From education to employment

Coleg yn lansio Academi Addysgu

Ydych chi erioed wedi meddwl sut brofiad fyddai bod yn rhan o dîm arobryn, yn dysgu mewn Coleg addysg bellach sy’n flaenllaw yn y sector?

Coleg lle mae canlyniadau Safon Uwch yn perfformio’n sylweddol well na chyfartaledd cenedlaethol Cymru gan 8% yn y graddau uchaf, lle mae myfyrwyr galwedigaethol yn cynrychioli Cymru mewn cystadlaethau sgiliau ar draws y byd, a lle mae’r staff addysgu eu hunain wedi ennill medalau o fri?

Os felly, gallai 2020 fod yn gyfle i chi ddarganfod hyn!

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn lansio Academi Addysgu bwrpasol newydd sbon yn y Flwyddyn Newydd – cyfle datblygu gwych i’r rhai sy’n ystyried gyrfa yn y sector cyffrous a chyflym hwn.

Diolch i arian y Gronfa Datblygu Sgiliau, mae’r Coleg wrthi’n ceisio recriwtio myfyrwyr sydd wedi graddio’n ddiweddar, neu weithwyr proffesiynol sydd â phrofiad diwydiant, mewn meysydd sydd wedi’u nodi fel blaenoriaethau sgiliau i Gymru gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, wyddoniaeth, mathemateg, troseddeg, busnes, cyfrifeg, TG, tirlunio, peirianneg ac arlwyo.

“Rydyn ni’n wirioneddol awyddus i ddatblygu talent gynhenid trwy ein hacademi addysgu bwrpasol, sydd wedi’i chynllunio’n ofalus i drochi darpar staff darlithio yn eu pwnc,” meddai Deon y Gyfadran Lucy Hartnoll. “Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn dilyn rhaglen fewnol a ddarperir gan ein staff eithriadol ac sy’n seiliedig ar y rhinweddau craidd sydd eu hangen i addysgu ein cyrsiau Safon Uwch a galwedigaethol yn llwyddiannus a chodi safonau hyd yn oed ymhellach.”

Bydd cyfranogwyr yr Academi Addysgu yn cael eu mentora’n agos gan arbenigwyr pwnc trwy gydol y broses, a byddant yn cwblhau unedau Agored Lefel 4 yn ogystal â mynychu tiwtorial am awr yr wythnos, arsylwi addysgu yn eu dewis faes a hyfforddi o amgylch Bagloriaeth Cymru.

Pan fydd rhaglen chwe mis yr Academi Addysgu yn dod i ben, gallai dysgwyr fod yn gymwys i symud ymlaen i gymhwyster TAR.

“Mae hwn yn gyfle datblygu gwych i rywun sydd wedi graddio’n ddiweddar, rhywun sy’n cwblhau cymhwyster ôl-raddedig, neu rywun sydd wedi gweithio mewn diwydiant ac sydd am gael pluen arall yn ei het,” ychwanegodd Lucy. “Bydd cwblhau rhaglen yr Academi Addysgu yn paratoi’r dysgwyr hyn yn wych ar gyfer y dyfodol. Bydd yn rhywbeth teilwng i’w roi ar eu CV a bydd y Coleg yn ymwybodol ohonyn nhw pan fydd swyddi darlithio ar gael.”

DIWEDD

Bydd yr Academi Addysgu gyntaf yn dechrau ym mis Chwefror 2020 a bydd yn rhedeg tan yr haf.

I ymgeisio ewch i www.gcs.ac.uk/cy/jobs

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn chwilio am bobl sydd wedi graddio’n ddiweddar neu bobl sydd â phrofiad diwydiant perthnasol yn y meysydd canlynol

  • Cemeg
  • Bioleg
  • Seicoleg
  • Mathemateg
  • Busnes
  • Economeg
  • Cyfrifeg
  • Troseddeg/Y Gyfraith
  • TG
  • Garddwriaeth a thirlunio
  • Peirianneg
  • Adeiladu
  • Arlwyo a lletygarwch.

