gyrfaoedd a gwneud cyfraniad sylweddol i’w cyflogwr a’r gymuned ehangach.
Wrth gwrs, heb gyflogwyr, ni fyddai unrhyw brentisiaid! Ac felly, rhoddwyd tair gwobr arbennig i sefydliadau lleol i gydnabod y cymorth ardderchog a ddarparant ac ar gyfer y buddsoddiad a wnânt o ran datblygu sgiliau a doniau newydd a chyfredol.
Cafodd Clare Borthwick ei henwi yn Diwtor/Aseswr Prentisiaeth y Flwyddyn. Mae Clare, sy’n gweithio yn yr adran Drydanol, yn enwog ar draws y Coleg am ei hymroddiad a’i manylder cywrain. Mae ansawdd y cymorth mae’n ei roi i’w phrentisiaid yn enghreifftiol ac mae cyfraddau llwyddiant ei phrentisiaid yn gyson uwch na’r meincnodau cenedlaethol, flwyddyn ar ôl blwyddyn.
“Rydyn ni’n hynod falch o hanes dysgu seiliedig ar waith yng Ngholeg Gŵyr Abertawe dros y blynyddoedd diwethaf,” ychwanegodd y Pennaeth, Mark Jones. “Yn ôl yn 2015, rwy’n credu ei bod hi’n ddeg dweud mai un o’n meysydd llai oedd e, gyda thua 300 o brentisiaid bob blwyddyn. Yna yn 2016, cafodd darpariaeth a staff dysgu seiliedig ar waith Cyngor Abertawe eu trosglwyddo i’r Coleg a, thrwy rannu arferion gorau, mae’r ddarpariaeth wedi datblygu a thyfu ac felly rydyn ni nawr yn gweithio gyda 2,500 o brentisiaid bob blwyddyn. Mae’r prentisiaid hyn yn gweithio gyda chyflogwyr nid yn unig yn Abertawe ac ardal De-orllewin Cymru, ond hefyd ledled Cymru ac yn Lloegr. Gan fod y ddarpariaeth wedi tyfu, mae ein perthnasau gyda chyflogwyr wedi cryfhau ac mae ein cyfraddau cwblhau wedi cynyddu sy’n golygu eu bod nhw bellach ymhlith y goreuon yn y wlad.”
Dyma restr gyflawn o’r enillwyr ar y noson:
- Arweinyddiaeth a Rheolaeth – Elizabeth Jarvis
- Canolfan Gyswllt – Donna Griffiths
- Cerbydau Modur – Callum Hawkins
- Cyfrifeg – Andrea Dobson
- Diogelwch – Jonathan Voyzey
- Electroneg – James Williams
- Gofal Cymdeithasol – Sue Mahoney
- Gofal Plant – Ingrid Parker
- Gosod Brics – Aaron Redden
- Gwasanaeth Cwsmeriaid – Lyndon Davies
- Gweinyddu Busnes – Debbie Whyte
- Gwell Swyddi, Gwell Dyfodoles – Amy Honey
- Gwybodaeth, Cyngor a Chyfarwyddyd – Iestyn Thomas
- Iechyd Clinigol – Carl Dunning
- Labordy a Gwyddoniaeth – Bradley Godwin
- Peirianneg – Jacob Williams
- Plymwaith – Mariusz Gawarecki
- Prentis Trydanol – Matt Price
- Rheoli Cyfleusterau – Kataya Miura
- Tai – Connor Clarke
- Technegau Gwella Busnes – Ria Rees
- TG – Cameron Lewis
- Trin Gwallt – Lucy Britton
- Tiwtor/Aseswr Prentisiaeth – Clare Borthwick
- Cyflogwr Prentis (0-49 o weithwyr) – Avia Speed Shop
- Cyflogwr Prentis (50-249 o weithwyr) – Golfa Aberpergwm
- Cyflogwr Prentis (250+ o weithwyr) – Cyngor Abertawe
- Prentis Sylfaen y Flwyddyn – Debbie Whyte
- Prentis y Flwyddyn – Luke Evans
- Uwch Brentis y Flwyddyn – Donna Wright
- Gwobr Cyflawniad Ysbrydoledig – Sally Hughes
Yn hwyrach y mis hwn, bydd y Coleg yn dysgu a yw wedi ennill Gwobr Prentisiaeth AAC nodedig lle mae’n cystadlu mewn dau gategori – Darparwr Prentisiaeth Iechyd a Gwyddoniaeth y Flwyddyn a Chyfraniad Rhagorol i Ddatblygiad Prentisiaethau (ar gyfer Arweinydd Cwricwlwm Peirianneg Electronig Steve Williams).
DIWEDD
Diolch yn fawr i’r adrannau canlynol sydd wedi helpu i wneud y digwyddiad yn llwyddiant mawr:
- Ein myfyrwyr Lletygarwch ac Arlwyo, dan arweiniad Nicola Rees, am y bwffe a’r lluniaeth bendigedig
- Band Jazz Campws Gorseinon, dan arweiniad Simon Prothero, am ddarparu’r adloniant adeg cyrraedd
- Ein myfyrwyr Lefel 3 Cynhyrchu yn y Theatr a Digwyddiadau Byw, dan arweiniad Adrian Hocking, am eu gwaith penigamp ar y set, y goleuo a’r sain.
Responses