Gwybodaeth ychwanegol:

Beth yw’r Academi Addysgu?
Rhaglen hyfforddi athrawon gychwynnol yw Academi Addysgu Coleg Gŵyr Abertawe sy’n bwriadu rhoi’r sgiliau a’r profiad sylfaenol i chi er mwyn symud ymlaen i rôl ddarlithio.

Bydd ein staff profiadol yn eich hyfforddi a’ch cefnogi a byddwch yn cael gwybodaeth ac ymarfer rhagorol i addysgu yn y sector addysg bellach.

Beth yw’r ymrwymiadau amser gofynnol?
Byddwch yn mynychu sesiwn tair awr un noson yr wythnos (i’w gadarnhau) am 20 wythnos a byddwch yn astudio ar gyfer cymwysterau Agored Lefel 4. Yn ogystal, cewch diwtorial un awr gyda mentor addysgu a rhwng pedair a chwe awr o brofiad addysgu (arsylwadau, addysgu tîm) yr wythnos.

Trefnir y profiad tiwtorial ac addysgu ymarferol o amgylch eich ymrwymiadau cyfredol a gellid ei wneud dros ddiwrnod neu sawl diwrnod.

Pa gymwysterau/brofiad sydd eu hangen arnaf?
I hyfforddi yn ein meysydd Safon Uwch byddwch wedi graddio yn y pwnc perthnasol gyda gradd anrhydedd 2.2 o leiaf.

Ar gyfer ein meysydd galwedigaethol bydd angen o leiaf gymhwyster Lefel 4 arnoch yn y maes neu wedi cael profiad diwydiannol/proffesiynol sylweddol yn eich maes ac yn meddu ar gymwysterau proffesiynol perthnasol.

O ran sgiliau personol, rydym yn chwilio am bobl sydd â brwdfrydedd ac angerdd am eu disgyblaeth yn ogystal â chwaraewyr tîm da a menter.

Beth yw’r profiad ymarferol yn yr ystafell ddosbarth?
Byddwch yn treulio amser gyda thîm addysgu dynodedig a byddwch yn cynnal arsylwadau yn seiliedig ar y theori a’r addysgeg y rhoddwyd sylw iddynt yn ystod eich sesiynau wedi’u haddysgu a’ch tiwtorial.

Wrth i chi fagu hyder, byddwch yn gallu addysgu tîm neu gyflwyno sesiynau meicro-addysgu ym mhresenoldeb darlithydd yr ystafell ddosbarth.

Beth yw’r manteision i mi?
s byddwch yn ennill lle yn ein Hacademi Addysgu byddwch yn gweithio’n agos gyda thimau addysgu ac arweinwyr y cwricwlwm.

Gallai dilyniant llwyddiannus trwy’r rhaglen arwain at oriau addysgu â thâl pe byddent ar gael (yn amodol ar wiriadau DBS) a swydd addysgu barhaol yn y Coleg (yn amodol ar gyfweliad llwyddiannus).

Gall cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus arwain at ddilyniant i’n rhaglen TAR.

Sut ydw i’n gwneud cais?
Ewch i www.gcs.ac.uk/cy/jobs lle byddwch yn gweld yr Academi Addysgu yn cael ei hysbysebu. Llenwch y ffurflen gais ac, yn yr adran wybodaeth ychwanegol, dywedwch wrthym – mewn dim mwy na 250 gair – pam rydych yn teimlo y dylech gael eich ystyried ar gyfer y rhaglen hon.

Oes cost?
Mae’r rhaglen yn rhad ac am ddim ar wahân i gost gychwynnol o £50 i dalu am wiriadau DBS.

Dyddiad cau: Dydd Gwener 17 Ionawr
Cyfweliadau: Dydd Gwener 24 Ionawr
Dyddiad cychwyn ymgeiswyr llwyddiannus: Dydd Mawrth 4 Chwefror
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â [email protected]


Related Articles

Responses